Crynodeb

  • Cyfyngiadau Covid-19 newydd i gael eu cyflwyno yng Nghymru

  • Cyfyngiadau ar dafarndai a bwytai yn dod i rym ddydd Gwener nesaf

  • Lleoliadau adloniant dan do, fel sinemâu, i gau er nad oes dyddiad wedi ei gadarnhau eto

  • UCAC yn dweud y dylid ystyried cau ysgolion yn gynnar a symud dysgu ar-lein am wythnos olaf y tymor

  1. Hwyl am heddiwwedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Mae prif bwyntiau Mark Drakeford o'r gynhadledd ar gael i'w darllen ar ein hafan.

    Diolch am ddilyn, a mwynhewch eich penwythnos.

  2. 21 yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 21 yn ragor o farwolaethau a 1,105 achos newydd o goronafeirws yng Nghymru.

    Mae cyfanswm o 77,091 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach, a 2,494 o bobl wedi marw.

    Cyfanswm nifer y profion sydd wedi eu cynnal ydy 1,454,056, ac mae 923,046 o unigolion wedi derbyn prawf.

    PrawfFfynhonnell y llun, PA Media
  3. 'Ergyd fawr i fusnesau lletygarwch'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Mark Drakeford, dywedodd Paul Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Mae hon yn mynd i fod yn ergyd fawr i fusnesau lletygarwch ar hyd a lled y wlad - busnesau sydd wedi dioddef yn fawr dros yr wyth mis diwethaf.

    "Mae nawr angen i ni gael y manylion gan Lywodraeth Cymru oherwydd bydd hwn yn creu amser hyd yn oed yn fwy pryderus ac ansicr i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi.

    "Fel o'r blaen, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am system sy'n targedu ardaloedd penodol, yn seiliedig ar ddata lleol, yn hytrach na'r un cyfyngiadau ar draws Cymru i gyd."

    PD
  4. Iechyd y cyhoedd yn 'dod yn ail'wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Twitter

    Un arall sydd yn anfodlon gyda'r newyddion o'r gynhadledd i'r wasg ydy Mark Reckless AS, o Blaid Diddymu Cynulliad Cymru:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Anfodlonrwydd gyda'r cyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Twitter

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd yn y Senedd wedi lleisio ei anfodlonrwydd gyda chyhoeddiad Mark Drakeford am gyfyngiadau pellach i ddod.

    Nid yw Andrew RT Davies yn fodlon gyda'r ffaith y bydd y cyfyngiadau'n berthnasol i bob rhan o Gymru yn hytrach na'r ardaloedd ble mae'r haint ar ei gwaethaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Angen gostwng risg y feirws cyn y Nadoligwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai'r cyngor gan brif swyddogion meddygol y DU yw bod yr effaith o lacio cyfyngiadau dros y Nadolig "yn dibynnu ar sut rydyn ni'n mynd mewn i'r pum dydd yna".

    "Y mwy mae'r feirws yn cael ei ostwng yn ystod yr adeg yn arwain at bum dydd y Nadolig, y mwy gall risg ychwanegol y pum dydd gael ei osgoi," meddai.

    Dywedodd Mark Drakeford mai dyma'n rhannol oedd y rhesymeg dros gyhoeddi mesurau ychwanegol heddiw.

    "Mae angen i ni wneud mwy yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y feirws wedi ei reoli gymaint â phosib cyn y Nadolig, oherwydd bydd hynny'n helpu ni i osgoi'r risgiau ychwanegol sy'n anochel."

  7. Cyhoeddiad yn creu 'mwy o ansicrwydd'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Plaid Cymru

    Mae cyhoeddiad y prif weinidog am gyfyngiadau llymach i’r sector lletygarwch wedi creu “mwy o ansicrwydd”, yn ôl Plaid Cymru.

    Dywedodd llefarydd y blaid ar economi fod diffyg manylion yn golygu nad yw tafarndai a bwytai yn "gwybod am beth maen nhw'n baratoi".

    Ychwanegodd Helen Mary Jones: “Mae gwneud cyhoeddiad heb wneud cyhoeddiad yn creu mwy o ansicrwydd i sector sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Rhaid sicrhau fod unrhyw gyfyngiadau ar letygarwch yn cydfynd a chefnogaeth economaidd ddigonol nad yw'n ailadrodd anhrefn welwyd gyda’r Gronfa Gwydnwch Economaidd a bod busnesau'n cael digon o amser i baratoi ar gyfer yr hyn a ddisgwylir ganddynt.

    “Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi bywydau a bywoliaethau a bod polisi iechyd cyhoeddus a polisi economaidd yn mynd law yn llaw.

    “Nid yw’r cyfyngiadau ychwanegol hyn yn syndod. Daeth Llafur allan o’r toriad tân yn rhy sydyn - dywedasom hynny ar y pryd. Dylent fod wedi mynd am doriad tân hirach ond fe ddewison nhw beidio â gwneud hynny oherwydd economeg. Mae bellach yn hanfodol eu bod yn sicrhau bod profion torfol yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd uchel o haint, yn darparu digon o gefnogaeth economaidd i'r rheini sy'n gorfod hunan-ynysu a chyhoeddi eu cynllun brechu ar gyfer Cymru."

  8. Cynnydd mewn achosion ymysg yr ifancwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod 21 o'r 22 cynghorau yn "gweld cynnydd yng nghyfradd yr achosion ymysg pobl o dan 25 oed".

    Ychwanegodd bod patrwm Covid-19 "trwy gydol y pandemig" wedi "dechrau ymysg pobl ifanc a wedyn mae'n symud i bobl hŷn a phobl mewn grwpiau mwy bregus.

    "Hyd yn oed ble mae achosion ar hyn o bryd yn is yn rhai ardaloedd o Gymru mae'n bwysig i amddiffyn y poblogaethau yna.

    "Mae angen gweithredu nawr er mwyn sicrhau nad ydyn ni'n gweld yr effeithiau negyddol byddai'n dod o adael y gyfradd o achosion i gynyddu.

    "Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo roedden ni'n sicr mai dilyn yr un set o reolau ar draws Cymru i gyd oedd y ffordd fwyaf effeithiol o allu cyfathrebu beth rydyn ni'n gofyn i bobl yng Nghymru ei wneud, yn gwneud e'n haws i bobl wybod y rheolau ac i ddilyn nhw i sicrhau bod y cyfyngiadau mor effeithiol â phosib."

  9. Lloegr 'i ddilyn trefniadau' gweini Cymruwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd newid i oriau agor tafarndai Lloegr yn dod â nhw i'r un drefn â’r ffordd y mae tafarndai yng Nghymru yn gweithredu, yn ôl y Prif Weinidog.

    Daw ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi y bydd tafarndai yn Lloegr yn cael aros ar agor tan 23;00 yn hytrach na 22:00.

    Bydd archebion olaf y noson yn dal i gael eu derbyn yn Lloegr am 22:00 pan ddaw'r cyfnod clo yn Lloegr i ben ar 2 Rhagfyr.

    “Rydyn ni wedi bod â system wahanol yng Nghymru erioed,” meddai Mr Drakeford.

    “Dydyn ni ddim yn gweini alcohol ar ôl 22:00 ond rydyn ni bob amser wedi caniatáu amser i dafarndai a bwytai i bobl orffen eu pryd bwyd, yfed i fyny a gadael mewn ffordd fwy trefnus.

    “Y cyfan sy'n digwydd yn Lloegr mewn gwirionedd yw eu bod nhw'n cyd-fynd â'r ffordd rydyn ni wedi gweithredu'r trefniadau 22:00 yma yng Nghymru.”

    TafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Dim bwriad cau ysgolion yn gynnar'wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cau ysgolion yn gynnar ar gyfer y Nadolig.

    Mae'r undeb athrawon UCAC wedi galw ar y llywodraeth i ysgolion gael caniatâd i gau yn gynnar ar 11 Rhagfyr ac i wersi gael eu symud ar-lein er mwyn osgoi sefyllfa ble all athrawon a disgyblion orfod hunan-ynysu ar ddydd Nadolig.

    Yn siarad yn ystod y gynhadledd i'r wasg, dywedodd Mark Drakeford: "Nid dyma ein bwriad.

    "Rydyn ni'n parhau i drafod gydag awdurdodau addysg lleol a'r undebau dysgu wrth gwrs.

    "Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i gadw ein hysgolion ar agor lan at Nadolig.

    "Fe wnawn ni weithio gyda'r undebau, prif athrawon, ac awdurdodau lleol addysg.

    "Mae'n fwy pwysig i'n plant beidio colli mwy o'r addysg sydd wedi'i gynllunio iddyn nhw am weddill y tymor a dyna beth fyddwn ni'n gweithio i'w gyflawni."

    YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Cyfyngiadau cenedlaethol nid lleolwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford mai bwriad y llywodraeth fydd cyflwyno cyfyngiadau newydd ar hyd a lled y wlad yn hytrach na gweithredu cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd unigol yn unig.

    "Mae gennym haen sengl yng Nghymru. Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo cawsom ein hargyhoeddi gan y cyngor a welsom mai un set o fesurau cenedlaethol ledled Cymru oedd y ffordd fwyaf effeithiol inni allu cyfleu'r hyn yr ydym yn ei ofyn o bobl yng Nghymru, a'i gwneud hi'n haws i bobl wybod y rheolau a'u dilyn ac felly i gael yr effaith mwyaf o'r cyfyngiadau.

    "Rydyn ni wedi edrych eto ar y ffigurau ledled Cymru. Mae yna amrywiaeth o hyd rhwng gwahanol awdurdodau lleol ond mae'r patrwm sylfaenol yn eithaf tebyg ledled Cymru," meddai.

    Dywedodd hefyd nad oedd achos dros uno trefniadau Cymru a Lloegr i sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei adael allan o gynlluniau Trysorlys y DU i gynnig cymorth ariannol i fusnesau sydd yn dioddef.

    “Dydyn ni ddim ar ein colled o unrhyw system yn y DU trwy gael haen sengl i Gymru, felly does dim anfantais i ni yn hynny,” meddai.

    “Nid ydym chwaith yn modelu’r hyn sy’n iawn i Gymru dim ond trwy efelychu yr hyn sy’n digwydd mewn man arall.

    “Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yw dylunio system sydd, yn ein barn ni, yn gweithio orau i'n hamgylchiadau, ar gyfer ein ffigurau; a dim ond i ailadrodd, y cyngor sydd gennym yw bod un set o drefniadau ar gyfer Cymru yn gweithio orau, ei bod yn haws ei chyfleu, ac yn sicrhau budd i bob rhan o Gymru.”

  12. Trafodaethau am gyfyngiadau 'yn parhau'wedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad yw Llywodraeth Cymru “wedi gorffen” trafodaethau gyda’r diwydiant lletygarwch am y cyfyngiadau y mae gweinidogion yn fwriadu eu cyhoeddi, a bydd yn cwblhau'r sgyrsiau hynny "dros y penwythnos".

    "Yna byddaf yn gallu dweud wrthych yn awdurdodol y trefniadau fydd ar gael ym maes lletygarwch yng Nghymru," meddai.

    Roedd Mr Drakeford yn ymateb i'r awgrym bod gweinidogion yn bwriadu gosod cyfyngiadau sy'n cyfateb i lefel tri yn yr Alban, lle mae'n rhaid i gaffis, tafarndai a bwytai gau am 18:00 a dim ond diodydd di-alcohol fydd yn cael eu gwerthu.

  13. Cyhoeddi cyfyngiadau newydd i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd rheolau Covid-19 newydd yn gweld sinemâu, canolfannau bowlio a lleoliadau adloniant dan do yn cau, a chyfyngiadau newydd ar dafarndai a bwytai ymhen wythnos, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw.

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod manylion am y rheolau newydd ar dafarndai a bwytai, a ddaw i rym ddydd Gwener nesaf, yn dal i gael eu paratoi.

    Ychwanegodd nad oedd dyddiad wedi ei gytuno hyd yma am pa bryd y byddai sinemâu, canolfannau bowlio a lleoliadau adloniant dan do yn cau, ond byddai cyfyngiadau yn dod i rym i'r sector lletygarwch o ddydd Gwener nesaf.

    Credir mai un dewis yw dilyn model ‘lefel 3’ yr Alban, sydd ddim yn caniatáu unrhyw alcohol i gael ei weini a thafarndai yn cau am 18:00.

    Daw'r datblygiad wrth i achosion o Covid-19 barhau i godi eto ar ôl cwympo ar ôl y cyfnod clo diwethaf.

    Mae'r gyfradd 'R' - sef nifer y bobl yr oedd pob person gyda Covid-19 wedi trosglwyddo'r feirws iddynt - wedi codi eto i 1.4, meddai Mr Drakeford.

    Mae angen i'r gyfradd fod yn is nag un er mwyn i nifer yr achosion ostwng.

    “Rhaid i ninnau hefyd nawr ddefnyddio’r wythnosau nesaf i leihau lledaeniad y feirws a chreu mwy o le ar gyfer cyfnod y Nadolig,” meddai Mr Drakeford.

    “Nid yw hyn yn golygu dychwelyd i drefniadau'r cyfnod clo ond mae’r Cabinet wedi cytuno i gymryd camau penodol wedi’u targedu i atgyfnerthu’r mesurau cenedlaethol cyfredol sydd gennym ar waith.”

    Ychwanegodd: “Rwy’n gwybod y bydd hwn yn amser pryderus i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant.

    “Byddwn yn gweithio dros y penwythnos gyda phartneriaid i gwblhau manylion y trefniadau newydd ac i roi pecyn pellach o gymorth ariannol ar waith i ymateb i'r newidiadau hynny.

    “Byddaf yn cyhoeddi mwy o fanylion am y pecyn ddydd Llun.”

    Bydd busnesau manwerthu, siopau trin gwallt, campfeydd a chanolfannau hamdden nad ydynt yn hanfodol yn aros ar agor.

    Mae pedair gwlad y DU wedi cytuno y gall tri chartref gymysgu dan do dros gyfnod o bum niwrnod dros y Nadolig.

    Ond cafwyd rhybuddion gan wyddonwyr y gallai hyn arwain at ymchwydd newydd mewn achosion o goronafeirws.

    MD
  14. Dilynwch y diweddaraf o'r gynhadledd:wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford ar fin dechrau siarad yn y gynhadledd i'r wasg ac mae modd i chi ei wylio drwy glicio ar y ddolen isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Galw am gau ysgolion wythnos yn gynnar cyn y Nadoligwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried cau ysgolion yn gynnar a symud dysgu ar-lein am wythnos olaf y tymor cyn y Nadolig, yn ôl undeb dysgu.

    Dywedodd undeb athrawon UCAC y gallai achosion positif mewn ysgolion yn ail hanner mis Rhagfyr olygu bod 'swigod' o ddisgyblion a staff yn gorfod hunan-ynysu dros ddydd Nadolig.

    Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, mae'r undeb yn nodi dadleuon dros gau lleoliadau ar 11 Rhagfyr - wythnos cyn diwedd y tymor i'r mwyafrif o ysgolion a cholegau.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i ddysgu wyneb yn wyneb barhau tan ddiwedd y tymor oni bai bod rhesymau clir o ran iechyd cyhoeddus i beidio gwneud hynny.

    YsgolFfynhonnell y llun, Getty
  16. Covid-19: GIG yn gwario £501m ychwanegolwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Dywed y corff Archwilio Cymru fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gwario £501m yn ychwanegol mewn ymateb i sefyllfa'r pandemig coronafeirws.

    Roedd angen "ymateb enfawr" gan y Gwasanaeth Iechyd o achos y pandemig medd Archwilio Cymru, gyda’r angen am fwy o adnoddau mewn meysydd megis staffio, offer, cyffuriau, offer TG a gwasanaethau.

    Hanner ffordd drwy’r flwyddyn, adroddodd cyrff y GIG mai £501m oedd cyfanswm cost net gweithgarwch yn gysylltiedig â Covid-19.

    Dau o’r meysydd gwario allweddol oedd cyfarpar diogelu personol (£130m) a staffio (£109m), gyda chyrff yn defnyddio cymysgedd o oramser, staff asiantaeth, myfyrwyr a chyn-staff oedd wedi dychwelyd i'r gweithle.

    Sefydlu a rhedeg ysbytai maes (£122m) a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (£30m) oedd y prosiectau gwariant mawr.

    Erbyn mis Medi, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £469m o gyllid i gyrff y GIG ar gyfer costau yn gysylltiedig â Covid-19.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton:

    “Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol i gyrff y GIG ac mae costau ariannol rheoli’r pandemig wedi bod yn sylweddol.

    "Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y gwelliant cyffredinol i iechyd ariannol GIG Cymru, parhaodd sawl bwrdd iechyd i gofnodi diffygion blynyddol, ac mae’n edrych yn debygol y bydd hyn yn parhau yn 2020-21.

    "Fodd bynnag, mae’n braf gweld, yn gyffredinol, gan gymryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gost o ymdrin â Covid-19, nad yw sefyllfa ariannol gyffredinol GIG Cymru wedi gwaethygu wrth fynd i’r afael ag effeithiau eithriadol y pandemig.

    "Byddaf yn disgwyl gweld llywodraethu da o ran y gwariant ychwanegol a chraffu cadarn ar geisiadau am gyllid ychwanegol a wneir gan gyrff y GIG.”

    WardFfynhonnell y llun, Getty
  17. Y gynhadledd yn dechrau'n fuanwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Gofyn i ddisgyblion yn Llambed i hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mewn datblygiad arall yng Ngheredigion, mae'r cyngor wedi gofyn i ddisgyblion blwyddyn 10 yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol.

    Rhaid i'r disgyblion a rhai staff aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl yr haint i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach medd y cyngor.

    Bydd y disgyblion yn cael eu dysgu o bell am y cyfnod yma.

    YsgolFfynhonnell y llun, Google
  19. Gorchymyn dwy dafarn i gau yn Aberteifiwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd dwy dafarn yn y sir yn gorfod cau ar unwaith er mwyn atal ymlediad coronafeirws, a hynny o achos y "bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd yn ardal Aberteifi".

    Bydd y gorchymyn yn cael ei adolygu'n wythnosol, ac mae'r cyngor yn rhybuddio bod "sancsiynau tebyg hefyd yn cael eu hystyried mewn perthynas â nifer o fangreoedd eraill yn y sir."

    Dywed y cyngor ei fod yn "angenrheidiol ac yn gymesur" i gau’r Red Lion Inn a'r Bell Hotel yn Aberteifi ac "mae’n ofynnol i'r mangreoedd gau tan na fydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd wedi’u bodloni mwyach."

    Mae’r amodau o ran iechyd y cyhoedd yn cynnwys:

    • bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd
    • bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, a
    • bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.

  20. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i lif byw BBC Cymru Fyw ar ddydd Gwener 27 Tachwedd.

    Fe fyddwn yn cyhoeddi'r diweddaraf o gynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, fydd yn dechrau mewn cwta hanner awr.

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford sydd yn arwain y gynhadledd heddiw ar ran y llywodraeth.

    Arhoswch hefo ni.