Lluniau'r Eisteddfod: Dydd Iau
- Cyhoeddwyd
Lluniau dydd Iau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.


Owi, blwydd oed o Lanuchwllyn yn mwynhau y tywydd braf

Caffi Maes B, y lle delfrydol am chydig o tenis fwrdd

Nel, tair oed o Bontypridd yn eistedd ar ysgwyddau ei thad Paul yn ystod perfformiad Cyw ar y Brif Lwyfan

Sesiwn werin ger y Bar Syched

Bethan o Lambed yn sbecian ar y dorf yn pasio

Celt o Aberystwyth yn eisedd mewn ambiwlans o'r 1930au

Ciwio yn amyneddgar i weld cystadleuaeth y ddrama fer, Dan y Wenallt

Gwenno o Langefni, sydd wedi ei thrawsnewid yn deigar am y dydd

Perfformiad o 'Rygbi: Annwyl i Mi / Dear to Me', dawns awyr agored byr sy'n dathlu rygbi yng Nghymru

Y Candelas yn perfformio ar lwyfan y Maes

Y gynulleidfa o flaen Llwyfan y Llannerch yn ymlacio ar wair. Mari Huws a Mari Elin oedd yn trafod gorddefnydd o blastig ac yr effaith ar yr amgylchedd.

Magi (11) a Gweno (10) o Ryd-y-Main ger Dolgellau yn eistedd yn un o geir y gyrrwr rali lleol, Elfyn Evans

Eli o'r Bala yn rhoi cynnig ar fwa a saeth

Atyniad poblogaidd ar y maes bob tro, Sioe Cyw ym mhabell S4C

Plismyn o Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y sialens i hel arian tuag at Tŷ Gobaith
Hefyd o ddiddordeb