Achub pedwar o bobl wedi tân mewn siop yn Aberdâr

  • Cyhoeddwyd
Tân Premier Stores AberdârFfynhonnell y llun, Jordan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r siop ar Stryd y Farchnad tua 22:20 nos Fercher

Mae pedwar o bobl wedi cael eu hachub o fflat ail lawr wedi tân mewn siop yng nghanol Aberdâr.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Premier Stores ar Stryd y Farchnad tua 22:20 nos Fercher.

Cafodd tri oedolyn ac un plentyn driniaeth feddygol gan y gwasanaeth ambiwlans ar ôl cael eu hachub o'r fflat uwchben y siop.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y tân, a ddechreuodd ar lawr gwaelod yr adeilad.

Ffynhonnell y llun, John Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y tân ar lawr gwaelod yr adeilad

Cafodd criwiau tân eu danfon o orsafoedd Aberdâr, Hirwaun, a Merthyr Tudful.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod y sefyllfa yn un "eithriadol o heriol" oherwydd lleoliad yr eiddo yng nghanol y dref.

Cadarnhaodd y Gwasanaeth Ambiwlans iddynt ymateb i alwad yn Stryd y Farchnad, a bod un claf wedi ei gludo i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i achos y tân, a bod y pedwar cafodd eu hachub â mân anafiadau'n unig.

Disgrifiad o’r llun,

Dringodd Chandra Narra, berchennog y siop, a'i deulu ar do fflat yng nghefn yr adeilad

Chandra Narra - perchennog y siop - ei wraig, ei ferch tair blwydd oed a ffrind iddo oedd yn y fflat pan ddechreuodd y tân.

"Fe geision ni ddod i lawr drwy ddrws blaen y fflat, ond doeddwn ni ddim yn gallu yn sgil yr holl fwg," meddai.

"Mae yna ffenest sy'n allanfa dân yng nghefn y fflat sy'n arwain at do fflat.

"Roeddem yn gweiddi am help."