Mesur pellter ar y Maeswedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020
Dyma'r darlun yng Nghaernarfon y bore ma wrth i bobl gadw gofod oddi wrth eu gilydd tra'n aros am feddyginiaeth mewn fferyllfa ar y Maes.
Ail ddiwrnod dan fesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio
Pum person arall wedi marw ar ôl cael coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm i 22
150 o achosion newydd wedi'u cadanrhau - cyfanswm o 628
Tywysog Cymru wedi cael prawf positif am Covid-19
Dyma'r darlun yng Nghaernarfon y bore ma wrth i bobl gadw gofod oddi wrth eu gilydd tra'n aros am feddyginiaeth mewn fferyllfa ar y Maes.
Mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi trydar i atgoffa rhieni a gwarchodwyr plant sydd adref yn ystod yr argyfwng coronafeirws am eu hadnoddau ar y we.
Maen nhw'n awgrymu y gallai plant gael eu diddori mewn llawer o ffyrdd gwahanol - gan gynnwys adeiladu tegannau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Hefyd yn ei gynhadledd i'r wasg y bore 'ma dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn gobeithio cynyddu nifer y gwyntiedyddion (ventilators) sydd ar gael i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru "trwy'r adeg".
Dywedodd Vaughan Gething bod tua 700 ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda'r gobaith o gael tua 1,000 yn rhagor yn fuan.
Mae gwyntiedyddion yn cael eu gweld fel rhan allweddol o'r frwydr yn erbyn coronafeirws.
Mae'r peiriannau yn cael ocsigen i'r ysgyfaint a thynnu'r carbon deuocsid o'r corff pan fo pobl yn rhy wael i anadlu ar eu pen eu hunain.
Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymu yn cynnig adnoddau a chynnwys i ddiddanu plant a phobl ifanc ar eu gwefan, dolen allanol.
Dywedodd y mudid fo y wefan yn cynnwys:
Ychwanegodd yr Urdd y bydd y tudalennau yn cael eu diweddaru'n gyson gyda gweithgareddau newydd.
Y diweddaraf o Benfro gan ohebydd BBC Cymru yn yr ardal.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae gwyddonwyr o Gymru yn dadansoddi cod genetig COVID-19 er mwyn deall mwy am y modd mae'r feirws yn lledaenu.
Fel rhan o gynllun gwerth £20m ar draws y DU, mae tîm ymchwil o Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar samplau unigolion sydd wedi eu heintio â coronafeirws.
Bydd y gwaith yn creu darlun o'r modd y mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo ac yn datgelu os oes mathau newydd o'r feirws yn datblygu.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn gwella ein dealltwriaeth o'r pandemig ac yn achub bywydau yn y pen draw.
Llywodraeth Cymru
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhyddhau datganiad yn nodi sut y bydd offer diogelwch, gan gynnwys mygydau plastig yn cael eu dosbarthu i staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Dywedodd Vaughan Gething y bydd yr offer yn cael ei ryddhau o'r pentwr pandemig sydd wedi ei gadw wrth gefn ar gyfer achlysuron fel hyn.
Bydd yr offer ar gael i'r byrddau iechyd, y Gwasanaeth Ambiwlans ac Ysbyty Felindre.
Fe fydd yr offer - sy'n cynnwys ffedogau, menig a mygydau, hefyd ar gael i'r 640 o glinigau meddygon teulu a'r 40 gwasanaeth meddygol allan o oriau yng Nghymru.
Bydd ail don o offer yn cael ei ryddhau i glinigau meddygon teulu'r wythnos hon, ac fe fydd yr offer ar gael i 715 o fferyllfeydd Cymru hefyd.
Mae Tywysog Cymru wedi cael prawf positif am coronafeirws.
Yn ôl y palas mae'r Tywysog Charles, 71 wedi dangos symptomau ysgafn ond mae'n "parhau'n iach fel arall".
Roedd Dr Edward Thomas-Jones o Brifysgol Bangor yn westai ar raglen y Post Cyntaf y bore 'ma.
Mae'n atgoffa busnesau a'r hunan-gyflogedig am y cymorth sydd ar gael.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi galw ar fferyllfeydd i beidio â chodi tâl am gludo meddyginiaethau i gartrefi pobl.
Dywedodd Vaughan Gething nad oedd yn disgwyl i fferyllfeydd cymunedol godi'r fath dâl, ac fe alwodd ar gwmni Boots i "ailystyried ei benderfyniad i godi tâl cludo" ar gwsmeriaid sydd angen meddyginiaeth.
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg fore dydd Mercher, dywedodd na ddylai pobl gael eu gorfodi i adael eu cartrefi i gasglu presgripsiwn os nad oedden nhw'n gallu fforddio talu am y ffioedd dosbarthu.
Ychwanegodd y byddai'n hapus i gysylltu gyda chwmni Boots yn ystod y dydd i drafod y mater.
Cyngor Powys
Mae Cyngor Sir Powys a Heddlu Dyfed Powys yn atgoffa busnesau ym Mhowys i gydymffurfio â chyngor clir i gau oni bai eu bod yn fusnes hanfodol.
Dywed y cyngor y "bydd unrhyw fusnesau sy’n agor ar draul cyhoeddiad y Llywodraeth yn troseddu ac yn peryglu iechyd y cyhoedd trwy ymledu’r Covid-19".
"Bydd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach, gyda chefnogaeth yr Heddlu, yn monitro busnesau, a bydd unrhyw fusnes sy’n troseddu’n destun sancsiynau llym gan gynnwys hysbysiad gwahardd a dirwyon diderfyn," meddai'r datganiad.
Plaid Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae teulu Meinir a Ffred Ffransis yn dweud nad yw'r ddau ymhlith y dinasyddion Prydeinig ym Mheriw sydd wedi cael sicrwydd y byddan nhw'n cael eu cludo adref.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod wedi trefnu awyren i gludo dinasyddion adref.
Y gred yw bod tua 200 o ddinasyddion wedi cael gwybod bod sedd ganddyn nhw ar hediad fydd yn gadael Lima am 14:30 ddydd Mercher.
Ond yn ôl teulu'r ddau nid oedd modd iddyn nhw deithio o dref Cucso i Lima mewn pryd i ddal yr awyren.
Bydd ceir, beiciau modur a faniau yn gallu cael eu gyrru heb MOT am chwe mis o 30 Mawrth ymlaen, yn ôl Gweinidog Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps.
Ond dywedodd bod rhaid i gerbydau fod yn addas ar gyfer y ffordd, ac y bydd garejis yn aros ar agor ar gyfer unrhyw waith brys sydd angen ei wneud.
Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth y byddai gyrwyr yn cael eu herlyn os ydyn nhw'n cael eu dal yn gyrru cerbyd sydd ddim yn ddiogel.
BBC Radio Wales
Mae 'na alwadau ar Lywodraeth Prydain i wneud mwy i gefnogi'r hunan-gyflogedig yn ystod argyfwng coronafeirws. Mae'n debyg bod 210,000 o weithwyr yn y categori yma yng Nghymru.
Ar raglen 'Breakfast with Claire Summers' ar BBC Radio Wales fore dydd Mercher, dywedodd Osian Williams, sydd yn ddyn glanhau simneiau yn ardal Pwllheli, fod angen mwy o gymorth ar weithwyr fel fo.
"Dwi'n meddwl fod y llywodraeth yn bod yn hael iawn gyda'r rhai sydd mewn gwaith, ond fe ddylie nhw fod yn hael gyda'r hunan-gyflogedig hefyd," meddai.
"Yn bersonol dwi wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am bythefnos ac mae fy mhartner yn cael babi yn yr wythnosau nesaf, felly rwy'n hunan ynysu er mwyn bod gyda hi yn ystod yr enedigaeth.
"Mi faswn i'n hoffi gweld y llywodraeth yn bod yn deg gyda'r hunan-gyflogedig, mor deg ag y maen nhw gyda'r rhai mewn gwaith."
Roedd Ffred a Meinir Ffransis o Lanfihangel-ar-arth ar eu gwyliau ym Mheriw pan benderfynodd y llywodraeth gau ei ffiniau a rhwystro hediadau o'r wlad gyda rhybudd o oriau'n unig ddydd Sul.
Mae nifer o wledydd eraill wedi llwyddo i gludo dros fil o ddinasyddion nôl o Beriw wedi i'r ffiniau gau, yn cynnwys Israel, Ffrainc a'r Almaen. Mae Canada hefyd yn ceisio trefnu hediadau i ddychwelyd eu dinasyddion nhw.
Yn ôl grŵp ymgyrchu newydd sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth am dranc y dinasyddion Prydeinig ym Mheriw mae cadarnhad bod o leiaf 633 ohonyn nhw yn gaeth yn y wlad, a phosibilrwydd bod cymaint â 1,000 yno i gyd.
Llywodraeth Cymru
Bydd Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething yn gwneud datganiad am y diweddaraf am sefyllfa coronafeirws ymhen ychydig funudau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
I bawb yn ardal Tregaron mae'r enw Hugh Lla'th yn hynod gyfarwydd - mae e a'i deulu wedi bod yn cario llaeth i bobl Tregaron a'r ardal ers dros 50 mlynedd ond yn sgil haint coronafeirws mae wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau iddi a 'dyw e ddim yn siŵr os y bydd e'n mynd nôl at y gwaith.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei fod e'n benderfyniad hynod anodd a'i fod wedi "bod yn llefen drwy'r dydd".
Fe ddechreuodd Hugh gario llaeth pan yn fachgen saith oed gyda'i rieni Will a Dorothy Morgan.
Dywedodd ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo roi'r gorau iddi wedi i haint coronafeirws ledu ac wedi i fesurau newydd ddod i rym.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailbwysleisio eu cyngor i'r cyhoedd, gan annog pobl i aros adref, cadw pellter o 2m rhwng ei gilydd ac i olchi eu dwylo yn gyson.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Powys
Mae Cyngor Powys yn gwneud apêl am fwy o staff o ganlyniad i argyfwng coronafeirws.
Maen nhw'n dweud bod hynny mewn nifer o feysydd, fel casglu sbwriel a darparu gofal.
Dywedodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am recriwtio, Graham Breeze bod y cyngor "eisoes yn fyr o staff mewn rhai mannau".
"Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi brofiad yn y meysydd hynny - bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu."