Lluniau dydd Sadwrn: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

  • Cyhoeddwyd

Dyma rai lluniau o'r Maes ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r Pafiliwn Mawr yn wag, cafodd Tomos Boyles gyfle i arfer gyda'r piano cyn cystadlu am y Rhuban Glas offerynnol

Disgrifiad o’r llun,

Bore ar ôl cloi Llwyfan y Maes gyda Cowbois Rhos Botwnnog, roedd Iwan Huws yn ôl yn perfformio ar stondin Ysgol Uwchradd Botwnnog a'r Tŷ Gwerin

Disgrifiad o’r llun,

Dydd Sadwrn ydi diwrnod y corau meibion ac ar hyd a lled y Maes mae cyfle am gyngerdd am ddim wrth i'r corau fenthyg stondinau am un ymarfer olaf

Disgrifiad o’r llun,

Gefn llwyfan mae gan pob côr a phob unigolyn ffordd unigryw o baratoi at y foment fawr...

Disgrifiad o’r llun,

... a rhaid i bawb edrych ar eu gorau o flaen y beirniaid

Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r glaw yn disgyn roedd eitem ffasiwn draddodiadol yr Eisteddfod yn dod i'r amlwg

Disgrifiad o’r llun,

Gethin ac Ifan yn gwneud y gorau o'r glaw yn y bore, cyn i'r haul godi yn y prynhnawn

Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r haul ymddangos roedd hwyl i'w gael ar y Maes, gan gynnwys tynnu rhaff yn y Pentref Plant

Disgrifiad o’r llun,

Nid haul yn unig oedd yn gwenu yn y prynhnawn, roedd y bariau'n llenwi wrth i'r Eisteddfod ddechrau dirwyn i ben

Disgrifiad o’r llun,

Draw yn y Tŷ Gwerin, roedd Gwyneth Glyn a Twm Morys yn chwarae eu halbwm newydd yn ei gyfanrwydd - Tocyn Unffordd i Lawenydd

Disgrifiad o’r llun,

Dyfan Parry Jones ar lwyfan y Pafiliwn Bach yng nghystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd

Disgrifiad o’r llun,

Enillydd Y Gadair, Alan Llwyd, gyda'r Archdderwydd nesaf Mererid Hopwood a dau o feirniaid y gystadleuaeth Rhys Iorwerth a Karen Owen

Disgrifiad o’r llun,

Cadi Mars Jones yn cystadlu am Wobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn wythnos flinedig i bawb ac mae Caffi Maes B yn le perffaith i rai adfer egni

Disgrifiad o’r llun,

Gwell lwc flwyddyn nesaf Tudur...

Hefyd o ddiddordeb: