Oriel: Goreuon Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Am wythnos oedd hi ym Mae Caerdydd! Dyma rhai o'n hoff luniau o'r Eisteddfod...

Roedd croeso i bawb i Eisteddfod Caerdydd a'r Fro

Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrdd

Gwenno o Bontypridd yn mwynhau neidio

Rajasthan Heritage Brass Band yn diddanu'r picnicwyr ar risiau'r Senedd

Y DJ adnabyddus Huw Stephens oedd Llywydd y Dydd ddydd Mawrth - ac fe gafodd gyfarfod â'r dyn ei hun, Mistar Urdd!

Y model Jess Davies yn flogio o faes yr Urdd

Er ei bod hi'n bwrw glaw ddydd Mercher, wnaeth hynny ddim amharu ar hwyl Amelie a'i brawd bach Seb

Roedd yn rhaid i barti unsain ysgol Llanychllwydog godi'n gynnar er mwyn cyrraedd eu rhagbrawf nhw

Roedd Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn yr Eisteddfod ddydd Mercher - ond nid i gystadlu

Doedd y glaw ddim am stopio Elizabeth o Gwm Parc, Rhondda, rhag cael ei chips

Roedd Shane Williams draw yn y Bae ddydd Gwener, i lansio Cwpan Criced y Byd

Dwylo i fyny! Hwyl gyda swigod ar y maes

Rhaid edrych eich gorau i ddod i'r Steddfod - jest gofynnwch i Dobby

Elsa a Lois o Ynys Môn yn mwynhau ar y maes

Iestyn Tyne - enillydd y gadair ddydd Iau, yw'r person cyntaf erioed i 'ennill y dwbl' sef coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Ffion, Aisha a Leo, tri o gyflwynwyr newydd Ymbarél ar S4C - cyfres newydd i bobl ifanc sy'n dathlu amrywiaeth LHDT a hunaniaeth

Enlli wrth ei bodd â'r llun mae Dad wedi ei dynnu ohoni hi â'i harwr, Mistar Urdd
Hefyd o ddiddordeb: