Lluniau'r Eisteddfod: Dydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Golygfeydd gorau dydd Mawrth ar y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Daniel a Medi a'u plant Sara, Martha a Gwion
Disgrifiad o’r llun,

Daniel a Medi o Gaerdydd gyda'u plant Sara, Martha a Gwion

Criw ifanc yn eistedd yn ardal Llwyfan y Maes
Disgrifiad o’r llun,

Pizza a peint wrth Lwyfan y Maes

Marc Rees a baner Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbryd Llywelyn i'w deimlo yn adeilad AGORA, sef prosiect celf yr artist Marc Rees

Eddie Ladd yn gwneud paned
Disgrifiad o’r llun,

Diolch am y baned Eddie Ladd! Mae'r perfformiwr a'r artist yn arwain sgyrsiau bach a mawr gyda'r cyhoedd ar y cyd â Sara McGaughey yn adeilad AGORA

Guto Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Guto Dafydd yn wên o glust i glust wrth ennill ei ail wobr yr wythnos hon - y Goron ddoe, Gwobr Goffa Daniel Owen heddiw. Tybed fydd o nôl cyn diwedd yr wythnos?!

Diferion glaw ar fylbiau golau // Light bulbs in the rain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n reit wlyb fore Mawrth...

Dau'n bwyta hufen iâ // Two mewn enjoy an ice crean
Disgrifiad o’r llun,

...ond roedd yn dal yn dywydd hufen iâ

Babi bach yn eistedd ar y gwair
Disgrifiad o’r llun,

...ac yn ddigon sych b'nawn Mawrth i Greta o Landudno fwynhau teimlo'r gwair rhwng bodiau ei thraed

Dau stiward
Disgrifiad o’r llun,

Hugh Roberts a Nerys Owen yn mwynhau clonc rhwng dyletswyddau stiwardio

Deian a Loli ar y Maes
Disgrifiad o’r llun,

Ribidirew! Sbïwch pwy ddaeth i'r Maes heddiw - Deian a Loli!

Owena Jones o'r Fali wedi cael cyfrol o gerddi gwerth chweil ar stondin lyfrau ail-law
Disgrifiad o’r llun,

Owena Jones o'r Fali wedi cael hen gyfrol o gerddi gwerth chweil ar stondin lyfrau ail-law

Pyped Wcw yn siarad efo plant // Children listen intently to a puppet
Disgrifiad o’r llun,

Y dyn ei hun, Wcw, yn sôn wrth rai o blant Cymru am ei gylchgrawn ar stondin Golwg

Beirdd Meirionnydd
Disgrifiad o’r llun,

Tîm o feirdd Meirionnydd yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer cystadlu yn Ymryson Barddas yn y Babell Lên. Bydd yr ornest i'w chlywed ar BBC Radio Cymru nos Sul

Crys T Cymru, Lloegr a Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r slogan yma wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o ddigwyddiadau'r Steddfod

line

Hefyd o ddiddordeb: