Beth yw Gorsedd y Beirdd?
- Cyhoeddwyd
![Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/23E5/production/_108198190_c5ba3811-240b-4e90-a516-8425c4afab43.jpg)
Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd.
Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas, yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
Gwreiddiau'r Orsedd
Daeth yr Orsedd ynghyd gyntaf yn 1792 ar Fryn Briallu (Primrose Hill) yn Llundain, wedi ei greu gan Iolo Morganwg.
Roedd yn un o ysgolheigion barddol enwocaf a mwyaf ecsentrig Cymru, a gafodd ei ysbrydoli gan farddoniaeth, amaeth ac archeoleg. Rhoddodd ei ogwydd ei hun ar ddylanwadau derwyddon, ond cadwodd yn gadarn at ei gredoau Cristnogol.
![Cofeb Iolo Morganwg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/65EF/production/_100159062_88d1a091-2fbc-48fd-86f1-eb14f69371f6.jpg)
Penderfynodd ddefnyddio'r Orsedd fel modd o anrhydeddu llwyddiannau llenyddol llenorion Cymraeg.
Dechreuodd berthynas yr Orsedd â'r Eisteddfod yn nechrau'r 19eg ganrif, ac mae'n parhau hyd heddiw.
Meini'r Orsedd
![Cynllun o Feini'r Orsedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/A669/production/_130510624_3718e8c1-8cf4-456d-8510-b73e1b26eb38.jpg)
Cynllun o Feini'r Orsedd
Dyma leoliad seremonïau lliwgar yr Orsedd.
Lluniwyd y cynllun manwl yma o Gylch yr Orsedd ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae 12 maen yn ffurfio siâp cylch. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremonïau urddo.
Mae'n bosib gweld Cylch yr Orsedd mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.
Yr Archdderwydd
![The new Archdruid Myrddin ap Dafydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/A332/production/_107787714_archdderwyddmyrddinapdafydd2.jpg)
Dyma Eisteddfod ddiwethaf yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn y swydd
Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae'n cael ei ethol gan yr Orsedd am gyfnod o dair blynedd; dim ond Prifeirdd a Phrif Lenorion all ddal y swydd. Mae'n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd gan gynnwys seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.
Y Wisg Wen
![Derwyddion mewn gwyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1003A/production/_102849556_eisteddfod-2-3_new.jpg)
Enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod sy'n gwisgo'r wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Gadair, y Goron neu'r Fedal Ryddiaith gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.
Y Wisg Werdd
![Cystadleuydd X Factor, Lloyd Macey, yn y wisg werdd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17F8D/production/_108198189_4ea2de71-b1c2-431a-93e5-3738b76e3283.jpg)
Cystadleuydd X Factor, Lloyd Macey, yn y wisg werdd
Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y Celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd am gyfraniad arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru, trwy radd yn y Celfyddydau wedi ei astudio yn Gymraeg neu drwy arholiad. Mae enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo'r wisg werdd.
Y Wisg Las
![Y Prif Weinidog Mark Drakeford](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9575/production/_126216283_51c47f32-da93-444b-8f3a-22b8e16a0917.jpg)
Y Prif Weinidog Mark Drakeford - neu 'Mark Pengwern' o roi ei enw barddol - yn cael ei urddo yn 2022
Mae'r wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i'w bro neu i'r genedl ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu'r Cyfryngau, neu sydd â gradd wedi ei astudio drwy'r Gymraeg mewn pwnc y tu allan i'r Celfyddydau.
Corn Gwlad
![Corn Gwlad](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7CA2/production/_108260913_cyrn_gwlad.png)
Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod yn cael eu galw i'r llwyfan.
Blodeuged
![Blodeuged](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0A29/production/_130510620_morwynyfro3.jpg)
Tusw o flodau'r maes sy'n symbol o dir a phridd Cymru yw'r Flodeuged, sy'n cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd gan berson ifanc o'r ardal. Mae'n symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod.
Corn Hirlas
![Corn Hirlas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/10B5E/production/_107364486_mam_y_fro_corn_hirlas.jpg)
Mae'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd gan oedolyn lleol, fel symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd.
Y Ddawns Flodau
![Y Ddawns Flodau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1023E/production/_97301166_eisteddfod-dydd-gwener-1888.jpg)
Mae'r ddawns yn cyfleu casglu blodau'r maes ac yn cael ei pherfformio gan blant ysgol lleol. Cyfunir y ddawns gyda chyflwyniad y Flodeuged wrth i ddau o'r dawnswyr ychwanegu'u blodau nhw at y tusw.
Ceidwad y Cledd
![Robin McBryde](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1505E/production/_130501168_robin_mcbryde.jpg)
Cyn chwaraewr rygbi Cymru, Robin McBryde, yw Ceidwad y Cledd
Mae'r cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio'n llwyr. Sylwch hefyd mai wrth y llafn mae Ceidwad y Cledd yn ei ddal, yn hytrach na'r carn.
Enwogion yn yr Orsedd
Mae enwogion sydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd dros y blynyddoedd yn cynnwys sêr Hollywood Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, y cantorion Bryn Terfel a Caryl Parry-Jones, yr athletwyr Tanni Grey-Thompson ac Aled Siôn Davies, y cyflwynwyr Alex Jones a Huw Stephens, a sêr rygbi Cymru George North a Jamie Roberts.
![Alex Jones yn y wisg las](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16670/production/_89606719_alexsythicamersarolurddo.jpg)
Alex Jones yn y wisg las