Lluniau Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2022
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd Eisteddfod CFfI Cymru 2022 yn Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun, ddydd Sadwrn, Tachwedd 19 - y tro cyntaf mewn 10 mlynedd i'r eisteddfod gael ei chynnal yn y dref.
Ffederasiwn Sir Benfro oedd gwesteion yr eisteddfod eleni a Cheredigion oedd yr enillwyr terfynol. Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd!

Does dim rhaid gallu canu i ddod i'r brig! Clwb Ffermwyr Ifanc Eryri ddaeth yn fuddugol ar y gystadleuaeth meimio

Mared Fflur Jones, Meirionnydd, enillydd y Goron o waith Eifion Thomas a Lisa Angharad Evans, Eryri, enillydd y Gadair, a ddyluniwyd gan Tomos Lewis. Tir a Môr oedd y thema gyda'r gadair wedi ei hysbrydoli gan garreg Waldo a charthen Melin Tregwynt yn rhan o'r dyluniad sy'n adlewyrchu lliwiau Sir Benfro, glas a melyn.

Siôn Jenkins yn arwain seremoni’r cadeirio a choroni

Deuawd ddoniol Clwyd - dim gwobrau am ddyfalu beth oedd yr ysbrydoliaeth!

Yr aros nerfus i fynd ar y llwyfan...

Coflaid gan y beirniad i enillydd cystadleuaeth y Sioe Gerdd, Teleri Haf Thomas

Triawd Sir Gâr oedd y triawd doniol buddugol

Beca Dwyryd, Eryri, a enillodd Gwpan Joy Cornock oedd yn mynd i'r unigolyn mwyaf addawol yn holl gystadlaethau'r Eisteddfod

Dyfan Parry Jones, Maldwyn, enillydd Cwpan Ardudwy am Unawdydd Gorau yn yr Adran Gerddoriaeth

Daeth parti deulais CFfI Sir Gâr yn fuddugol

Esyllt a Ffion Thomas, Sir Benfro, oedd enillwyr y ddeuawd

Y côr lleol, Côr Sir Benfro, yn cloi'r cystadlu

CFfI Penybont, Sir Gâr yn dathlu ennill cystadleuaeth y côr cymysg

Llongyfarch CFfI Ceredigion - enillwyr terfynol yr Eisteddfod

Is-Gadeirydd yr Eisteddfod, Gwen Edwards, yn dweud y diolchiadau ac yn croesawu'r Eisteddfod i Ynys Môn y flwyddyn nesaf

Darlledwyd yr eisteddfod ar S4C ac mae ar gael i wylio nôl ar S4C Clic am 147 o ddyddiau
Hefyd o ddiddordeb: