5 cornel o Gymru ar ochr arall y ffin
- Cyhoeddwyd
Yr awdur Mike Parker sydd wedi dewis pump o gorneli Cymreig yr ochr draw i Glawdd Offa y dylech fynd am dro i'w darganfod, wrth iddo gyhoeddi ei gyfrol ddiweddaraf am gyfrinachau'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Wrth ysgrifennu fy llyfr newydd sbon, All the Wide Border: Wales, England and the places between, roedd e'n blesur enfawr dod i adnabod sawl ardal Cymreig, ar goll yn Lloegr.
Gyda'r gwanwyn a'r haf yn dod, beth am eu darganfod? Mae wir yn werth ei wneud.
Coedwig Colunwy (Clun Forest)
Ymhell ar ein hochr ni o Glawdd Offa, mae Coedwig Colunwy yn nodi ardal fwya' gorllewinol Lloegr ar hyd ffin Cymru. Dydy e ddim yn goedwig yn yr ystyr o le llawn coed (er bod yna rai darnau mawr coediog), ond yn yr ystyr o hen dir hela. Mae'n lle o rosydd uchel, golygfeydd enfawr a phentrefi bychain, cyfrinachol.
Bettws-y-Crwyn yw'r plwyf olaf yn Swydd Amwythig, gyda eglwys - yr uchaf yn y sir - mor atmosfferig.
Mae twmpathau Castell Bryn Amlwg yn fwganaidd, felly hefyd yr hen Anchor Inn gerllaw, sef yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel enwog Mary Webb, Seven for a Secret. Ysgrifennodd hi bod yr ardal yn gorwedd 'between the dimpled lands of England and the gaunt purple steeps of Wales - half in faery and half out of it'.
Croesoswallt
Mae Croesoswallt yn disgrifio ei hun fel 'tref fwya' Cymreig Lloegr', a mae hynny yn dweud y cyfan!
Cyn yr oes Normanaidd, roedd ardal gorllewin Swydd Amwythig yn rhan o deyrnas Gymreig o'r enw Pengwern. Mileniwm yn ddiweddarach, mae'n dal yn amlwg yn ardal Croesoswallt.
Mae'r dref yn wych, gyda llawer i'w weld, amgueddfa ddiddorol dros ben, marchnad ardderchog (gan gynnwys Siop Cwlwm, y ganolfan gymunedol Gymraeg i ardal eang iawn), tafarndai croesawgar a chynnes a theithiau cerdded bendigedig yn yr ardal gyfagos.
Ar ran o'r ffin gerllaw yw lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf unrhywle ar hyd y llinell. Yng Nghroesoswallt, mae'r Gymraeg yn amlwg!
Fforest Ddena
Does 'nunlle tebyg i Fforest Ddena, 'the heart-shaped place between two rivers' fel disgrifiwyd gan un o feibion yr ardal, y dramodydd enwog Dennis Potter. A dyma efallai ffynhonnell ei hynodrwydd, yn eistedd rhwng ochr Seisnig yr Afon Gwy ac ochr Gymreig Afon Hafren.
Mae llennyrch y goedwig yn hyfryd, ond mae rhwd a gweddillion diwydiant wedi eu gwasgaru yma ac acw. Mae'r pentrefi yn daclus, ond mae'r blodau wedi eu hanner bwyta ar ochr y ffordd yn ein hatgoffa bod hwn yn gartref i boblogaeth baedd gwyllt mwyaf Prydain.
Mae'r Forest of Dean Sculpture Trail yn un o'r goreuon, ac mae Canolfan Treftadaeth y Goedwig ger pentref Soudley yn wych. Fel yn y Cymoedd, roedd glowyr Dena yn hoff iawn o rygbi, bandiau pres a hyd yn oed eisteddfodau. Am ardal unigryw!
Ergyng ac Ewias
Gwahanwyd y ddwy deyrnas Gymreig hynafol yma oddi wrth eu gwlad frodorol gan y Deddfau Uno yn yr 16eg ganrif. Ergyng (Archenfield yn Saesneg) yw rhan dde-orllewinol Swydd Henffordd, yn ffinio ag afon Gwy: tir o berllannau, tafarndai gwych ac eglwysi syfrdanol.
Dyma gadarnle'r 'Herefordshire Romanesque', enghreifftiau anhygoel o waith cerrig a cherfiadau o gyfnod y Normaniaid. Y mwyaf rhyfeddol ohonynt i gyd yw Llanddewi Cil Peddeg (Kilpeck), hen brifddinas Ergyng.
Yn agos at y ffin fodern mae teyrnas fechan Ewias, gan gynnwys Dyffryn Aur a Dyffryn Olchon. Mae'n dirwedd hollol hudolus, a welir orau ar droed neu feic. Yma, mae angen i chi fynd yn araf.
Y Ddyfrdwy
Os ydych chi'n sefyll ar y bont ganoloesol dros yr afon Dyfrdwy sydd yn cysylltu trefi Holt (sir Ddinbych) a Farndon (Swydd Caer), mae'n hawdd dychmygu tywysoges ar un banc yn dihoeni am farchog ar y llall.
Mae'r trefi cyfagos yn byw hyd eithaf eu clichés cenedlaethol: Holt gyda'i gapeli, terasau brics coch a'i gastell adfeiliedig, a Farndon yn llawn villas a bling, gan gynnwys hen siop - emporium, sori - Paul Burrell, y clebryn brenhinol.
Mae'r Ddyfrdwy yn llawn pethau diddorol - ewch am dro o Farndon i Aldford, pentre stâd Grosvenor (Dugiaid Westminster), heibio i gabanau a chytiau un o aneddiadau mwyaf y symudiad plotlander sydd wedi goroesi yn tagu glan yr afon am filltiroedd.
Neu ewch i ochr arall Caer, i'r morfeydd rhyfedd iawn ar dir a gafodd ei adennill yn y 18fed ganrif pan gamlaswyd y Ddyfrdwy. Yn swyddogol, Cymru yw e, ond mae'n teimlo fel nunlle cyfarwydd o gwbl.
Mae All the Wide Border: Wales, England and the places between yn cael ei gyhoeddi ar 30 Mawrth a bydd Mike Parker yn gwneud darlleniadau ledled Cymru a thu hwnt drwy gydol y gwanwyn a'r haf. Bydd hefyd yn westai ar raglen newydd Ffion Dafis ar Radio Cymru fis Ebrill.
Hefyd o ddiddordeb