Lluniau'r Steddfod: Dydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Oriel luniau o olygfeydd diwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

line
Cadeiriau haul gwag yn y mwd // Empty deckchairs in the mud

Wedi'r haul... Roedd y rhagolygon am dywydd garw yn gywir, wrth i law ddisgyn dros nos ac yn ystod y dydd.

Plentyn yn cael ei gario ar gefn ei dad // A young child being carried on his father's back

Mae Mari, o Ddinbych, wedi darganfod y ffordd ddelfrydol i fynd o gwmpas y Maes, diolch i'w thad.

Dywedodd Tony Wood: "Hwn ydi ei cheffyl hi. Bob tro 'da ni eisiau iddi fynd i mewn, 'da ni'n gofyn os ydi hi eisiau mynd ar gefn y ceffyl - ac mae hi'n deall be' 'da ni'n feddwl.

"Roedda ni wedi meddwl campio neithiwr a heddiw, ond wnawn ni ddim oherwydd y tywydd.

"Rydan ni am fynd i weld Cyw efo'r plant ac i'r Pafiliwn i weld y cystadlaethau - mae Ifan, yr hogyn, wedi bod yn edrych ar y cystadlu ar y teledu felly mae o eisiau mynd yno."

Aelod o gor yn sythu tei-bo canwr arall // A choir member straightening the bow-tie of another member

Dydd Sadwrn ydi diwrnod y corau meibion, a gyda 15 yn cystadlu mae angen i bawb fod ar eu gorau.

Aelod o gor yn sychu'r mwd o'i esgidiau // A choir member wiping the mud from his shoes

... sy'n haws dweud na gwneud ar gae Eisteddfod gwlyb a mwdlyd.

Cor yn cerdded tuag at y llwyfan // A choir walking towards the stage

Mae'r nerfau yn amlwg wrth i Gôr Meibion y Llannau gael eu galw i'r llwyfan.

Aelod o gor yn ei siwt yn cael peint ar y Maes // A choir member enjoys a pint on the Eisteddfod field

Ar ôl canu, cyfle i ymlacio gyda diod sy'n cydweddu'r siwt.

Dynes o flaen gwaith celf // A woman stand in front of artwork

Roedd Llinos Edwards, o Bwll-glas, ger Rhuthun, yn hel atgofion wrth edrych ar waith celf wedi eu gwneud o hen recordiau Cymraeg:

"Roedd gen i un 'Dwi isio bod yn Sais' gan Huw Jones ers talwm. Ella bod o yn yr atic, neu yn nhŷ Mam a Dad o hyd.

"Mae'r plant yma efo fi heddiw. Roedden nhw i fod yn Maes B neithiwr. Roedden nhw'n siomedig bod o wedi ei ganslo, ond fel rhiant roeddwn i'n falch - doedd 'na'm rhaid i fi wneud y penderfyniad a bod yn 'Bad Cop'"

Dau ddyn ifanc gyda pheint o gwrw yn Y Lle Celf // Two young men with a pint of beer in the art gallery

Roedd y tywydd wedi gorfodi Gwydion ap Llyr ac Ifan Rhys, o Lanuwchllyn, i'r Lle Celf gan fod Maes B wedi cau.

"Neshi gysgu mewn adlen mêt neithiwr," meddai Ifan.

"Aetho ni allan i Lanrwst ond os ti ddim mewn yn rhywle cyn 11pm gei di ddiawl o drafferth cael peint.

"Fel arfer fasa ni'n dod ar y Maes yn ystod y dydd, hel criw a mynd i'r bar, ond oherwydd y glaw 'da ni am edrych o gwmpas ambell beth ac wedi dod i fan yma am sbec."

Tri o blant gefn llwyfan yn chwarae gyda ffôn // Three children back-stage playing with a mobile phone

Rhai o aelodau Clocswyr Conwy yn cadw'n brysur - ac yn sych - gefn llwyfan.

Par o glocsiau a par o sgidiau dwr // A pair of clocks and a pair of wellingtons

Y dewis perffaith o esgidiau ar gyfer unrhyw Eisteddfod.

Stiward yn paratoi paned o de // A steward perparing a cup of tea

Ddoe, roedd Buddug Jones yn cael ei hurddo fel aelod newydd o'r Orsedd. Heddiw roedd hi yn ôl ar y Maes yn gwirfoddoli - fel mae hi wedi gwneud ers Eisteddfod Caernarfon yn 1979.

"Roeddwn i mewn bore 'ma am 9am, yn glanhau'r gegin a gwneud paneidiau," meddai. "Am 12 fydda i'n arolygu yn yr ystafell ymgynnull - wedyn nôl i fan yma tan y diwedd - tua 10pm mae'n siŵr.

"Dwi wedi blino erbyn hyn - dwi am aros yn fy ngwely bore fory."

Cor ar lwyfan a'r gynulleidfa o dan ambarel // A choir singing on stage with onlookers taking shelter under thei umberellas

Er gwaetha'r glaw, parhau wnaeth y perfformiad yma ar Lwyfan y Maes gan grŵp o Ysbyty Ifan.

Gwerthwr hufan ia // Ice Cream seller

Person dewr iawn ar y Maes...

Plant gyda teclynnau VR // Children with virtual reality glasses

Yn y Pentref Gwyddoniaeth, roedd posib dianc i fyd arall gyda'r teclynnau yma.

Perchennog stondin // Stallholder

Mae'n ddiwedd wythnos brysur i Gwyn Sion Ifan yn ei stondin lyfrau Awen Meirion:

"Oherwydd cymaint o law dros nos dwi'm yn meddwl gwelwn ni gymaint â hynny o bobl heddiw.

"Mae pethau wedi mynd yn dda iawn drwy'r wythnos o gysidro'r rhagolygon tywydd. Mae'r bobl dal wedi dod allan ac roedd y dyddiau braf yn ystod yr wythnos wedi bod yn help garw i fusnes."

Bachgen ifanc yn edrych ar waith celf o gloc yn y Lle Celf // A child looking at an artwork of a clock in a gallery

Wrth i'r Eisteddfod ddod i ben, efallai bod y bachgen ifanc yma yn Y Lle Celf yn cyfri'r oriau i'r un nesaf yn barod.

Hefyd o ddiddordeb: