Crysau Gareth Edwards; gobeithio torri record byd
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwedd gemau rygbi neu bêl-droed mae'n draddodiad i gyfnewid crysau gyda'r gwrthwynebwyr. Ac os yw'r crysau yna'n deillio o gêm gofiadwy fe allent fod werth miloedd o bunnoedd yn y dyfodol.
Un o'r ceisiau enwocaf yn hanes rygbi'r undeb yw cais Syr Gareth Edwards yn erbyn y Barbariaid ar Barc Yr Arfau, Caerdydd, yn 1973. Fe gadwodd Syr Gareth y crys o'r diwrnod hwnnw, ac ar Ddydd Gwener, 24 Chwefror, bydd y crys a llawer o rai eraill yn mynd i ocsiwn. Mae'n disgwyl i'r crys Barbariaid gael ei werthu am hyd at £200,000.
Ben Rogers Jones o gwmni arwerthwyr Rogers Jones sy'n gyfrifol am yr ociswn.
"I mi'n bersonol, mae arwerthu crysau eiconig Syr Gareth yn dod â chymysgedd o emosiynau yn ei sgil. Cyffro wrth gwrs, ychydig o nerfusrwydd, ymdeimlad o gyfrifoldeb a balchder aruthrol bod y teulu wedi ein penodi ni i ddod â chofroddion mor bwysig i'r farchnad.
"Gobeithio y gallwn sicrhau canlyniad record byd i'r teulu Edwards a gobeithio hefyd y bydd crys y Barbariaid 1973 yn aros yng Nghymru, yn ddelfrydol mewn amgueddfa."
Yn ogystal â chrys y Barbariaid, mae nifer o grysau eraill ar werth. Dyma rhai o grysau eraill y casgliad: