Pedwar yn yr ysbyty wedi i gar daro yn erbyn coeden
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar dyn o Aberpennar yn yr ysbyty, dau gydag anafiadau sy'n peryglu eu bywydau, ar ôl i gar daro yn erbyn coeden.
Dywed yr heddlu fod Toyota Yarris glas wedi gwyro o'r A4059 rhwng Aberdâr ac Aberpennar, ychydig wedi hanner nos, fore Sul.
Aed â dau ddyn, 20 a 22 oed, i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Cafodd dau ddyn arall, 19 a 22 oed , eu cludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr.
Mae Heddlu'r De yn apelio i dystion neu i unrhyw un a welodd y car ychydig cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.