Ystrad Fflur: Première o gân o gynhyrchiad theatrig Lloergan
- Cyhoeddwyd
Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Os nad yw'r fideo yn chwarae ar eich dyfais, clicwch fan yma.
Première o gân gan Griff Lynch a Lewys Wyn, allan o un o brif sioeau Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Lloergan.
Mae'r sioe wedi ei hysgrifennu gan yr awdur Fflur Dafydd, gyda'r cerddorion Griff Lynch a'i frawd Lewys Wyn yn gyfrifol am y caneuon, Rhys Taylor yn trefnu'r gerddoriaeth, ac Angharad Lee yn cyfarwyddo.
Sioe wedi ei gosod yn y dyfodol yw Lloergan, sy'n edrych ar berthynas gofodwraig o Geredigion gyda'r lleuad, tra hefyd yn archwilio ei hymrwymiad i'w milltir sgwâr.
Yn perfformio mae Griff a Lewys, ynghyd â Chôr Lloergan yr Eisteddfod. Mae'r Côr wedi bod yn ymarfer dros gyfnod yr hunan-ynysu gyda Rhys, a nifer ohonynt wedi cydio yn y sialens o gyfrannu yn unigol fel aelod o'r côr, a hynny o'u cartrefi ar gyfer y recordiad hwn.
Penllanw prosiect partneriaethol pum mlynedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'r Urdd a Phrifysgolion Cymru yw hwn i ddathlu seryddiaeth trwy'r celfyddydau, gan ddiolch i'r Royal Astronomical Society am eu cefnogaeth wrth iddynt ddathlu'r 200.