Crynodeb

  • Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn arwain cynhadledd y llywodraeth i'r wasg

  • Sefyllfa "hynod o anodd" yn wynebu trigolion a staff cartref gofal yn Aberystwyth

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am y tro.

    Ar y diwrnod wnaeth y gweinidog iechyd son am "rai arwyddion cadarnhaol cynnar iawn" o niferoedd yn gostwng.

    Ond rhybuddiodd Vaughan Gething hefyd am "don arall o farwolaethau'r gaeaf hwn" a'r angen i barchu rheolau ymbellhau cymdeithasol.

    Ychwanegodd ei bod yn rhy gynnar eto i allu rhoi darlun pendant o beth fydd y mesurau mewn grym yn ystod cyfnod y Nadolig.

  2. Dwy farwolaeth yn rhagor gyda Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Galw am fwy o fanylionwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd Andrew RT Davies fod angen mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sefyllfa profion mewn cartrefi gofal.

    Yn Mr Davies roedd y gweinidog wrth son am "drefn newydd" wedi rhoi gobaith i filiynau ond heb unrhyw "fanylion na chynllun cadarn".

    Honnodd fod hynny yn greulon.

    "Rwy'n annog y gweinidog i osod yr un rheolau ar gyfer perthnasau agos sy'n ymweld â chartrefi ag sydd ar gyfer staff, i gael rhaglen o brofi gyda chanlyniadau cyflym fel y gall teuluoedd gwrdd â'i gilydd unwaith eto."

  4. Treialon ar frechlyn arallwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Mae treialon o frechlyn arall i ddiogelu rhag Covid-19 wedi eu lansio yn y DU.

    Mae'r brechlyn gan gwmni Janssen o wlad Belg yn defnyddio addasiad geneteg o feirws annwyd.

    Daw hyn wedi i frechlyn arall yn ddiweddar ddangos llwyddiant o 90% o amddiffyniad yn erbyn y feirws.

    Mae'n debyg y bydd angen sawl brechlyn er mwyn ceisio atal yr haint yn llwyr.

  5. Galw am brofion cyflym i ymwelwyr cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Plaid Cymru

    Fe ddylai gweinidogion fod yn gweithio i sicrhau fod perthnasau gymaint ag sy'n bosib yn gallu rhoi cefnogaeth i'w hanwyliaid mewn cartrefi gofal, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth.

    Dywedodd ei fod wedi derbyn sawl e-bost gan etholwyr yn mynegi pryder am y diffyg cyswllt gyda pherthnasau oherwydd coronafeirws.

    Dywedodd y dylai profion sy'n rhoi canlyniadau cyflym fod ar gael i bobl sy'n ymweld â chartrefi gofal.

    Pan gafodd ei holi a ddylai ymwelwyr gael eu hystyried yng nghategori gweithwyr allweddol ar gyfer profion dywedodd: "Byddai’n rhaid gweld a fyddai hynny'n bosib ar gyfer pawb, ond yn sicr lle mae yna gwestiynau am les dylai gael ei nodi."

  6. Gwrthod honiad am farwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth y gweinidog iechyd hefyd wrthod honiad fod pobl yn marw mewn cartrefi gofal oherwydd bod canlyniadau profion yn cymryd gormod o amser.

    Dywedodd fod yr honiad, a wnaed gan Will Hayward o Wales Online yn “honiad wedi ei seilio ar wybodaeth oedd ddim yn gyflawn.”

    "Rydym yn gwybod fod yna heriau ar gyfer profion mewn cartrefi gofal. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â hynny.

    "Rydym nawr yn dechrau gweld y darlun yn gwella wrth weld canlyniadau o labordai goleudai ."

    Dywedodd mai llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am y labordai hynny.

  7. Dim gorfodi brechlyn Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, “nad yw’n cynllunio” i wneud brechlynnau Covid-19 yn orfodol yng Nghymru, pan fyddan nhw ar gael.

    Yn ystod y sesiwn holi ac ateb gyda newyddiadurwyr, dywedodd nad oedd e fel gweinidog iechyd wedi gorfodi brechlyn, ac na fyddai eisiau gwneud hynny gyda’r brechlynnau Covid.

    “Y cyfan yw hyn mewn gwirionedd ydy ceisio cael brechlynnau diogel ac effeithiol sydd ar gael i’r cyhoedd”, meddai.

    “Nid wyf yn disgwyl ac nid wyf yn bwriadu ceisio mandadu’r rheiny.”

    “Fy mwriad i ydy sicrhau fod pobl yn deall y dystiolaeth ar gyfer diogelwch y brechlyn, ac yna’n gwneud y dewis iawn i’w hamddiffyn nhw, eu teulu a’u cymuned” ychwanegodd.

    brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. 'Rhy gynnar i benderfynu ar fesurau newydd'wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "dal yn rhy gynnar i allu dweud" a fyddai angen mesurau mwy llym ar gyfer ardaloedd gyda chyfraddau uchel o covid.

    Yn ôl Mr Gething roedd yna "ostyngiad mawr" wedi bod led led Cymru a bod hynny yn "newyddion da", ond ychwanegodd y byddai dal yn cymryd rhai wythnosau i weld canlyniadau llawn y cyfnod clo byr.

    "Ni allwn gael syniad pendant ar hyn o bryd" meddai.

    "Bydd angen i ni weld faint yn fwy mae'r graddfeydd yn gostwng cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol, boed hynny yn lleol neu yn genedlaethol."

    Ond ychwanegodd y byddai’n well ganddo ef weld mesurau cenedlaethol.

  9. Y camau nesaf o ran ehangu profionwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Vaughan Gething yn cynnal cynhadledd i'r wasg

    Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei bod hi'n bosib y byddai "dull gwahanol o brofi mewn cartrefi gofal" yn darparu canlyniadau yn gyflymach.

    Dywedodd Mr Gething fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y gwahanol fathau o brofion sydd ar gael "ym mhob rhan o'n system" ac i fod ar gael "yn ehangach" ledled y wlad.

    Dywedodd fod buddsoddiad wedi'i wneud yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a bod capasiti pellach yn y labordai goleudai sy'n cael eu rhedeg gan lywodraeth y DU lle "mae pethau'n gwella erbyn hyn".

    Ychwanegodd fod gan Lywodraeth Cymru fynediad at brofion newydd ond bod "rhaid darganfod pa mor ddibynadwy ydyn nhw".

    "Rwy'n credu y byddai'n anghywir gweld hyn yn nhermau un mater penodol mewn un maes heb weld y darlun ehangach ar sut rydyn ni'n defnyddio'r holl brofion ar gael i ni", meddai.

    "A dyna lle rydw i eisiau cyrraedd - i gael y darlun sefydlog ehangach hwnnw a fydd yn bendant yn cynnwys y potensial am gynllun gwahanol wrth sôn am ail-gydio mewn ymweliadau â chartrefi gofal.

    "Ond nid yw'r gwaith wedi'i orffen eto - pan fydd wedi ei gwblhau fe fydda i'n gwneud hynny'n glir yn gyhoeddus."

  10. Y wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf graffiauwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Anodd rhoi darlun clir am y Nadoligwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl y gweinidog iechyd mae hi dal yn rhy gynnar i allu dweud beth yn union fydd y rheolau Covid adeg y Nadolig - ond ni fyddant yn ôl i'r drefn arferol.

    Dywedodd Mr Gething wrth y gynhadledd ei fod wedi gweld lluniau o bobl yn ciwio i fynd i siopau a rhai yn dangos pobl ddim yn cadw pellter o'i gilydd.

    "Pe bai hynny yn parhau fe fyddwn yn wynebu dewisiadau anodd," meddai.

    "Mae angen i bawb chwarae eu rhan a dwi wedi gweld delweddau sy'n fy mhryderu lle mae pobl wedi anghofio am ymbellhau ac yn dychwelyd i ffordd fwy normal o fihafio.

    "Nawr pe bai hynny yn parhau rydym yn wynebu dewisiadau anodd.

    "Mae'r feirws yn un hynod heintus sy'n ymledu yn gyflym gyda chyswllt dynol."

    Dywedodd dyna pam ei fod yn anodd rhoi darlun pendant o beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod y Nadolig.

  12. Coronafeirws yn wahanol i'r ffliw arferolwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe ddefnyddiodd Mr Gething ran helaeth o'i araith yn pwysleisio fod yna wahaniaethau sylfaenol rhwng y ffliw tymhorol a coronafeirws, a hynny am ei fod yn credu bod yna "gamdybiaethau cyffredin ynghylch yr haint".

    "Mae rhai tebygrwydd rhwng coronafeirws a'r ffliw - mae'r ddau yn glefydau heintus iawn, a all achosi salwch anadlol difrifol neu hyd yn oed angheuol," meddai Mr Gething

    "Nid ydym yn gyfarwydd â coronafeirws. Nid yw ein cyrff yn gwybod sut i ymladd yn ei erbyn eto.

    "Nid oes unrhyw driniaethau a all atal coronafeirws ond rydym wedi dysgu llawer dros yr 11 mis diwethaf."

    Ychwanegodd bod yna dystiolaeth bod rhai pobl wedi dal yr haint ddwywaith, a bod rhai'n parhau i brofi ystod o broblemau iechyd ar ôl dal yr haint.

    "Mae ffigurau Sefydliad Iechyd y Byd yn awgrymu y bydd 15% o bobl sydd wedi’u heintio â choronafeirws yn datblygu salwch difrifol, sy’n gofyn am therapi ocsigen a bydd 5% o bobl yn mynd yn ddifrifol wael. Mae hyn yn uwch na'r hyn a welwyd ar gyfer ffliw."

  13. Dilynwch y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Y raddfa yn parhau i ddisgynwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AS, eu bod yn 'dechrau gweld rhai arwyddion cadarnhaol cynnar iawn bod achosion o coronafeirws yn dechrau cwympo'.

    "Mae'r duedd yma yn parhau", meddai, "ac mae'r gyfradd saith diwrnod yng Nghymru bellach oddeutu 160 o achosion fesul 100,000 o bobl, sydd yn ostyngiad o 70 o'r adeg hon yr wythnos diwethaf."

    "Er enghraifft yn Merthyr Tudful, a oedd a'r cyfraddau uchaf yn y DU ychydig dros wythnos yn ôl, mae'r gyfradd wedi mwy na haneru i oddeutu 330 o achosion fesul 100,000 o bobl."

    vaughan gethingFfynhonnell y llun, bbc

    Wrth arddangos y ffigyrau heintio diweddaraf dywedodd Mr Gething: "Mae'r don hon wedi bod gymaint yn fwy na'r gwanwyn oherwydd bod profion torfol wedi bod ar gael ac rydym wedi gallu canfod achosion yn y gymuned.

    "Ond mae'n ymddangos ein bod bellach yn wynebu ton arall o farwolaethau y gaeaf hwn. Mae hyn yn tanlinellu pam y gwnaethom gyflwyno'r cyfnod clo byr.

    "Yn ystod pythefnos gyntaf mis Tachwedd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi mwy na 250 o farwolaethau o ganlyniad i coronafirws.

    "Mae hwn yn rhif eithafol o sobor. Ond wrth gwrs, nid rhifau yn unig mo'r rhain - pobl yw'r rhain sy'n gadael bywydau ac anwyliaid ar ôl.

    "Bydd mwy na 250 o deuluoedd ledled Cymru sy'n galaru am eu colled", meddai.

  15. Cyfyngiadau ar forgeisi yn taro pobl ifancwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Wedi misoedd y cyfnod clo cyntaf, mae'r farchnad dai yng Nghymru yn mwynhau cyfnod o dwf, gyda phrisiau cartrefi ar eu huchaf ers tro.

    Ond wrth i'r banciau boeni am effaith y pandemig ar swyddi, mae 'na fwy o gyfyngiadau ar forgeisi a'r to ifanc, sy'n ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf, yn cael eu taro waethaf.

    Mae 'na sôn y gall prisiau ostwng, ond heb sicrwydd morgais, mae cael troed ar yr ysgol yn dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl ifanc., dolen allanol

  16. Yn dechrau ymhen deg munudwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Gall mygydau ddod yn orfodol mewn ysgolion uwchradd'wedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "edrych a oes rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio gorchuddion wyneb" gan gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd

    Daw hyn wedi i Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, dolen allanol(TAC) awgrymu " lefelau uwch o heintiau a throsglwyddo o fewn grwpiau oedran ysgol" nag oedd wedi ei ystyried yn flaenorol.

    Mae eisoes yn orfodol i wisgo mygydau yng nghoridorau a mannau cymunedol ysgolion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    O fewn mannau yn Yr Alban ble mae yna gyfraddau heintio uwch, mae hefyd disgwyl i ddisgyblion hŷn a staff wisgo mygydau yn yr ystafell ddosbarth.

    Dywedodd y gweinidog addysg Kirsty Williams fod Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych "ar fesurau pellach ble gallwn ni leihau cysylltiadau".

    Mae'r mesurau posib yn cynnwys atal plant rhag newid dillad yn rhy agos at ei gilydd ar ôl ymarfer corff, a chyfyngu ar ganu mewn grŵp dan do.

    DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
  18. Cartef Hafan y Waun yn wynebu sefyllfa "hynod o anodd"wedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Dywed caplan cartref gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth bod y sefyllfa sy'n wynebu staff, preswylwyr a'u teuluoedd yn "hynod o anodd" ond bod pawb yn gwneud eu gorau i ymdopi â chyfnod na welwyd ei debyg.

    Dywedodd y Parchedig Ingrid Rose, a gafodd brawf positif Covid ei hun ddydd Sul: "Y trigolion gwannaf sydd wedi cael eu taro waethaf a mae'n drist iawn gweld pawb yn gorfod aros yn eu hystafelloedd eto a pheidio gweld neb arall."

    Mae'r sefyllfa yn y cartref, sy'n cael ei redeg gan elusen Methodist Homes, yn parhau i fod yn "heriol" medd Cyngor Ceredigon ac mae'r awdurdodau yn parhau i ddelio ag achos "sylweddol" o Covid-19.

    Does dim manylion am nifer yr achosion ond mae oddeutu 90 o drigolion yn cael gofal yn y cartref.

    Hafod y WaunFfynhonnell y llun, Google
  19. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 16 Tachwedd 2020

    Croeso i'r llif byw a fydd yn rhoi rhoi'r newyddion diweddara' o gynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru i'r wasg.

    Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething sydd yn arwain y gynhadledd heddiw.