Gwyliau haf y sêr pan yn blant
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n amser i gael brêc o'r ysgol a'r gwaith ac mae rhai o enwogion Cymru wedi rhannu eu lluniau a'u hoff atgofion o wyliau eu plentyndod gyda Cymru Fyw. Diolch i'r wynebau adnabyddus yma (a'u rhieni!) am chwilio trwy hen albyms am luniau gwyliau'r gorffennol.
Y gyflwynwraig Heledd Cynwal
Dwi'n cofio cael sawl gwylie yng Nghymru pan o'n i'n blentyn, cofio mynd gyda'n nhad i Iwerddon, a chael lot fawr o sbort ar drip gefeillio i Plogonnec yn Llydaw gyda chriw o Landysul. Un gwylie' sy'n sicr yn aros yn y cof am sawl rheswm ydy'r bythefnos dreulies i a Mam yn Lanzarote pan o'n i'n ddeg.
Roedd y tirlun yn drawiadol iawn gan gofio cyment o losgfynyddoedd sydd yno, y bwyd môr yn fendigedig, a'r melon ddŵr gore' flases i erio'd. Ond, yn anffodus, fe ges i glust tost ofnadw' nath achosi twll yn yr eardrum felly'n amlwg, gorfod mynd i weld y doctor. Roedd hi'n dipyn o brofiad gan bod y feddygfa yn llythrennol mewn ogof, a'r cleifion i gyd yn eistedd mewn cylch ar greigiau o wahanol faint yn aros eu tro. Er nad oedd Mam na'r doctor yn medru siarad yr un iaith, trwy tamed bach o Ladin, ag ystumiau corfforol, fe ges i feddigyniaeth a lot fawr o gydymdeimlad gan y bobl leol. Gwylie' cofiadwy!
Yr actor a chyfarwyddwr Hanna Jarman
Pob gwylie ysgol bydden ni'n treulio amser gyda Mam-gu a Tad-cu yn Nhregaron. Y traeth agosaf atyn nhw oedd Aberaeron. Fi'n dwlu ar Aberaeron - y tai lliwgar, yr hufen iâ mêl a'r sglods. Nathon ni golli Mam-gu yn yr haf dwy flynedd yn ôl a dwi dal i fethu cal gin a thonic neu Pinot Grigio oer yn yr Harbourmaster gyda hi. Ma' un o llunie Tad-cu dal lan yn yr Harbourmaster dwi'n meddwl. Mae Aberaeron yn lle arbennig iawn, yn llawn atgofion melys.
Y cerddor Eady Crawford
Dyma lun o fi a fy chwaer Kizzy ar wyliau yn Barbados lle ma' lot o'n teulu ni yn byw. Dwi'n cofio mynd lawr i'r môr bob bore efo grandad i nofio ynghyd â'r jellyfish a wedyn cael crempog blueberry i frecwast yn tŷ nain ni. Un o'n hoff wyliau i.
Yr awdures Bethan Gwanas
Merch ffarm o'n i, felly doedden ni byth yn mynd ar wyliau fel teulu, ar wahân i'r Eisteddfod.
Gan amlaf, cael ein gyrru at deulu modryb fydden ni, a chan fod gen i fodryb yr un oed â fi: Rhiannon Frongoch (roedd Mam a Nain yn feichiog yr un pryd), ni'n dwy fyddai'n mynd efo'n gilydd. Does gen i ddim syniad lle roedden ni fan hyn, efallai yn Llanbrynmair gyda Anti Margaret, cyfnither Mam, ond mae'n dangos yn union be' fydden ni'n ei wneud: dringo coed a chreigiau, waliau, adeiladau, unrhyw beth; Rhiannon yn ddel mewn ffrog a chardigan a finnau mewn dillad llawer mwy addas ar gyfer dringo; Rhiannon yn gall ac yn cydio'n sownd yn y ffens a minnau'n ceisio profi nad o'n i angen cydio yn y ffens, diolch yn fawr.
O'n, ro'n i'n 'chydig o nytar, a do, mi ges i ambell godwm a sawl craith, a'r antur mwyaf poenus ohonyn nhw i gyd oedd pan wnaethon ni ddringo ar ben to sinc hen dŷ bach ar waelod yr ardd. Llithrodd y to sinc i ffwrdd, a ninnau arno, i ganol llond gwlad o ddail poethion oedd ymhell dros chwe troedfedd. Aw...
Yr awdur a'r actor Meilyr Siôn
Doedden ni fel teulu byth yn mynd ar wylie oherwydd ro'n ni'n byw ar ffarm ac roedd dad yn gweithio mewn hufenfa. Gwyliau i ni oedd diwrnod i ffwrdd fel teulu i rywle fel Cheddar Gorge, trip ysgol Sul a diwrnodau ar draeth Cei Bach. Ro'n ni angen bod adre' i odro!
Yr actores Ffion Medi, sy'n chwarae rhan Dani yn Rownd a Rownd
O'n i wrth fy modd yn cael mynd i Las gigantes yn Tenerife yn tyfu fyny. Pentre' bach ar droed mynydd hefo y becws gora erioed!
Hefyd o ddiddordeb