Lluniau: Cyngerdd 'chillout' Sian Eleri

  • Cyhoeddwyd

Mae dydd Iau, 23 Mawrth yn ddiwrnod o raglenni ar y thema ymlacio ar Radio Cymru gan gynnwys darlledu gig o gerddoriaeth "chillout" a gynhaliwyd nos Sadwrn, 18 Mawrth, ym Mangor gyda chyflwynydd Radio Cymru a Radio 1, Sian Eleri a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Fe ddewisodd Sian ei hoff draciau i ymlacio, ac fe wnaeth Owain Gruffudd Roberts drefniannau arbennig ar gyfer y Gerddorfa.

Owain oedd hefyd yn arwain y Gerddorfa, ac roedd y set yn cynnwys traciau gan Gwilym, Sŵnami, Ani Glass a mwy - ond wedi eu gweddnewid gan y Gerddorfa. Yn agor y noson roedd set o draciau piano hudolus gan Gwenno Morgan a'r band.

Dyma rywfaint o'r hyn oedd i'w weld yn y cyngerdd arbennig drwy gamerâu Iolo Penri a Yusef Bastawy.

Sian EleriFfynhonnell y llun, Iolo Penri
pontioFfynhonnell y llun, Iolo Penri
gerddorfaFfynhonnell y llun, Iolopenri
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Iolopenri
potnioFfynhonnell y llun, Iolo Penri
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
owainFfynhonnell y llun, Iolopenri
pontioFfynhonnell y llun, Iolopenri
pontioFfynhonnell y llun, Iolopenri
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Iolo Penri
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy
pontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy

I nodi diwrnod chillout Radio Cymru bydd traciau ymlaciedig ar raglen Aled Hughes, eitem ar feddylgarwch ar raglen Bore Cothi, ac am 16.30pm bydd Ifan Davies yn cyflwyno rhestr chwarae chillout.

Mae Dros Ginio yn edrych ar feddylgarwch mewn sefydliadau a chwmnïoedd efo Gwenan Roberts cyn Gig Chillout Sian Eleri am 19:00.