Llwyfan Encore: Dydd Sadwrn 8 Awst
- Cyhoeddwyd
Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweithdy Canu 3: Ymateb wrth Berfformio
Dewch i ddysgu a rhannu profiadau gyda chantorion profiadol o'r byd clasurol proffesiynol, Sian Meinir, Fflur Wyn a Siôn Goronwy
Deuawdau'r Ddau Wladgarol
John Ieuan Jones a Ryan Vaughan Davies yn morio canu'r hen ffefrynnau o'r byd opera gydag Iwan Owen ar y piano.
Mansel Thomas: Pedair Gweddi o'r Gaeleg
Zoë Smith ar y piano gyda'r soprano Jess Robinson (28 Chwefror 2019, Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru): Mawl i Ti, O Dduw, O Bendithia Iôr, Tangnefedd Duw, Ti Dduw pob rhyfeddod.
Gwynt o'r Ynys! Caneuon Cymreig y Mardi Gras
Sesiwn o gerddoriaeth Mardi Gras/Jazz a Blŵs, a gogwydd newydd ar rai o glasuron Cymreig!
Bari Gwilliam - Trwmped, Gwyn Owen -Trwmped / Flugel, Berwyn Jones - Mellophonium, Merin Lleu - Trombôn, Peter Cowlishaw - Sousaphone, Aled Evans - Allweddell, Nathan Williams - Kit a Colin Daimond - Taro.
Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 10. Minneapolis
Yn ystod Mis Mawrth 2020, roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi'n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.
Fel gymaint o weithiau o'r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, roedd y Crowdfunder, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i'w helpu gyda chostau'r daith adref wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau! Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, ac roedd deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.
Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.
Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu'r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma ddarn olaf y gyfres i'w mwynhau.