Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 mae'r torfeydd wedi dod yn eu miloedd i ddathlu gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd oedd i'w weld o amgylch y Maes ddydd Llun.

Y cogydd enwog, Bryn Williams, yn helpu i gyfeirio'r traffig ben bore

Ciw am Cyw...rhieni yn aros yn eiddgar am docynnau ar gyfer sioe boblogaidd Cyw ar y maes

Madi o Landderfel ac Owi o Lanuwchllyn

Plant Ysgol Gynradd Bontnewydd wrth eu boddau ar ôl ennill y gystadleuaeth cerddorfa blwyddyn 6 ac iau.

Plant Adran Penrhyd, Rhydaman, wedi gwirioni ar ôl ennill y gystadleuaeth Dawnsio Gwerin blwyddyn 4 ac iau

Dydi Eisteddfod yr Urdd ddim yn Eisteddfod yr Urdd heb lun gyda Mr Urdd. Un i'r albwm luniau i Joshua a Lauren o Ddinbych

Dylan o Lan Conwy, yn cael gwersi sielo gan ei dad Simon yn yr Arddorfa

Annest, 6 oed, yn mwynhau yn yr Arddorfa

Argoeli i fod yn Eisteddfod lwyddiannus

Un ffordd i ddod dros y nerfau cyn mynd ar y llwyfan...

Lisa Jones o'r Fali a Lowri Carlisle o Gaergybi...y ddwy yn paratoi at bob math o dywydd

Deio gyda'i daid, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd

Tasg pwysig y prynhawn - cludo telyn o amgylch y Maes

Y chwiorydd Elan a Myfi o Nebo, ger Llanrwst, ac Elsi o Landrillo yn y canol