Oriel: Tafwyl Digidol - gŵyl wahanol i'r arfer
- Cyhoeddwyd
Bydd Tafwyl, dathliad celfyddydol a diwylliannol yng nghanol Caerdydd, yn edrych yn dra gwahanol eleni.
Oherwydd pandemig Covid-19 mae'r ŵyl yn ei ffurf arferol wedi ei ohirio. Ond bydd rhaglen o ddigwyddiadau'n cael ei ffrydio'n fyw ddydd Sadwrn, 20 Mehefin fel rhan o 'Tafwyl Digidol 2020', gan gynnwys cerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant. Mae rhestr lawn o'r digwyddiadau i'w gweld yma, dolen allanol.
Yn dilyn y rheolau yn ymwneud â Covid-19, mae nifer o'r artistiaid wedi recordio eu set eisoes. Bydd eraill, fel Al Lewis ac HMS Morris yn perfformio'n fyw o Gastell Caerdydd ar 20 Mehefin.
Felly dyma ragflas o hyn sydd gan Tafwyl 2020 ei gynnig.


Un sydd wedi ffilmio ei set ymlaen llaw ydi'r cerddor sy'n cyfuno cerddoriaeth roc, pop, dawns a ffync- yr amryddawn Alun Gaffey.
Roedd rheolau iechyd a diogelwch, a glanhau a chyfnewid setiau rhwng perfformiadau, yn golygu bod angen recordio pum artist o flaen llaw, gyda phump yn perfformio'n fyw ar y dydd.


Yr athletwr wltra a chymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, Lowri Morgan, sy'n sgwrsio am ei chyfrol hunangofiannol newydd gyda Beti George.


Recordiodd y brodor o Gaerdydd, y cerddor gwerin poblogaidd, Gareth Bonello, ei ganeuon tu fewn i'r gorthwr Normanaidd sydd yn y castell.


Bydd un o'r sgyrsiau fydd ar gael ar y wefan yn gweld yr awdur Jon Gower (chwith) a John Rea yn trafod 'atgyfodi'. Bydd John Rea yn trafod ei brosiect ddiweddar, a sut aeth ati i adfywio lleisiau'r gorffennol o archif Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, a chyfansoddi gwaith cerddorol llawn emosiwn.


Onwy Gower yw awdures Llyfr Adar Mawr y Plant - llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru gan gynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu'n arbennig ar gyfer y gyfrol. Bydd Onwy yn trafod y llyfr gyda'i thad, Jon.
Fel adroddodd Cymru Fyw ym mis Rhagfyr, mae'n bosib mai Onwy Gower, merch 10 mlwydd oed o Gaerdydd, yw'r person ieuengaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg.


Sgwrs Cymreictod, yr Iaith Gymraeg a bod yn wyn, dolen allanol - trafodaeth ar hunaniaeth wedi'i ysbrydoli gan The Privilege Cafe, yng nghwmni Seren Jones, Mali Ann Rees, Leena Sarah Farhat, Gareth Hicks a Dr Dafydd Trystan.


Bydd set y gantores Casi yn cael ei ffrydio am 17.15 ddydd Sadwrn.


Gweithdy cyfansoddi arbennig i blant a phobl ifanc gyda Kizzy Crawford.


Golwr oedd yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Euro 2016, Owain Fôn Williams, yn hel atgofion gyda Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru.


Mei Gwynedd yn perfformio yng nghanol maes y Castell.


Byddwch chi'n barod am ŵyl ar ôl dysgu sut i wneud band gwallt pom-pom yng ngweithdy Alis Knits.


Dwy ran o dair o'r band Adwaith, Gwenllian Anthony a Hollie Singer, yn canu ym Mhorth y Gogledd.


Castell Caerdydd yw cartref yr ŵyl eto eleni, ond gydag ychydig llai o dyrfa nag arfer.

Hefyd o ddiddordeb: