Oriel luniau: Bywyd Caerdydd trwy lygaid ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Sut mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gweld eu cynefin newydd?
Mae arddangosfa newydd sy'n rhan o ddigwyddiadau ffrinj Tafwyl yn ceisio ateb y cwestiwn yma drwy roi cyfle i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd i ddogfennu eu bywydau a'u profiadau newydd drwy ffotograffiaeth.
Gyda help y ffotograffydd Dafydd 'Nant' Owen, daeth y grŵp ynghyd ym Mehefin 2023 ar gyfer cyfres o weithdai. Mae'r lluniau'n rhoi cipolwg ar fywyd yn Sblot ac Adamsdown yn bennaf.
Mae Ein Llygaid, Ein Stori yn arddangosfa o ganlyniadau'r gwaith hyn ac i'w gweld o 10-17 Gorffennaf yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.
Dyma flas ar y gwaith.











Hefyd o ddiddordeb: