Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality
Mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod yn gobeithio y gallai Stadiwm Principality agor fel ysbyty dros dro erbyn diwedd yr wythnos.
Mae'r stadiwm ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i fod yn leoliad ar gyfer hyd at 2,000 o wlâu, a'r bwriad yw y bydd y 300 cyntaf yno erbyn ddydd Sul.
Bydd yr ysbyty dros dro yn cael ei enwi'n Ysbyty Calon y Ddraig, a hynny yn dilyn nifer o awgrymiadau gan y cyhoedd.
Y disgwyl yw y bydd y safle ar gael ar gyfer cleifion sydd eisoes yn dechrau gwella o coronafeirws, gan olygu bod modd gadael i'r rhai mewn cyflwr mwy difrifol gael eu trin yn yr ysbyty.
"Mae dau sefydliad sydd wrth galon bywyd yng Nghymru yn dod at ei gilydd - y gwasanaeth iechyd, a ddeilliodd o Gymru, a rygbi Cymru, yn cydweithio gyda'i gilydd," meddai Mr Richards.