Dydd Mercher: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Dyma rai lluniau o'r Maes ar ddydd Mercher Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Mwynhau ar y Maes - Howard Potter, o Ddinas Powys, sy'n aelod o Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Bore wedi noson agoriadol Maes B... rhai o hogiau Ynys Môn - Ryan, Henry a Caleb

Roedd yr hogiau yma ymysg y cyntaf ar y Maes bore Mercher - yn cael sglodion i frecwast

Mwynhau'r Lle Celf mewn steil

Eisteddfodwr yn mwynhau helpu menyw i roi genedigaeth, diolch i beiriant realiti rhithwir yn stondin Prifysgol Bangor

Plu yn ei morio hi ym Maes D

Bron cystal ag ennill Y Gadair... dwy fu'n ddigon ffodus i gael Sash Huw Ffash ar y Maes ddydd Mercher

Dyw dyn byth yn rhy hen i hel sticeri o gwmpas Maes yr Eisteddfod

Gwennan Staziker yn cystadlu yn y ddawns stepio draddodiadol unigol i ferched 18 oed a throsodd

Non: Breuddwyd - un o berfformiadau Theatr Stryd a Dawns ar y Maes

Y lle gorau am sgwrs dros baned - stondin Merched y Wawr

Er nad oedd hi'n ddiwrnod heulog, roedd hi'n ddigon braf am hufen iâ

Os oes unrhywun yn cael cam gan y beirniaid, ewch draw i stondin Eryri Consulting am cwtsh/hyg am ddim gan Joe Thomas

Noa o Lanbedrog yn mwynhau ei hun

Nid priodas go iawn, ond perfformiad stryd ar y Maes
Hefyd o ddiddordeb: