Lluniau: Dathliadau Diwali yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
dwali

Rhwng 9-13 Tachwedd bu'r gymuned Hindŵ yng Nghymru'n dathlu gŵyl Diwlai. Cafodd cyfres o seremonïau eu cynnal dros y penwythnos, gyda'r pinacl yn dod ar Ddydd Llun, 13 Tachwedd.

Mae'r ŵyl yn symboleiddio buddugoliaeth daioni dros ddrygioni, goleuni dros dywyllwch, ac mae lampau'n cael eu goleuo fel arwydd o obaith i ddynoliaeth.

Teml Shri Swaminarayan Mandir yn ardal Grangetown, Caerdydd, yw'r deml Hindŵ hynaf a'r fwyaf yng Nghymru. Mae'r lluniau isod yn nodi'r digwyddiadau yn y deml dros ddyddiau gŵyl Diwali eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith o godi'r deml yn Grangetown yn 1979

Disgrifiad o’r llun,

Mae tair teml Hindŵ yng Nghaerdydd, ond yr un yn Grangetown yw'r unig un Swaminarayan (math penodol o Hindŵaeth)

Disgrifiad o’r llun,

Pasio'r canwyllau ymysg yr oedfa ar nos Sul

Disgrifiad o’r llun,

Gwjarati yw prif iaith y deml, gyda Saesneg hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y bobl sydd ddim yn ei deall

Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r seremoni ar nos Sul gadawodd pawb gyda losin traddodiadol Indiaidd

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ychydig o'r bwyd a ddaeth bobl i'r deml ar ddydd Llun

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cerddorion o bob oed yn cymryd rhan yn y dathliadau

Disgrifiad o’r llun,

Seremoni 'cynnig y fflam'

Disgrifiad o’r llun,

Moment bwysicaf y seremoni

Disgrifiad o’r llun,

Mukund yn gafael yn un o'i efeilliaid wedi'r brif seremoni

Disgrifiad o’r llun,

Mwy o fwyd yn cael ei gynnig fel offrwm

Disgrifiad o’r llun,

Gweddïo tra'n cario'r fflam

Disgrifiad o’r llun,

Yr aelodau a oedd yn arwain y seremoni

Disgrifiad o’r llun,

Daeth aelodau o'r Llynges i'r deml i berfformio gyda drymwyr a dawnswyr lleol

Disgrifiad o’r llun,

Aayana a'i chwaer fach, Kaavya

Disgrifiad o’r llun,

Paratoi'r wledd yn y neuadd gymunedol sydd o dan y deml

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwirfoddolwyr yn y gegin

Disgrifiad o’r llun,

Cario'r reis gyda gofal i'r man dosbarthu bwyd

Disgrifiad o’r llun,

Dosbarthu'r bwyd yn y neuadd

Disgrifiad o’r llun,

Yn y neuadd fwyd ble roedd cannoedd yn mwynhau'r arlwy

Disgrifiad o’r llun,

Roedd teuluoedd cyfan yn eistedd efo'i gilydd i wledda

Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r nos aeth pawb i Fae Caerdydd i hen safle Toys 'R Us, ble roedd mwy o ddigwyddiadau a bwyd

Disgrifiad o’r llun,

Paratoi'r bwyd yn yr awyr agored yn y Bae

Disgrifiad o’r llun,

Paratoi math o fyrger sy'n draddodiadol i'r India

Disgrifiad o’r llun,

Pobl ifanc lleol yn perfformio'r stori tu ôl i ŵyl Diwali

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dathliadau Diwali eu cloi gyda sioe tân gwyllt arbennig

Pynciau cysylltiedig