Crynodeb

  • Ail ddiwrnod dan fesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio

  • Pum person arall wedi marw ar ôl cael coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm i 22

  • 150 o achosion newydd wedi'u cadanrhau - cyfanswm o 628

  • Tywysog Cymru wedi cael prawf positif am Covid-19

  1. Fferyllwyr yn wynebu 'ymddygiad ymosodol'wedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    BBC Radio Wales

    Tra bo'r mwyafrif o fusnesau ynghau ar draws Cymru, mae fferyllfeydd yn parhau ar agor.

    Dywedodd Elen Jones, cyfarwyddwr y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru bod nifer o staff wedi wynebu ymddygiad ymosodol gan gwsmeriaid yn ystod argyfwng coronafeirws.

    "Mae'n bryder mawr i ni ein bod wedi derbyn nifer o adroddiadau gan ein haelodau o ymddygiad sarhaus ac ymosodol," meddai wrth BBC Radio Wales y bore 'ma.

    "Dyw hynny ddim yn dderbyniol ar unrhyw adeg, ond yn enwedig pan fo'n timau yn gweithio'n ddiflino dan gymaint o bwysau i fynd i'r afael â'r glaw cynyddol."

    FferyllfaFfynhonnell y llun, SPL
  2. Disgwyl i Senedd San Steffan gau henowedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Laura Kuenssberg
    Golygydd Gwleidyddol y BBC

    Mae Golygydd Gwleidyddol y BBC, Laura Kuenssberg yn dweud y bydd Senedd San Steffan yn cau heno wedi i'r ddeddfwriaeth frys ar coronafeirws basio.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  3. Rhyddhau offer diogelwch ar gyfer staff iechydwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Mae disgwyl y bydd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething yn cyhoeddi ddydd Mercher fod offer diogelwch personol 'PPE' o'r stôr pandemig wrth gefn yn cael eu rhyddhau.

    Bydd yr offer yn cael ei roi i weithwyr iechyd rheng flaen a gweithwyr cymdeithasol sy'n delio â chleifion sydd wedi eu heintio, neu sydd dan amheuaeth o fod â Covid-19.

    Bydd yna gyflenwadau ychwanegol hefyd ar gyfer meddygon teulu.

    Mae cyflenwadau eisoes wedi eu dosbarthu i'r 715 o fferyllfeydd yng Nghymru.

    PPEFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Croeso i'n llif byw arbennig ar fore Mercher, 25 Mawrth.

    Dyma'r ail ddiwrnod dan fesurau llym newydd i atal ymlediad coronafeirws, ble mae'n rhaid i bawb aros adref heblaw am rai amgylchiadau arbennig.

    Fe gewch chi'r holl newyddion am y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y dydd.

    Bore da.