Oriel fy milltir sgwâr: Pen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Gyda'r rhan fwyaf ohonon ni yn gorfod aros yn ein tai yn hunan-ynysu neu gadw pellter oddi wrth ein gilydd, mae'n anodd gwerthfawrogi byd natur a mwynhau arwyddion y gwanwyn sydd o'n cwmpas.
Cyn i ni gael ein gorchymyn i aros adref, bu'r ffotograffydd Dafydd Owen, ffotoNant, sy'n byw ym mhentref Llangian ym Mhen Llŷn, yn tynnu lluniau o'i filltir sgwâr ar benwythnos braf:

Ŵyn bach newydd ar y ffarm. Hyd yn oed efo pandemig rhyngwladol mae'n rhaid i'r ffermwyr ddal i fynd efo'r tymor defaid ac ŵyn.

Yr olygfa am Garn Fadryn - man i fwynhau machludoedd anhygoel Pen Llŷn.

Mae'r cytiau hyn ar draeth Abersoch yn cael eu gwerthu am ddegau o filoedd. Does neb yn gallu eu defnyddio ar hyn o bryd...

Dyma ochr Fictoraidd y cytiau môr - maen nhw wedi bod yma ers dros ganrif.

Y môr yn Abersoch. Mae miloedd yn dod yn eu heidiau bob blwyddyn i fwynhau'r lan môr, ond mae'n dipyn tawelach ar ddiwrnod braf a distaw yn y gwanwyn.

Pentref Llangian. Yn y neuadd hon roedd digwyddiadau'r gymuned, ac ar y chwith oedd siop a swyddfa bost y pentref.

Pan mae'r nos yn ymestyn a'r tywydd yn brafiach a'r cennin Pedr i'w gweld ym mhobman, mae'n arwydd fod y gaeaf ar ei ffordd allan.

Distawrwydd y gwanwyn yn Abersoch, lle i'r enaid gael llonydd.

Yr eithin yn blodeuo - arwydd arall o'r gwanwyn i godi calon.

Mae byd natur yn cario 'mlaen fel arfer, er gwaetha'r coronafeirws.

Hefyd o ddiddordeb: