Oriel: Eisteddfod Y Wladfa
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd Eisteddfod Y Wladfa ym Mhatagonia ar 19 Hydref, ac mi roedd y ffotograffydd Iestyn Hughes o Bow Street ger Aberystwyth yno. Dyma ddetholiad o luniau o'r diwrnod:

Yr Orsedd yn gorymdeithio o Gapel Bethel i Feini'r Orsedd

Dawns Werin yn ystod Seremoni'r Orsedd

Mario Jones, Ceidwad y Cledd

Baner Cymru ar Ganolfan Dewi Sant lle cynhaliwyd yr Eisteddfod

Alejandro Jones yn adrodd Monolog yn Sbaeneg

Ysgol Gerdd Y Gaiman yn cystadlu yn y gystadleuaeth Côr gyda Symudiadau

Cystadleuaeth y Côr Merched

A Oes Heddwch? Seremoni Cadeirio Gerandine Mac Burney Jones o'r Gaiman

Y ddawns flodau yn seremoni'r Cadeirio

Enillwyr y Ddawns Werin

Perfformiad dawns fuddugol egnïol a chynhwysol Ffrindiau Bryncrwn (Gaiman)

Coroni Owen Tydur Jones

Dawns Latinaidd i gyfarch enillydd y Goron

Cystadleuaeth Pedwarawd: Gladys a Glenda Thomas, Billy Hughes a Pablo Arce

Billy Hughes, ymwelydd cyson â'r llwyfan, yn ennill yng nghystadleuaeth yr Emyn Cymraeg

Facundo Lopez Morgan o Borth Madryn yn cipio Medal Dewi Sant

Côr Capel Bethel
Hefyd o ddiddordeb: