Lluniau dydd Gwener: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Dyma rai lluniau o'r Maes ar ddydd Gwener Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Y gyflwynwraig Shân Cothi yn cael hunlun gyda'r cefndir perffaith ar ddydd anrhydeddu aelodau newydd yr Orsedd a dydd Gwener y Cadeirio

Roedd torf fawr yn gwylio'r Orsedd yn anrhydeddu eu haelodau newydd yng Nghylch yr Orsedd

... ond roedd seddi gwag gyda golygfa wych ar gael i'r rhai cyfrwys

Wedi'r seremoni mae awyrgylch braf wrth i deulu a ffrindiau longyfarch yr aelodau newydd...

... a chyfle i Eisteddfodwyr eraill hamddena yng Nghylch yr Orsedd

Y dorf yn pleidleisio dros eu ffefrynnau ym Mrwydr y Sianti yn y Tŷ Gwerin

A'r tîm buddugol oedd Eifionydd

Jazz ar y chwiban tun gyda Dafydd Lennon yn yr Encore

Cadi o Ynys Môn yn 'neidio macyn' gyda'r arbenigwr Tudur Phillips

Gwarchod clustiau bach yng Nghaffi Maes B wrth i'r band newydd Cyn Cwsg berfformio i'r gynulleidfa

Mae aelodau o Gymuned Dawnsfa Cymru wedi bod yn perfformio mewn gwahanol leoliadau yn ystod yr wythnos

Emyr a Morfydd Roberts, Mari Llwyd a Mairwen Jones wedi dod i weld aelodau o'u teuluoedd yn cael eu hurddo

Tybed beth fydd gan Sion Corn yn anrheg i Mathonwy eleni?

Mae Tri Penyberth wedi bod yn amlwg drwy'r wythnos ym Moduan - o waith celf i ddarlithoedd i ysbrydoliaeth i brotestio

Lle parcio'r Mudiad Meithrin yn llawn...

Alan Llwyd yn cipio Cadair yr Eisteddfod, a hynny am y trydydd tro
Hefyd o ddiddordeb: