Band Pres Llareggub yn New Orleans
- Cyhoeddwyd
Ym mis Ebrill, roedd cynrychiolaeth o Gymru mewn gŵyl gerddoriaeth adnabyddus yn New Orleans, wrth i Fand Pres Llareggub berfformio yn y French Quarter Festival yn ardal hanesyddol y ddinas.

Mae penwythnos yr ŵyl bellach yn atyniad enfawr yn New Orleans ac mae wedi ei chynnal yn y ddinas yn flynyddol ers 35 o flynyddoedd.
Mae'r ŵyl yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth jazz, blues, a zydeco - sef math arbennig o gerddoriaeth sy'n gyfuniad blues ac RnB a ddatblygodd yn Louisiana gan y gymuned Creole Ffrengig ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Yn ôl Owain Gruffudd, sylfaenydd Band Pres Llarregub, mae perfformio yn yr ŵyl wedi bod yn uchelgais ers blynyddoedd. Roedd S4C yn dilyn y band ar y daith i Louisiana, ac mae rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar y sianel nos Fawrth, 4 Mehefin.
"Mae New Orleans fel pererindod i unrhyw gerddor jazz. Dweud y gwir, mae cerddoriaeth boblogaidd i gyd yn dod o'r lle yma."
Felly beth oedd uchafbwynt y daith?: "Y profiad gorau oedd gweld plant ifanc o ardaloedd difreintiedig yn cymryd rhan yn y parêd."
Rhannodd Band Pres Llareggub luniau o'u taith gyda Cymru Fyw.




Ychwanegodd Gethin Evans, drymiwr y band: "Mae gan y ddinas gymaint o hanes ac mae gan bron bob adeilad stori chwedlonol. Braint ac anrhydedd oedd cael mynd yno i brofi ac i glywed yr hanes yn fyw.
"Ond mae gennym ni'r Cymry gymaint i'w ddysgu ynglŷn â sut i farchnata ein treftadaeth a'n hanes i'r byd.
"Dwi'n gadael New Orleans gyda pharch mawr at y bobl a'r ddinas, ond hefyd yn gwerthfawrogi gymaint sydd gennym ni fel Cymry Cymraeg i'w rhannu â'r byd."






















