Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd

Brysiwch draw, mae croeso i bawb!

Nel o Ysgol Gymraeg Garth Olwg yn disgwyl am ragbrawf y Llefaru

Parti unsain ysgol Llanychllwydog yn aros am rhagbrofion yng nghanolfan Red Dragon

Medi, Emily, Lily, Mari a Lois o Ynys Môn yn mwynhau cyn cystadlu gyda'r Band Pres

Ysgol Treganna'n ymarfer ar gyfer yr ensemble lleisiau... ble bynnag mae cyfle!

Mae cystadlu yn waith blinedig! Mared, Bethan a Chloe yn gwneud y mwyaf o gyfle i ymlacio

Cyfeilyddion y dyfodol? Mared ac Alys yn ymarfer

Elsa a Lois o Ynys Môn yn mwynhau ar y maes

Seth a Tili ar feic cerddorol Tafwyl yn ardal Bwrlwm Menter Caerdydd o'r maes

Blasus! Nel a Guto yn rhostio marshmallows

Nel o Ddinas Powys yn mwynhau ei Eisteddfod gyntaf!

Yr haul yn disgleirio wrth i Brigyn berfformio

Hwyl fawr tan yfory!