Lluniau'r Steddfod: Dydd Sadwrn // Saturday's pictures from the Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Oriel luniau o olygfeydd diwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst // A photo gallery from the final day of the National Eisteddfod in Llanrwst
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.


Wedi'r haul... Roedd y rhagolygon am dywydd garw yn gywir, wrth i law ddisgyn dros nos ac yn ystod y dydd // After the deluge... the weather forecasters were correct, as these empty deckchairs prove

Mae Mari, o Ddinbych, wedi darganfod y ffordd ddelfrydol i fynd o gwmpas y Maes, diolch i'w thad Tony// Mari, from Denbigh, has found the perfect way to go around the Maes - thanks to dad Tony

Dydd Sadwrn ydi diwrnod y corau meibion, a gyda 15 yn cystadlu mae angen i bawb fod ar eu gorau // On the final day of the Eisteddfod the male voice choirs take to the stage - and with 15 competing everyone must look the part

... sy'n haws dweud na gwneud ar gae Eisteddfod gwlyb // ... easier said than done after so much rain

Mae'r nerfau yn amlwg wrth i Gôr Meibion y Llannau gael eu galw i'r llwyfan // The nerves start to show backstage as Côr Meibion y Llannau walk towards the stage

Ar ôl canu, cyfle i ymlacio gyda diod sy'n cydweddu'r siwt // A pint to match the suit to help relax after competing

Roedd Llinos Edwards, o Bwll-glas, ger Rhuthun, yn hel atgofion wrth edrych ar waith celf wedi eu gwneud o hen recordiau Cymraeg // Llinos Edwards, from Ruthin, was reminiscing whilst looking at artwork based on old Welsh record sleeves

Roedd y tywydd wedi gorfodi Gwydion ap Llyr ac Ifan Rhys, o Lanuwchlyn, i'r Lle Celf gan fod Maes B wedi cau // The weather forced Gwydion ap Llyr and Ifan Rhys, from Llanuwchlyn, to change their plans. With the gigs in Maes B cancelled, they were off to see the art work in the Maes gallery.

Rhai o aelodau Clocswyr Conwy yn cadw'n brysur - ac yn sych - gefn llwyfan // Dancers from Clocswyr Conwy keeping busy - and dry - backstage

Y dewis perffaith o esgidiau ar gyfer unrhyw Eisteddfod // Two pairs of shoes that shout 'Eisteddfod!'

Ddoe, roedd Buddug Jones yn cael ei hurddo fel aelod newydd o'r Orsedd. Heddiw roedd hi'n ôl ar y Maes yn gwirfoddoli am 12 awr yn y swyddfa // Volunteer Buddug Jones is back on the Maes in charge of hospitality, 24 hours after being made a made a member of the Gorsedd in recognition of her work

Er gwaetha'r glaw, parhau wnaeth y perfformiad yma ar Lwyfan y Maes gan grŵp o Ysbyty Ifan // Singing in the rain - the show must go on for this group of singers from Ysbyty Ifan

Person dewr iawn ar y Maes... // Fortune favours the brave...

Yn y Pentref Gwyddoniaeth, roedd posib dianc i fyd arall gyda'r teclynnau yma // These virtual reality goggles took these children on a trip far away from the Eisteddfod

Diwedd wythnos brysur i Gwyn Sion Ifan yn ei stondin lyfrau Awen Meirion // It's the end of a busy week selling books on the Maes for Gwyn Sion Ifan

Bachgen ifanc yn edrych ar arddangosfa Y Lle Celf. Wrth i un Eisteddfod ddod i ben, mae'r cloc yn barod yn tician am y nesaf // A young boy contemplates one of the exhibits at the art gallery, as the National Eisteddfod comes to and end for another year.
Hefyd o ddiddordeb: