Adwaith - y diweddaraf o Gymru i chwarae Glastonbury
- Cyhoeddwyd

Hollie Singer, o Adwaith
Gyda Glastonbury yn ôl wedi saib yn sgil Covid, mae 'na hen edrych ymlaen wedi bod - yn enwedig gan un grŵp o Gymru.
Bydd Adwaith yn perfformio ar lwyfan BBC Introducing ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin ar ôl cael eu gwahodd gan yr Idles, grŵp fuo' nhw yn eu cefnogi ar daith eleni.
Gwenllian Anthony yn trafod cyrraedd Glastonbury
Dywedodd basydd Adwaith Gwenllian Anthony, o Gaerfyrddin, wrth Cymru Fyw: "Mae Idles yn curato llwyfan trwy'r dydd ac maen nhw wedi gofyn i ni agor y llwyfan, sy'n amazing. Mae'r gwahoddiad yn meddwl lot i ni.
"Dyw e ddim yn aml ti'n clywed bandiau Cymraeg yn chwarae gŵyl fel Glastonbury ac mae cael gofyn gan Idles yn jest yn mental hefyd so ni'n rili excited."
Bydd Adwaith yn dilyn artistiaid Cymraeg a Chymreig eraill sydd wedi perfformio yn un o wyliau cerddorol mwya'r byd...

Cate Le Bon, fydd yn chwarae yn Glastonbury eto eleni, ar y llwyfan yn yr ŵyl yn 2014

Nicky Wire o'r Manic Street Preachers yn yr ŵyl yn 2014

HMS Morris ar lwyfan BBC Introducing yn 2015

Yn 2009 roedd Cerys Matthews, fu'n perfformio yn Glastonbury gyda Catatonia yn 1998 a'r Pet Shop Boys yn 2000, yn darlledu o'r ŵyl gyda BBC 6Music

Aelodau Côr Meibion y Penrhyn yn croesawu Damon Albarn i gefn llwyfan yn 2019. Roedd y côr yn perfformio gyda'i fand The Good, the Bad and the Queen ar The Park Stage

Plu ar lwyfan BBC Introducing yn 2016

Rhiannon 'Ritzy' Bryan a Matt Thomas o The Joy Formidable ar bedwaredd diwrnod Glastonbury yn 2010

Gruff Rhys yn perfformio ar ben ei hun yn 2011...

... ac fel Super Furry Animal yn 2015

Ac yn 2009...

...Syr Tom Jones

Y Fonesig Shirley Bassey wedi paratoi yn drylwyr yn 2007

Jonny Buckland (chwith), gafodd ei fagu ym mhentref Pantymwyn ger Yr Wyddgrug, gyda Coldplay ar y Llwyfan Pyramid yn 2016
Hefyd o ddiddordeb: