Lluniau: Sesiwn Fawr Dolgellau 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y calendr gerddoriaeth yng Nghymru. Eleni cafodd yr ŵyl ei chynnal mewn nifer o leoliadau o amgylch y dref.
Y ffotograffydd Dafydd Nant o gwmni ffotoNant aeth i'r ŵyl ar ran Cymru Fyw.
Cafodd y Sesiwn Fawr ei sefydlu ym 1992. Ers hynny mae'r ŵyl wedi ei lleoli mewn nifer o lefydd gwahanol yn y dre. Eleni roedd un o'r prif lwyfannau yng nghefn gwesty'r Ship.
Roedd y criw yma o flaen y Clwb Rygbi yn edrych ymlaen at nos Wener y Sesiwn.
Mae Lewys yn un o fandiau ifanc mwyaf addawol y sin ar hyn o bryd, a'n digwydd dod o Ddolgellau hefyd!
Ydych chi'n gallu dyfalu pa fand oedd y criw yma'n mwynhau?!
…Candelas! Fe chwaraeodd y band set egnïol ar y nos Wener yn y Clwb Rygbi.
Daeth Maroon Town â synau ska, rap a dyb i lwyfan y Ship nos Wener. Mae'r band o Brixton wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ar draws y byd ers 30 mlynedd.
Mae llawer mwy na cherddoriaeth i'r Sesiwn Fawr erbyn hyn. Ar y dydd Sadwrn roedd Rhodri ap Dyfrig a Daniel Glyn yn trafod arlwy gomedi Hansh, S4C.
Ywain Myfyr yw un o sylfaenwyr y Sesiwn Fawr. Bu'n rhannu hanes yr ŵyl yn Nhŷ Siamas ddydd Sadwrn.
Roedd cerddoriaeth i'w glywed ym mhob cornel o'r dref ddydd Sadwrn. Dyma Mared Williams yn perfformio ym mwyty Dylanwad.
Roedd gwreiddiau'r Sesiwn fel gŵyl cerddoriaeth werin yn amlwg drwy gydol y penwythnos.
Mae'r Haul Wedi Dod! Wel, roedd y cymylau wedi clirio ar gyfer Geraint Lovgreen o leiaf! Bu'n perfformio gyda'r band ar lwyfan y sgwar.
Mae'n argoeli i fod yn haf prysur Gwilym, ac roedd cynulleidfa fawr y Sesiwn Fawr wedi eu plesio.
Calan oedd yn cloi'r nos Sadwrn ar lwyfan y Ship. Mae'r band gwerin cyfoes yn un o ffefrynau cynulleidfa'r Sesiwn Fawr ers blynyddoedd.