Lluniau dydd Iau: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Dyma rai lluniau o'r Maes ar ddydd Iau Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Ymarfer ar gyfer Gig y Pafiliwn

Paratoadau olaf gefn llwyfan i Tomos Heddwyn Griffiths cyn cystadlu am y Rhuban Glas

Mae amser yn gallu llusgo wrth ddisgwyl i gystadlu, fel i aelodau Lleisiau Mignedd...

... ond o leia' mae Gillian, Gwen a Deborah o'r côr wedi paratoi am y tywydd poeth

Roedd stondin Dŵr Cymru yn brysur yn y bore pan roedd yr haul yn tywynnu...

... ond roedd mwy na dŵr yn boblogaidd i dorri syched

Un ymarfer olaf i Gôr Merched Cwm Rhondda cyn cystadlu yn y Pafiliwn Bach

Talwrn gwahanol i'r arfer - Talwrn Clocsio yn y Tŷ Gwerin lle'r oedd digon o hwyl yn gwylio pum cystadleuydd yn dangos eu doniau

A Oes Heddwch?

Mabli, Ela, Gruff a Mabon yn mwyhau'r heulwen

Crefftwr wrth ei waith - James 'Johnjo Jones yn hollti llechi o flaen stondin Amgueddfa Cymru

Sedd dda ar gyfer perfformiad operatig Trystan Llŷr Griffiths ar Lwyfan y Maes

Roedd hi'n ddydd Iau prysur i Mel Thomas yn stondin Undeb Amaethwyr Cymru lle bu'n coginio brechdanau bacwn drwy'r bore

Mam a merch yn cyd-ganu yn Encore - Anni Llŷn a'i mam Rhian Parry

Gwneud y mwya' o'r tywydd braf ar ddydd Iau yr Eisteddfod
Hefyd o ddiddordeb: