Oriel: Gŵyl Fach y Fro 2019
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd Gŵyl Fach y Fro yn Y Barri ddydd Sadwrn, 15 Mehefin ac er gwaetha' rhai cawodydd o law, daeth yr haul i wenu ar yr ŵyl ger y môr.
Lluniau gan Sioned Birchall.

Ynys y Barri yw lleoliad yr ŵyl

Elin a Huw, cyflwynwyr Cyw yn agor yr ŵyl fore Sadwrn

Cadw'n sych mewn cawod o law

Rhieni a chefnogwyr yn mwynhau perfformiadau ar lwyfan Glanfa Gwynfor

Roedd Bronwen Lewis yn perfformio yn y prynhawn

Mwynhau'r bandiau

Gruffudd Eifion Owen, Bardd Plant Cymru, yn cynnal gweithdy gyda phlant lleol

Y Gerddorfa Ukulele Gymreig yn perfformio

Roedd gwaith celf trawiadol i'w weld ar y tywod i nodi bod yr ŵyl yn Ynys y Barri, cyn i'r llanw ddod i mewn a'i olchi i ffwrdd...

Cyfle i ddweud 'Pen-blwydd hapus' i Sali Mali'?

Meic Stevens oedd yn cloi'r ŵyl nos Sadwrn

Y dorf yn mwynhau'r gerddoriaeth ar noson braf
Hefyd o ddiddordeb: