Llwyfan Encore: Dydd Mawrth 4 Awst

  • Cyhoeddwyd
Encore

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Arwyddo'r Anthem: Gweithdy 3 - Ymarfer y bennill a'r gytgan

Disgrifiad,

Arwyddo'r Anthem: Gweithdy 3 - Ymarfer y bennill a'r gytgan

Dewch i ddysgu arwyddo'r Anthem Genedlaethol gyda Sarah Lawrence a Cathryn McShane.

Penllanw y prosiect hwn, fel rhan o'r Eisteddfod AmGen, fydd première o'r perfformiad fel diweddglo Sioe yr Eisteddfod Goll a fydd ar nos Sadwrn 8 Awst am 20.00 ar S4C.

Os hoffech gyfrannu, gan ddysgu'r arwyddo, ffilmio eich hun yn ei berfformio, a'i anfon atom ar gyfer ei gynnwys yn y perfformiad hwn, yna cliciwch ar y linc am wybodaeth bellach: Sgwrs o Bwys: Arwyddo'r Anthem

Rhuban Glas y Degawdau

Disgrifiad,

Cyfle i fwynhau R Alun Evans yn adrodd ychydig o hanes Gwobr Goffa David Ellis.

Cyfle i fwynhau R Alun Evans yn adrodd ychydig o hanes un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol, sef Gwobr Goffa David Ellis, a hynny o’i brofiad fel Arweinydd Llwyfan y Pafiliwn yn cyflwyno’r wobr am ddeng mlynedd.

#UnawdEncore: Luciano Williamson: Ni Ddylwn ei Losgi i Lawr

Disgrifiad,

#UnawdEncore: Luciano Williamson: Ni Ddylwn ei Losgi i Lawr

Luciano Williamson: Ni Ddylwn ei Losgi i Lawr

Perfformiad gan Samantha Din (trwmped), Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ple angerddol Luciano Williamson yn adleisio araith David Lloyd George yn Eisteddfod 1916 (yn ystod y Rhyfel Mawr), 'Pam na ddylid canu?'

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle crëwyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan ynysu.

Meirion Williams, Portreadau o Natur 1 ‘Fy Ngardd’

Disgrifiad,

Llais Osian Wyn Bowen gyda Zoë Smith, piano.

Y cyntaf mewn set o bedair cân a gyhoeddwyd gan Tŷ Cerdd a oedd heb eu recordio hyd yma.

Llais Osian Wyn Bowen gyda Zoë Smith ar y piano. Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Disgrifiad,

Perfformiad o gomisiwn newydd mewn 3 symudiad gan Patrick Rimes.

Perfformiad o gomisiwn newydd mewn 3 symudiad gan Patrick Rimes, gan ensemble arbennig o rai o enillwyr y Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed dros y blynyddoedd.

Gyda Steffan Morris, Gwyn Owen, Carys Gittins, Jâms Coleman a Glain Dafydd.

Cefnogir gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Disgrifiad,

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 1. Ballot Bocs a 2. Cardigan

Dyma ddwy gân wreiddiol gafodd eu cyfansoddi gan Patrick Rimes yn ystod y pandemig.

Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.