Crynodeb

  • Y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Gweinidog Addysg

  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

  • Cwestiynau Amserol

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    A dyna ni ar ddiwrnod anarferol o'r Siambr.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mercher, 25 Mawrth.

  2. Ethol Llywydd dros drowedi ei gyhoeddi 15:33 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Mae ACau yn ethol David Melding fel Llywydd dros dro rhag ofn nad yw'r Llywydd na'r Dirprwy yn gallu cadeirio cyfarfodydd llawn.

    Fe gyhoeddodd y Llywydd hefyd newid i drefn y Busnes yr wythnos nesaf gan gadarnhau y bydd y Cyfarfod Llawn yn cwrdd ar un diwrnod yn unig wythnos nesaf, ar ddydd Mercher, gyda sesiwn yn y bore a sesiwn yn y prynhawn.

    Bydd hyn yn galluogi i Gwestiynau i’r Prif Weinidog gael eu cynnal fel yr arfer, cyn i Weinidogion wneud datganiadau er mwyn diweddaru Aelodau ar effeithiau diweddaraf y Coronafeirws ar eu meysydd polisi. Bydd hyn hefyd yn cyfyngu ar yr amser y bydd rhaid i Aelodau ei dreulio yn y Senedd.

    Dywedodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn parhau i drafod ffyrdd o alluogi’r Cynulliad i gwrdd ac i barhau â’i waith dros gyfnod y toriad er mwyn sicrhau fod y Llywodraeth yn gallu diweddaru Aelodau a bod y gwrthbleidiau yn cael y cyfle i graffu mewn modd amserol a phriodol.

    Wrth gyflwyno’r cynnig dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:

    “Mae’r newidiadau hyn i’r Rheolau Sefydlog yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r Cynulliad i barhau â’n gwaith hyd orau ein gallu mewn amgylchiadau digynsail.”

  3. Cwestiynau Amserolwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Yr eitem olaf ar yr agenda heddiw yw Cwestiynau Amserol.

    Dim ond un cwestiwn sydd wedi dod i law. Mae Alun Davies (Blaenau Gwent) yn gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020?

    Ddoe fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion pecyn gwerth dros £200m i helpu busnesau bach ymdopi yn sgil y nifer cynyddol o achosion o coronafeirws.

    Mae'r Gweinidog Economi Ken Skates yn ateb: "Rwy'n gwerthfawrogi cyhoeddiad y canghellor ond yn amlwg mae rhaid i mwy gael ei wneud yn ystod y diwrnodau nesaf - i gefnogi busnesau o ran talu cyflogau, a chefnogaeth ariannol i bobl sydd wedi colli eu gwaith."

    Ken SkatesFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Ken Skates

    arianFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Cysylltiad Abertawe a Wuhanwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Mae Dai Lloyd o Blaid Cymru yn dweud wrth Eluned Morgan bod Abertawe wedi gefeillio gyda Wuhan, prifddinas talaith Hubei - lle'r oedd y coronafeirws ar ei waethaf yn China.

    Datblygodd cysylltiad rhwng y ddau le yn 1855 pan sefydlodd Griffith John o Abertawe ysbyty yn Wuhan.

    Griffith JohnFfynhonnell y llun, AMGUEDDFA ABERTAWE
    Disgrifiad o’r llun,

    Sefydlodd Griffith John un o ysbytai mwyaf China

  5. Annog Cymry sydd dramor i ddod adrefwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Wrth gael ei holi gan yr AC Darren Millar faint o Gymry sydd methu dychwelyd o wyliau tramor mae'r Gweinidog yn ateb "does gennym ddim yr union ffigyrau ond ry'n yn annog pobl i ddod adref os yn bosib".

    Eluned Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan

  6. Effaith coronafeirws ar dwristiaethwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Symudwn ymlaen at Gwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.

    Mae Caroline Jones o Blaid Brexit yn gofyn pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant twristiaeth i liniaru'r effaith y gallai coronafeirws ei chael yng Nghymru.

    Mae Eluned Morgan yn ateb "mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth bod y sector hon angen help ar frys".

    Fel enghraifft mae'n cyfeirio at y gostyngiad mewn trethi busnes a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

    Mae glan y môr yn denu hanner yr holl ymwelwyr gwyliau i GymruFfynhonnell y llun, OKSANAPHOTO/GETTY IMAGES
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae glan y môr yn denu hanner yr holl ymwelwyr gwyliau i Gymru

  7. Disgwyl penderfyniad cyn diwedd yr wythnos am arholiadauwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Kirsty Williams yn dweud y bydd hi'n siomedig os na "fydd penderfyniad am arholiadau yng Nghymru cyn diwedd yr wythnos."

  8. Adolygu sefyllfa ysgolionwedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    "Dwi ddim yn disgwyl y bydd pob ysgol yn agor ac yn gweithredu erbyn diwedd gwyliau'r Pasg," medd Kirsty Williams wrth ACau.

    "Yn amlwg byddwn yn adolygu'r sefyllfa."

  9. 'Angen canllawiau clir i ysgolion'wedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Mae Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad bod ysgolion yn cau ond mae'n dweud bod angen i'r gweinidog addysg roi "canllawiau clir i ysgolion am eu rôl yn y tymor byr".

    Mae hefyd yn dweud bod hi'n bryd "cael gwared, gohirio neu addasu arholiadau TGAU a Safon Uwch - gyda'r bwriad o'u cynnal yn yr hydref neu dod i drefniant arall.

    "Byddai hynny," meddai, "yn lleddfu'r pwysau ar ysgolion.

    "Mae defnyddio graddau rhagybiedig hefyd yn opsiwn," meddai.

    Sian Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian Gwenllian

  10. Penderfyniad am arholiadau yn fuanwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Mae Suzy Davies o'r Ceidwadwyr yn gofyn be sy'n digwydd i arholiadau yn dilyn y cyhoeddiad am gau ysgolion.

    Mae Kirsty Williams yn ateb: "Rwy'n gobeithio gwneud penderfyniad am arholiadau yn y dyfodol agos."

  11. 'Cadwch ddyddiadur'wedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Mae Kirsty Williams yn dweud wrth y Ceidwadwr David Melding: "Rwy' wedi dweud wrth fy nhair merch am gadw dyddiadur fel eu bod yn gallu bwrw golwg yn ôl ar eu profiadau pan ddaw'r wlad yn ôl i normal."

  12. Cau ysgolion - amser i baratoiwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cadarnhau bydd ysgolion Cymru yn cau ddydd Gwener.

    "Bydd penderfyniad heddiw yn rhoi amser i ysgolion baratoi yn iawn," meddai.

    Mae disgwyl i ganolfannau gofal plant aros ar agor nes eu bod yn cael cyngor i gau.

    Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams

  13. Gohirio eitemau ar yr agendawedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    O ganlyniad i haint coronafeirws, mae rhan fwyaf o'r eitemau oedd ar yr agenda ar gyfer heddiw wedi cael eu gohirio, gan gynnwys cytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit, deiseb ar gynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl, a chreulondeb i anifeiliaid.

  14. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020

    Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

    Yn ystod y munudau diwethaf mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau ddydd Gwener a hynny bythefnos cyn gwyliau swyddogol y Pasg.