Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2020
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw heddiw ar gyfer cynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru.
Am y newyddion diweddaraf dilynwch hafan Cymru Fyw.
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, sy'n cynnal y gynhadledd heddiw
Llywodraeth Cymru yn rhoi £40m arall i ddarparu cartrefi er mwyn atal digartref
Lansio cynllun benthyca i denantiaid sydd wedi mynd i ddyled yn ystod y pandemig
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw heddiw ar gyfer cynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru.
Am y newyddion diweddaraf dilynwch hafan Cymru Fyw.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod dau o bobl wedi marw yn y 24 awr ddiwethaf ar ôl cael prawf positif am coronafeirws.
Mae hynny'n dod â chyfanswm y marwolaethau yma i 1,581.
Mae 13 wedi profi'n bositif am Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf hefyd, gan olygu bod cyfanswm o 17,476 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru.
Mae'r ffigyrau gwaith diweddaraf yn awgrymu nad yw Cymru wedi dioddef cyn waethed â gwledydd eraill y DU yn ystod y cyfnod clo.
Mae canran y bobl sydd yn ddi-waith yng Nghymru yn 2.7%, o'i gymharu gyda chanran o 3.9% ar gyfartaledd yng ngweddill y DU.
Nid yw lefel diweithdra'r DU wedi cynyddu cymaint ag oedd llawer wedi ei ofni, a hynny'n bennaf o achos fod cymaint o gwmnïau wedi rhoi eu gweithwyr ar gynllun ffyrlo'r llywodraeth.
Dywed economegwyr na fydd effaith lawn y pandemig ar gyflogaeth i'w deimlo tan fydd y cynllun hwnnw'n dod i ben ym mis Hydref.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhybuddio y gallai 80 o swyddi gael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.
Mae'r elusen wedi dechrau ar gyfnod o ymgynghori gyda staff ar ôl rhagweld colledion o tua £200m yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae nifer y diswyddiadau posibl yng Nghymru yn cyfateb i 12% o'r gweithlu, ac yn cyd-fynd â lefel y diswyddiadau posibl ar draws yr elusen.
Mae'r ymddiriedolaeth yn berchen ar dros 50 o safleoedd yng Nghymru, rhai ohonynt yn adeiladau hanesyddol na fydd modd eu hailagor am fisoedd os nad blynyddoedd.
Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd Ms James wrth y gynhadledd ei bod yn "rhy gynnar" i wybod faint o ddisgyblion fydd yn apelio yn erbyn eu graddau wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
"Mae modd i'r ysgolion apelio os oes angen, ond yn gyntaf mae'n rhaid disgwyl i weld beth fydd y canlyniadau," meddai.
"Mae'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd faint fydd yn apelio na beth fydd y canlyniadau."
Llywodraeth Cymru
O ran y posibilrwydd o'r haint yn cynyddu unwaith eto dywedodd y Gweinidog Tai fod Llywodraeth Cymru "yn dibynnu ar gydwybod ac ymddiriedaeth pobl Cymru" i gadw at y canllawiau er mwyn rhwystro ail don."
Dywedodd Julie James fod Llywodraeth Cymru yn "gweithio yn galed iawn i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio gyda'r mesurau, ac i bwysleisio ein bod dal yng nghanol y pandemig".
"Rydym am i bobl barhau i fod yn ofalus ac i barhau i gadw at y rheolau, ac yn y modd yna mae gennym y cyfle gorau i rwystro ail don," meddai.
"Wrth gwrs mae yna baratoadau wrth law gyda'r awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn paratoi.
"Dyw hi ond yn synhwyrol y byddai unrhyw lywodraeth yn gwneud hynny."
Llywodraeth Cymru
Dydy'r ffigyrau diweithdra gafodd eu cyhoeddi ar gyfer Cymru heddiw "ddim yn dweud y stori'n gyflawn", meddai Julie James wrth y gynhadledd.
Mae'r ffigyrau'n awgrymu nad yw Cymru wedi dioddef cyn waethed â gwledydd eraill y DU yn ystod y cyfnod clo.
Ond dywedodd Ms James: "Ry'n ni bendant yn credu y bydd y darlun yn dod yn fwy eglur dros y misoedd nesaf wrth i'r cynllun ffyrlo arafu a chwmnïau’n ystyried eu sefyllfa.
"Mae hi'n anodd iawn dweud ar hyn o bryd beth yw'r sefyllfa yn union."
Llywodraeth Cymru
Yn ymateb i gwestiwn am ganlyniadau arholiadau yng Nghymru, wedi i Lywodraeth Yr Alban ymddiheuro am eu system nhw, dywedodd Julie James bod "y model yn wahanol iawn yma".
"Ry'n ni'n awyddus i'n disgyblion dderbyn y graddau maen nhw eu hangen am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud, ond eu bod hefyd yn cael y graddau maen nhw'n eu haeddu a bod y graddau hynny yn gadarn," meddai.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru "ddim yn disgwyl i'r hyn ddigwyddodd yn Yr Alban i ddigwydd yma" pan fydd canlyniadau Safon Uwch yn cael eu rhyddhau ddydd Iau.
Llywodraeth Cymru
Wrth ateb cwestiwn ynglŷn â'r rhai sydd ddim yn gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus dywedodd Ms James fod Llywodraeth Cymru yn "hynod ddibynnol ar bobl yn gwneud y peth cywir".
Ond ychwanegodd fod gan yr awdurdodau'r grymoedd i sicrhau fod y rheolau yn cael eu dilyn.
Yn gyntaf, meddai, dylai'r awdurdodau "drafod, addysgu ac yna ond defnyddio eu grymoedd ar ddiwedd y broses yma".
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl "i bobl ymddwyn yn rhesymol".
Roedd hefyd am danlinellu fod gwisgo gorchudd yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Julie James wrth y gynhadledd y dylai awdurdodau lleol "orfodi" mesurau cadw pellter mewn tafarndai a bwytai fel "opsiwn olaf".
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol ond ei bod yn bwysig i gynghorau weithio gyda busnesau.
"Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'u busnesau lleol i sicrhau eu bod yn deall y rheolau, bod modd iddyn nhw roi'r rheolau ar waith a'u bod yn gorfodi'r rheolau pan ei bod yn amlwg bod rhywun yn mynd yn erbyn y rheolau yna yn unig," meddai
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Ms James wrth y gynhadledd y bydd cynllun benthyca newydd ar gael i denantiaid sydd wedi mynd i ddyled yn ystod y pandemig.
Dywedodd y gweinidog ei bod yn gobeithio y byddai'r cynllun gwerth £8m yn "atal miloedd o bobl rhag cael eu gyrru o'u cartrefi neu hyd yn oed ddigartrefedd".
Bydd y cynllun ar gael i denantiaid sector preifat sydd ddim yn derbyn budd-daliadau, ond ni fydd ar gael i'r rheiny oedd eisoes mewn dyled rhent cyn mis Mawrth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr arian yn cael ei dalu yn syth i'r landlord, ac y bydd modd i denantiaid dalu'r arian yn ôl dros gyfnod o bum mlynedd gyda chyfradd APR o 1%.
Llywodraeth Cymru
Yn cadarnhau'r buddsoddiad i atal digartrefedd, dywedodd Julie James: "Mae'r coronafeirws wedi tynnu sylw at dai mewn ffordd nad oes llawer ohonom wedi'i gweld o'r blaen ac wedi'n hatgoffa i gyd o bwysigrwydd sylfaenol tai fforddiadwy o ansawdd da, cartrefi diogel a sefydlog a chymunedau cryf a chydlynus y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt.
"Y ffordd orau i ni fynd i'r afael â digartrefedd yw drwy ei atal yn y lle cyntaf.
"Dw i wedi dweud yn glir nad ydw i eisiau gweld neb yn gorfod dychwelyd i'r strydoedd.
"Mae gennym gyfle unigryw i newid y gwasanaethau a newid bywydau er gwell - ac i wneud digartrefedd yn sefyllfa brin, fyrhoedlog nad yw'n ailddigwydd."
Llywodraeth Cymru
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cadarnhau y bydd yn rhoi £40m i gefnogi prosiectau ledled Cymru er mwyn darparu cartrefi i sicrhau nad yw pobl yn mynd yn ddigartref ac nad oes unrhyw un yn cael eu gorfodi yn ôl i'r stryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod hyn yn ychwanegol at y £10m gafodd ei ddarparu ar gyfer yr un nod ym mis Mawrth.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi darparu cymorth i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl sy'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws yn gallu aros yn eu cartrefi rhent preifat.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd yn rhaid i weithwyr gofal dalu treth ar eu bonws o £500 gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y llywodraeth wedi bod eisiau i'r Trysorlys beidio â chodi treth am y taliadau.
Ond dadl Llywodraeth y DU oedd y gallai gweinidogion Cymru gynyddu maint y bonws os oedden nhw eisiau i bob gweithiwr gofal dderbyn £500.
Fe gyhoeddodd Mark Drakeford ar 1 Mai y byddai pob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru - 64,000 ohonynt - yn derbyn bonws o £500 am eu gwaith yn ystod y pandemig, ar gost o £32.2m.
Dywedodd y Prif Weinidog bod y taliadau wedi dechrau cael eu dosbarthu bellach.
Bydd gorchuddio'r wyneb yn dod yn orfodol dan ragor o amgylchiadau yng Nghymru os fydd coronafeirws yn dechrau lledu eto, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Ar hyn o bryd, mae ond yn orfodol i wisgo masgiau yng Nghymru wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae yna gyngor hefyd i bobl eu gwisgo mewn mannau cyhoeddus pan mae cadw'r rheol pellter cymdeithasol yn amhosib.
Ond mewn sesiwn holi ac ateb byw ar Facebook neithiwr dywedodd Mark Drakeford na fyddai'n oedi i ymestyn hynny os oes angen.
Prynhawn da a chroeso i'n llif byw ar gyfer cynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru ar ddydd Mawrth, 11 Awst.
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, sy'n cynnal y gynhadledd heddiw, fydd yn dechrau am 12:30.