Lluniau: Gwobrau'r Selar 2020
- Cyhoeddwyd
Gwobrau'r Selar yw un o uchafbwyntiau'r sin gerddorol yng Nghymru, ac dros y penwythnos cafodd y gwobrau eu cynnal am yr wythfed mlynedd.
Dyma gyfle i chi fwynhau blas o'r hyn ddigwyddodd yn Aberystwyth dros y penwythnos.


Gwilym oedd prif enillwyr y gwobrau gan hawlio 'Band Gorau', 'Cân Orau' a 'Fideo Cerddoriaeth Gorau'

Fleur De Lys enillodd y wobr am y 'Record Hir Orau' am eu halbwm cyntaf 'O Mi Awn am Dro'

Doedd Tudur Owen ddim yno ar y noson, ond fe wnaeth Elin Fflur yn siwr ei fod ddim yn colli'r cyffro! Enillodd Tudur y wobr 'Cyflwynydd Gorau'

Roedd y dorf yn sicr yn mwynhau perfformiad Fleur de Lys

Gwilym a Fleur De Lys oedd prif fandiau yn perfformio ar y llwyfan nos Wener

Elis Derby oedd 'Artist Unigol Gorau' ac Yws Gwynedd cafodd ei enwi fel 'Seren y Sin'

Kim Hon, enillwyr y wobr 'Band neu Artist Newydd'

Lewys, un o'r artistiaid oedd yn perfformio yn y gwobrau

Los Blancos oedd yr act olaf ar y llwyfan nos Sadwrn

Casglu gwobr yn gyfle am lun i aelodau o Gwilym

Fleur de Lys yn casglu y wobr 'Record Hir Orau'

Enillwyr mawr y noson, Gwilym
Enillwyr Gwobrau'r Selar 2020 - Rhestr lawn o enillwyr
Cân Orau (Noddir gan PRS): - \Neidia/ - Gwilym
Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Technegol): - Clwb Ifor Bach
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): - Chawn Beanz - Pasta Hull
Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Tudur Owen
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rownd a Rownd): Elis Derby
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Kim Hon
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Lle yn y Byd Mae Hyn? - Papur Wal
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Gwalia - Gwilym
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis): Tafwyl
Seren y Sin: Yws Gwynedd
Record Hir Orau (Noddir gan Diogel): O Mi Awn am Dro - Fleur de Lys
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Gwilym
Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant): Gruff Rhys

Hefyd o ddiddordeb: