Lluniau'r Steddfod: Dydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Lluniau dydd Gwener yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

Fel hogyn o Ddyffryn Conwy sy'n byw yn Nhregaron, mae gan Huw Edwards gysylltiad gyda'r Eisteddfod eleni a'r flwyddyn nesa.
"Dwi 'di cael fy ngyrru yma i sgowtio'r lle a gweld sut fydd hi flwyddyn nesa.
"Dwi heb fod yn yr Eisteddfod ers blynyddoedd, ers un Wyddgrug, ac mae o i weld yn llai.
"Dwi'n mynd i'r Pafiliwn nes mlaen i weld y Cadeirio - hwnna ydi'r big deal yn de."

Mae Irwyn Jones, o'r Bala, wedi bod yn yr Eisteddfod bob dydd i gefnogi a mwynhau.
"Dwi'n dod yma i gefnogi'r Steddfod a'r pethe, ac i gefnogi'r plant - sydd mewn corau ac yn dawnsio. Dwi yma hefyd i warchod y wyrion, a rhwng bob dim cael rhyw ambell i beint.
"Mae'n braf gweld hen ffrindiau ti heb weld ers blwyddyn diwetha' a gweld pwy sydd wedi cael mwy o blant a mwy o wyrion.
"Dwi wedi bod yn carafanio am dridiau ac mae'r plant rŵan wedi cymryd drosodd a fi a 'ngwraig yn dod fewn bob dydd. Dwi'n meddwl mai ni gafodd y dyddiau gorau.
"Fyddai yma fory hefyd, dwi'n hoff ddiawledig o'r corau meibion."

Rhai o berfformwyr dawnswyr Theatr Stryd yn cael hwyl ar y Maes.

Gorymdaith a seremoni'r Orsedd oedd un o brif ddigwyddiadau'r diwrnod wrth i aelodau newydd gael eu hurddo.

Diwrnod llawn balchder - a nerfau - i ferched Dawns y Blodau.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Trystan Lewis yn annerch y dorf.

Dyma Eisteddfod gyntaf Grace Emily Jones - ac fe gafodd ei hurddo.
Dywedodd o ferch o Seland Newydd, sydd bellach yn byw gyda'i gŵr Llion yn Llanfihangel Glyn Myfyr, ac oedd hefyd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn:
"Dwi wedi caru'r profiad o fod yn yr Eisteddfod a gweld pa mor gryf ydi'r iaith.
"Roedd cael fy urddo yn brofiad anhygoel - dim fel unrhywbeth dwi wedi ei wneud o'r blaen."
Mae Grace yn hyfforddi tîm merched dan 15 Nant Conwy:
"Roeddwn i'n ofn pan nes i ddechrau hyfforddi genod Nant - dim ond newydd ddechrau siarad Cymraeg yn gyhoeddus oeddwn i. Ond mae nhw wedi bod yn anhygoel ac yn help mawr."

Aelod newydd - a balch iawn - o'r Orsedd, y digrifwr Tudur Owen.

Roedd yn ddiwrnod i'w gofio i nifer yn y gynulleidfa hefyd.

Ychydig iawn o'r Eisteddfod mae Ela Jones wedi ei weld gan ei bod wedi bod yn gweithio yn y bar Syched drwy'r wythnos.
Ond ar ddydd Gwener roedd gan y ferch o Ddinbych reswm arall i fynd i'r Eisteddfod heblaw ennill cyflog.
"Ro' ni'n gweithio tan ddau bore ma, ond nes i ddod i fewn efo Mam am wyth i weld hi'n cystadlu efo'r côr. Gafodd nhw gynta' ac ail.
"Dwi wedi bod yn gweithio bob dydd - am 14 awr y diwrnod o'r blaen.
"Mae Maes B wedi canslo felly ella fydd hi'n llai prysur heno achos fydd lot wedi mynd adra."

Does gan Shan Ashton ddim amheuaeth beth ydi uchafbwynt y Steddfod hyd yma iddi hi:
"Gai Toms a'r Banditos yn y Tŷ Gwerin - o'r nodyn cyntaf roedd pawb ar eu traed.
"Roedd o'n lot o hwyl a dyna'r tro cyntaf i fi weld Gai yn perfformio mewn leotard."
Er ei bod wedi byw yng Nghapel Curig ers blynyddoedd, mae ei gwreiddiau yn Nhregaron - ac yn barod am flwyddyn nesaf.
"Dwi wedi bwcio lle i aros efo'r teulu yn barod," meddai.

Tra roedd yr haul yn gwenu, roedd ambell i eisteddfotwr yn gwneud yr un peth.

Prif seremoni'r dydd oedd y Cadeirio.

... ac enillydd poblogaidd iawn yn T. James Jones - neu Jim Parc Nest o roi ei enw barddol yn yr Orsedd.


Mae'r holl fandiau sy'n chwarae ar y Maes yn gwneud i un gŵr fod eisiau dawnsio.
"Dwi'n clywed y gerddoriaeth a dwi'n ymuno efo nhw weithiau - dwi'n caru dawnsio," meddai Yagoob Alyas, un o'r tîm diogelwch, sy'n wreiddiol o Sudan, ond nawr yn byw yn Birmingham.
"Dwi'n hoffi fan yma - mae'r pobl yn hapus ac yn hoffi siarad efo fi.
"Dwi eisiau i Sudan fod fel Cymru, efo heddwch."

Mae Gwilym a Gruffydd wedi dod o Fryste i'r Steddfod, gan bod eu tad Huw yn wreiddiol o Landudno.
Maen nhw wedi arfer clywed Cymraeg gan eu bod yn mynd i Gylch Meithrin yn y ddinas.
"Mae tua 10 yna fel arfer, ac mae un person o Ynys Môn sy'n dod yr holl ffordd o Gloucester - tua 20 milltir i ffwrdd.
"Mae'n braf i finnau fynd yno hefyd i gael siarad Cymraeg - a siarad efo pobl gogledd Cymru."

Ychydig iawn mae Eirian Jones, sy'n byw ger Corwen, wedi ei weld o'r Maes heddiw na weddill yr wythnos - mae hi'n un o'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn y swyddfa.
"Dwi yma am 10 diwrnod. Dwi'n dechrau tua 8am a fel arfer yma tan tua 8pm, yn dibynnu ar weithgareddau.
"Ryda ni'n delio efo unrhyw ymholiad - o gystadleuwyr efo cwestiynau, eisiau beirniadaeth, neu nôl eu gwobr a'u harian.
"Rydan ni'n helpu - neu'n mynd â nhw at rhywun sy'n gwybod yn well na ni.
"Dwi'n gwneud hyn ers diwedd yr 1990au ar ôl cael galwad ffôn yn gofyn i mi helpu gan bod rhywun yn sâl."
Hefyd o ddiddordeb: