Lluniau'r Steddfod: Dydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Diwrnod y Coroni, diwrnod urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd, a diwrnod llawn cystadlu yn y Steddfod. Dafydd Owen, o Ffotonant, yw ein ffotograffydd gwadd ar faes yr Eisteddfod.

Ydy Maggi Noggi yn rhoi tips trin gwallt i JasonMohammad?Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Ydy Maggi Noggi yn rhoi tips trin gwallt i JasonMohammad tybed?

Falyri Jenkins a TalFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Falyri Jenkins, enillydd medal TH Parry-Williams yn dathlu gyda'i hŵyr Tal, oedd hefyd ar y llwyfan gyda hi yn ystod y seremoni brynhawn Llun.

Paratoi ar gyfer y ddawns flodauFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Yn barod ar gyfer y ddawns flodau

Da iawn dad! Y bardd buddugol Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a CasiFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Da iawn dad! bardd y Goron Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a Casi

Llongyfarchiadau i fardd y Goron Guto DafyddFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y bardd ifanc o Bwllheli i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 29 o geisiadau.

Yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo am y tro cyntaf.Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo am y tro cyntaf

Elin Angharad, o Ysbyty Ifan, yn cael ei chroesawu i'r Orsedd. Mae Elin yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol y Creuddyn ac mae'n arwain CoRwstFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Elin Angharad, o Ysbyty Ifan, yn cael ei chroesawu i'r Orsedd. Mae Elin yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol y Creuddyn ac mae'n arwain CoRwst

Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiadFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad

Cadno, Siryf a Chyfryngfab sef y chwaraewyr rygbi Jonathan Davies a Ken Owens a'r darlledwr Aled Samuel, yn mwynhau'r seremoni.Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Cyfryngfab, Siryf a Cadno sef y darlledwr Aled Samuel a'r chwaraewyr rygbi Ken Owens a Jonathan Davies yn mwynhau'r seremoni

Mae Robyn McBryde, sydd hefyd â chysylltiadau gyda'r tîm rygbi cenedlaethol, yn chwarae rhan flaenllaw yn y seremoni fel Ceidwad y CleddFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robyn McBryde, sydd hefyd â chysylltiadau gyda'r tîm rygbi cenedlaethol, yn chwarae rhan flaenllaw yn y seremoni fel Ceidwad y Cledd

Catrin Dafydd yn cael ei hanrhydeddu ar ôl ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Dafydd yn cael ei hanrhydeddu ar ôl ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018

Roy Griffiths o'r grŵp gwerin Plethyn, yn ei wisg werddFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Roy Griffiths o'r grŵp gwerin Plethyn, yn ei wisg werdd

Bydd chwaraewr rygbi Cymru, Jonathan 'Foxy' Davies yn cael ei adnabod yn yr orsedd fel Jon CadnoFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd chwaraewr rygbi Cymru, Jonathan 'Foxy' Davies yn cael ei adnabod yn yr orsedd fel Jon Cadno. Ydy enwau gorseddol yn mynd llawer gwell na hyn?

Lloyd Macey - o lwyfan yr X factor i gylch yr OrseddFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr Orsedd yr X Factor. Mae Lloyd Macey wedi mynd o lwyfan yr X Factor i Gylch yr Orsedd

Gwen gan yr ArchdderwyddFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Gwên gan yr Archdderwydd

Mae amserlen Caffi Maes B yn cynnwys sesiynau comedi, sgyrsiau a chyfweliadau yn ogystal â gigs acwstig gan rai o hoff fandiau CymruFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae amserlen Caffi Maes B yn cynnwys sesiynau comedi, sgyrsiau a chyfweliadau yn ogystal â gigs acwstig gan rai o hoff fandiau Cymru

Wedi blino'n lanFfynhonnell y llun, Dafydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Wedi blino'n lan

line

Hefyd o ddiddordeb // Also of interest