Oriel: Cymuned pentref Llangwm, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Yn ei lyfr newydd - The Village - mae'r ffotograffydd David Wilson yn rhoi cipolwg ar gymuned glos ei bentref, Llangwm yn Sir Benfro; y bobl a'r lleoliadau sydd wrth galon y lle.
Mae wedi rhannu rhai o'i hoff luniau o'i gasgliad gyda BBC Cymru Fyw:
Mae byw mewn lle sy'n cyfrannu at eich hapusrwydd yn fraint. I fy nheulu a mi, Llangwm yw'r lle hapus hwnnw.
Felly yn ystod 2019, es i ati i ddogfennu'r pentref ar lan aber afon Cleddau yng ngorllewin Cymru. Dyma oedd fy llyfr mwyaf boddhaol hyd yma, ac un ro'n i'n ei obeithio fyddai'n cofnodi'n berffaith y gymuned anhygoel yma.
Y tîm rygbi dan 14 yn camu i'r cae. Mae tîm rygbi wedi bod yn Llangwm ers 1885. I raddau helaeth, mae hunaniaeth y pentref wedi ei adeiladu o amgylch y clwb, sydd â thimau o oedran dan 7 hyd at y tîm hŷn.
Yn draddodiadol, byddai'r gwrthwynebwyr yn cyrraedd yn teimlo'n eitha' petrus; gallai cefnogwyr y tîm cartref fod yn benderfynol iawn, gyda gemau yn cael eu hail-drefnu bob hyn a hyn oherwydd fod pobl yn rhedeg ar y cae.
Oherwydd ei leoliad ar lannau aber y Cleddau, mae hanes y pentref wedi ei blethu â'r dŵr. Yn y gorffennol, byddai'n ffynhonnell o incwm drwy'r diwydiant pysgota. Heddiw, mae'r afon yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer gweithgareddau hamdden.
Ar fore oer yn Ionawr, ges i fy nenu gan batrwm cywrain y crisialau iâ a'r cwlwm yn rhaff y cwch yma.
Er eu bod wedi ymddeol, yng nghanol eu cerddoriaeth mae Bob a Sheila dal yn ifanc. Dwi wrth fy modd â'r golau yn llygaid Sheila a'i gwên gynnil; mae rywbeth bron yn feiblaidd yn ei hedrychiad.
Mae gan bob pentref ei gymeriad medden nhw, a Dilwyn George yw un o gymeriadau Llangwm. Mae'n saer medrus sydd wedi harddu nifer o dai'r ardal gyda'i waith cywrain. Yn ogystal â hynny, mae hefyd yn danfon coed tân.
Bois ar eu beics. Mae Llangwm wastad wedi bod yn barc chwarae llawn antur i'r to ifanc. Yn yr haf, mae caiacio a nofio a physgota.
Yn y goedwig ac wedi eu clymu i'r coed ar y lan, mae yna siglenni rhaff wedi eu gosod yna gan genedlaethau o blant, ac os edrychwch chi'n ofalus, gallwch weld ambell i den yn cuddio.
Tatws wedi eu hau ar fferm North Nash, yn agos i'r pentref.
Avril Morgan yn cyrraedd Capel Galilee ar gyfer gwasanaeth Sul y Pasg.
Prynhawn o griced. Bob blwyddyn, mae 'na drawsnewidiad llyfn o rygbi i griced. Mae'r ddwy gamp yn rhannu'r un tir; pan ddaw'r tymor rygbi i ben, mae'n rhaid tynnu un set o byst o outfieldy maes criced!
Mae'r sgwâr yng nghanol Llangwm wedi bod yn fan cwrdd mor hir ag y gall pobl gofio. Mae'r cenedlaethau hŷn yn ei alw'n 'the back'.
Diwrnod pensiwn. Y pethau syml sy'n caniatáu i gymuned ffynnu; tafarn, capeli ac eglwys, y clwb, ysgol gynradd ac, wrth gwrs, siop a swyddfa bost.
Huw ac Amy Brock yn gadael Capel Bedyddwyr Galilee ar ôl eu gwasanaeth priodas.
Mae Gloria Woodward yn cerdded heibio i 'nghartref wrth fynd yn ôl ac ymlaen i siop y pentref. Menyw sionc a dymunol sydd bob amser yn edrych yn ddigon o sioe wrth iddi gerdded yn benderfynol. Ar ôl siarad â hi, dwi bob amser yn teimlo fod fy niwrnod wedi gwella ychydig bach.
Bore ar lan yr afon: roedd yr haul wedi gwawrio ers awr, a tharth y bore wedi diflannu. Roedd yr aer yn cynhesu a'r llanw'n codi. Mae hi'n fraint i fyw ger dŵr llanw; yr unigrwydd, y llonyddwch, y rhythm sydd tu hwnt i'n rheolaeth.
Aeth fy mab, Charlie, a mi am dro fore dydd Nadolig, a gweld fod drws y clwb rygbi ar agor, felly aethon ni i mewn.
Tu ôl i'r bar oedd Julian Platten, ac roedd y lle yn wag.
"Do'n i ddim yn sylweddoli dy fod ti ar agor ddiwrnod Nadolig," meddaf i.
"Ydw, dim ond am 'chydig o oriau," meddai. "Efallai fod rhywun ar eu pen eu hunain ac angen bach o gwmni."
Hefyd o ddiddordeb: