Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:55 GMT 22 Ionawr 2019
BBC Cymru Fyw
Gyda'r newyddion bod y chwilio am yr awyren wedi dod i ben am y dydd, mae'r llif byw hefyd yn dod i ben.
Fe gewch chi'r diweddara' heno a bore 'fory ar ein gwefan.
Awyren wedi diflannu wrth deithio o Nantes i Gaerdydd
Cadarnhâd bod ymosodwr newydd CPD Caerdydd, Emiliano Sala, yn un o'r ddau oedd arni
Timau achub wedi chwilio dros 1,000 milltir sgwâr
Y chwilio bellach wedi dod i ben am y dydd
BBC Cymru Fyw
Gyda'r newyddion bod y chwilio am yr awyren wedi dod i ben am y dydd, mae'r llif byw hefyd yn dod i ben.
Fe gewch chi'r diweddara' heno a bore 'fory ar ein gwefan.
BBC Cymru Fyw
Mae cefnogwyr a thrigolion Nantes wedi trefnu gwylnos yn y ddinas yng ngorllewin Ffrainc heno.
Mae'r lluniau yn dechrau dod i fewn atom ni, wrth i bobl osod blodau a chardiau gydag addurniadau melyn - lliwiau'r clwb fu Emiliano Sala yn chwarae iddyn nhw tan yn ddiweddar iawn.
Rhai o gefnogwyr FC Nantes yn yr wylnos nos Fawrth
BBC Cymru Fyw
Mae Tim Hartley, o Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, wedi dweud bod y newyddion yn "drasiedi i Gaerdydd ac i Nantes, ac wrth gwrs i deulu'r gŵr bonheddig yma".
Cefnogwr Caerdydd yn ofni'r gwaethaf am Emiliano Sala
Twitter
Wrth i'r chwilio ddod i ben am y diwrnod, mae Heddlu Guernsey wedi dweud bod gwrthrychau wedi eu gweld yn y môr heddiw.
Er hynny, nid yw'r heddlu wedi gallu cadarnhau a ydy'r gwrthrychau yn dod o'r awyren neu beidio.
Twitter
Mae nifer o chwaraewyr a chyn-chwaraewyr wedi bod yn trydar negeseuon o gefnogaeth yn dilyn y newyddion am Emiliano Sala.
Yn eu plith mae ymosodwr Ffrainc, Kylian Mbappé, yr amddiffynnwr o Ariannin, Pablo Zabaleta, a chyn-chwaraewr Ffrainc, Thierry Henry.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Mae'r chwilio wedi dod i ben am y dydd.
Mae Heddlu Guernsey wedi dweud y bydd y chwilio'n ailddechrau fore Mercher.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Mae Heddlu Guernsey wedi dweud y bydd penderfyniad ar barhau i chwilio dros nos yn cael ei wneud yn fuan.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Mae CPD Nantes wedi trefnu rali ger eu stadiwm heno, gan alw ar gefnogwyr i ollwng blodau melyn yn dilyn diflaniad yr awyren yn cario Emiliano Sala.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae cefnogwyr Caerdydd wedi dechrau gadael negeseuon y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd, gan gynnwys arddangos sgarffiau a chennin Pedr.
Twitter
Mae Clwb Pêl-droed Caerlŷr wedi anfon trydariad at Gaerdydd.
Y llynedd bu farw perchennog Caerlŷr, Vichai Srivaddhanaprabha, ynghyd â phedwar person arall mewn damwain hofrennydd.
Caerdydd oedd y gwrthwynebwyr cyntaf i Gaerlŷr wynebu yn yr Uwch Gynghrair wedi'r ddamwain.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Yn ôl Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, mae Maes Awyr Caerdydd mewn cysylltiad agos gyda Changen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr.
Bydd y maes awyr yn parhau i gynorthwyo'r ymchwiliad i ddiflaniad yr awyren lle mae hynny'n bosib, ond yr awdurdodau yn Ffrainc sy'n arwain, meddai.
BBC Cymru Fyw
Mae prif swyddog Channel Islands Air Search wedi dweud bod y tebygolrwydd o ddarganfod unrhyw un o'r awyren yn fyw yn "lleihau yn gyflym iawn".
Dywedodd John Fitzgerald bod y môr yn "oer iawn, iawn" ac y byddai'n oeri unrhyw un sydd yn y dŵr yn sydyn.
Mae ardal o dros 1,000 milltir sgwâr wedi ei archwilio hyd yn hyn.
Twitter
Mae Heddlu Guernsey wedi dweud y bydd rhaid gwneud penderfyniad ar barhau i chwilio erbyn i'r haul fachlud heno.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Dywedodd Tim Hartley, o Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: "Daeth y newyddion fel sioc enfawr. Mewn achlysuron fel hyn mae pobl yn gwybod bod y gwaetha' siŵr o fod yn mynd i ddigwydd.
"Mae hyn yn drasiedi i Gaerdydd ac i Nantes, ac wrth gwrs i deulu'r gŵr bonheddig yma."
BBC Cymru Fyw
Mae cyn-glwb Sala, Clwb Pêl-droed Nantes, wedi rhoi datganiad i'r wasg yn dweud eu bod nhw'n "cadw'r ffydd" ac yn "gweddïo" y bydd Sala a phawb oedd ar fwrdd yr awyren yn cael eu canfod yn ddiogel.
"Rydym wedi'n cyffwrdd gan yr holl gefnogaeth ry'n ni wedi'i gael ers y bore 'ma," meddai'r datganiad.
Mae gêm nos Fercher rhwng Nantes ac Entente Sannois wedi cael ei gohirio tan ddydd Sul, ac mae cefnogwyr a thrigolion Nantes yn trefnu gwylnos nos Fawrth.
Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Y gred yw bod Emiliano Sala ar ei ffordd i ddechrau hyfforddi gyda CPD Caerdydd pan ddiflannodd yr awyren. Arwyddodd gyda'r Adar Gleision yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Prif Weithredwr CPD Caerdydd, Ken Choo: "Mae'n perchennog ni, Tan Sri Vincent Tan, a'r cadeirydd, Mehmet Dalman, yn poeni'n fawr am y sefyllfa."
"Fe wnaethon ni'r penderfyniad y peth cyntaf y bore 'ma i ohirio'r ymarfer gyda meddyliau'r garfan, y tîm rheoli a'r clwb oll gydag Emiliano a'r peilot.
"Hoffen ni i gyd ddiolch i'n cefnogwyr, ac i'r teulu pêl-droed i gyd am eu cefnogaeth ar amser mor anodd.
"Rydym yn parhau i weddïo am newyddion positif."
Ken Choo, prif weithredwr CPD Caerdydd
BBC Cymru Fyw
Mae timau achub yn chwilio am yr awyren, oedd ag un person arall arni, wedi iddi ddiflannu oddi ar sgriniau radar ar ôl gadael Nantes am 19:15 nos Lun.
Ond gyda'r tywydd yn gwaethygu mae awdurdodau Ynysoedd y Sianel yn dweud nad ydyn nhw'n rhagweld bod unrhyw un wedi goroesi.
Ychwanegodd llefarydd y bydd penderfyniad "anodd" ar ddiwedd y dydd ynghylch parhau â'r chwilio nos Fawrth.
BBC Cymru Fyw
Mae'r chwilio'n parhau am awyren aeth ar goll wrth deithio o Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd nos Lun.
Mae Awdurdod Hedfan Sifil Ffrainc wedi cadarnhau bod ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala, yn un o'r ddau oedd ar yr awyren.
Fe gewch chi'r ymateb diweddara' yma.