Crynodeb

  • Dros 2,000 o achosion newydd o'r feirws yn cael eu cofnodi mewn diwrnod am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig

  • Dywed Vaughan Gething fod achosion yn codi mewn 19 o'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru

  • Mwy na 1,800 o gleifion Covid bellach mewn ysbytai ledled Cymru - y nifer uchaf a gofnodwyd erioed

  • Ar nodyn mwy positif, mae disgwyl i bobl yng Nghymru ddechrau cael eu brechu ddydd Mawrth

  • Ond y cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yng Ngheredigion yn "bryder mawr" yn ôl cynghorydd sir

  1. Diolch am ymunowedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Carreg filltir digroeso arall yng Nghymru heddiw wrth i nifer yr achosion newydd o Covid-19 fynd heibio'r 2,000 mewn 24 awr.

    Yn y gynhadledd yn gynharach, rhybuddiodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething fod y sefyllfa yma bellach yn "ddifrifol iawn".

    Dywedodd bod dros 1,800 o gleifion yn gysylltiedig gyda'r coronafeirws yn yr ysbyty, y nifer uchaf a gofnodwyd erioed.

    Mae achosion yn codi mewn 19 o'r 22 ardal awdurdod lleol, meddai, a bellach mae wyth awdurdod lleol gyda chyfraddau uwch na 400 o achosion fesul 100,000 o bobl.

    Ar nodyn ychydig yn fwy positif, bydd rhai pobl yng Nghymru yn cael eu brechu am y tro cyntaf yfory.

    Am y diweddaraf am hyn a mwy, ewch i hafan Cymru Fyw. Diolch am eich cwmni.

  2. Dros 2,000 o achosion newyddwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Cafodd 2,021 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi mewn 24 awr hyd at 13:00 ar 6 Rhagfyr.

    Dyma'r ffigwr dyddiol uchaf ers dechrau'r pandemig - a'r tro cyntaf i'r ffigwr fod dros 2,000.

    Roedd dwy farwolaeth yn yr un cyfnod hefyd, meddai'r corff.

    Mae'n golygu bellach bod 91,013 o achosion positif wedi'u cofnodi yng Nghymru, a 2,711 o farwolaethau.

    Ond mae gwir ffigwr y marwolaethau ymhell dros 3,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  3. Myfyrwyr prifysgol i ddychwelyd yn raddol o 11 Ionawrwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i ddychwelyd i gampysau prifysgol yng Nghymru dros gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau o 11 Ionawr, gyda dychweliad graddol i ddysgu wyneb yn wyneb.

    Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i fyfyrwyr mewn proffesiynau gofal iechyd, ar leoliadau, neu sydd angen mynediad at gyfleusterau campws.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Rwy’n gwybod y bydd myfyrwyr yn awyddus i ddychwelyd i’w campws prifysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig, ond byddan nhw eisiau gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

    "Bydd myfyrwyr hefyd eisiau dychwelyd i ddysgu yn bersonol, lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

    "Rydyn ni'n rhoi'r mesurau hyn ar waith i sicrhau hyder wrth ddychwelyd i ddysgu yn bersonol a lleihau'r risg y bydd angen i nifer fawr o fyfyrwyr hunan-ynysu yn ystod y tymor."

    talybontFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Disgyblion yn 'dysgu adref ar offer chwarae gemau'wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Mae rhai plant yn dysgu gartref ar gonsolau gemau a ffonau symudol, er gwaethaf addewid gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw blentyn yn cael ei "adael ar ôl" yn ystod y pandemig.

    Fe ddarparodd y llywodraeth £3m ar gyfer gliniaduron a dyfeisiau wi-fi 4G ym mis Ebrill, ond mae rhai disgyblion yn dal i fod heb yr offer angenrheidiol.

    Mae Plaid Cymru'n galw am sefydlu cofrestr genedlaethol o blant sy'n cael trafferth mynd ar y we o adref.

    Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflenwi miloedd o declynnau.

    wfhFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Gall Brexit arwain at broblemau cyflenwad brechlyn'wedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Gall ansicrwydd am Brexit arwain at broblemau i gyflenwad y brechlyn coronafeirws, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething yn ystod y gynhadledd i'r wasg bod gwaith wedi cael ei wneud i sicrhau "paratoadau eraill".

    Ond ychwanegodd "does dim ffordd o gael i ffwrdd o'r ffaith gall aflonyddwch yn ein porthladdoedd effeithio ar gyflenwadau".

    Dywedodd Mr Gething bod cwmnïau fferyllol wedi "cymryd materion mewn i'w dwylo'u hunain", a'u bod wedi cynllunio i ddefnyddio porthladdoedd gwahanol i gael mynediad er mwyn osgoi "gorfod dibynnu" ar borthladdoedd Dover a Folkestone.

    EU chief negotiator Michel BarnierFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Michel Barnier, sydd yn arwain y trafodaethau ar ran yr Undeb Ewropeaidd

    "Y gwir yw gyda'r paratoadau ehangach dydyn ni dal ddim yn gwybod ble rydyn ni'n mynd i fod. Dyw'r ansicrwydd yna wir ddim yn help pan mae'n dod i rai o'r meddyginiaethau ni'n gwybod ni angen cael ac sydd bendant methu cael eu dal mewn porthladdoedd oherwydd bydden nhw'n colli eu heffeithlonrwydd.

    "Boed hynny'n feddyginiaethau niwclear neu'r brechlyn Covid," meddai.

    "Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud paratoadau i hedfan nhw mewn i wahanol rannau o'r DU. Mae hynny'n amlwg yn dod hefo costau ychwanegol ond byddai'n syml yn hollol annerbyniol i'r brechlyn Covid gael ei ddal ym mhorthladdoedd ac wedyn ei fod yn aneffeithiol a bod ni'n methu ei ddefnyddio."

  6. 'Dim map ffordd clir' gan y llywodraethwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Plaid Cymru

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod Llywodraeth Cymru wedi "stryglo" i gyfathrebu â'r cyhoedd.

    "Nid wyf yn siŵr eu bod yn mynd â’r cyhoedd gyda nhw, ac nid oes map ffordd clir, os mynnwch chi, sy’n mynd â ni o hyn ymlaen i ble rydyn ni’n mynd i fod yn y gwanwyn," meddai Mr Price wrth BBC Cymru.

    Dywedodd y dylai fod "cyfaddawd" wedi bod gyda rheolau lletygarwch llai caeth.

    "Mae'n gwbl hanfodol eich bod chi'n mynd â'r cyhoedd gyda chi, gam wrth gam, a hefyd rhoi synnwyr iddyn nhw eich bod chi'n gwybod y ffordd ymlaen dros y tri i bedwar mis nesaf a dyna beth sy'n brin dwi'n meddwl ar hyn o bryd."

  7. 'Trychineb os na wnawn ni ddilyn rheolau'wedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

    Mae yna rybudd y gall achosion coronafeirws gyrraedd lefelau trychinebus yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot oni bai bod pobl yn dilyn y rheolau pellter cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig.

    Yn ôl un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, mae yna berygl "os nad yw pobl yn gwneud y peth cywir a chadw ar wahân i eraill gymaint â phosib" i'r feirws "ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'w gliniau".

    Mae arweinwyr a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol y ddau gyngor sir yn ategu rhybudd y cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus, Dr Keith Reid.

    Dywed y bwrdd iechyd bod nifer achosion Covid-19 Castell-nedd Port Talbot - yr uchaf yng Nghymru - yn cynyddu'n gyflym "a dyw Abertawe ddim yn bell y tu ôl".

    Cofnodwyd 800 achos newydd yn y deuddydd diwethaf yn unig yn y rhanbarth, medd Bwrdd Iechyd Bae AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cofnodwyd 800 achos newydd yn y deuddydd diwethaf yn unig yn y rhanbarth, medd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

  8. Cyfyngiadau pellach 'ddim yn amhosib'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Os oes rhaid i ni weithredu'n bellach fe wnawn ni," meddai'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething.

    Roedd Mr Gething yn ymateb i gwestiwn yn ystod y gynhadledd a fyddai gweinidogion yn parhau gyda chytundeb y pedair cenedl dros y Nadolig, ble all dair aelwyd gwrdd o'r 23 Rhagfyr, o ystyried bod nifer yr achosion yn cynyddu yng Nghymru.

    Mae'n dod yn dilyn sylw Mr Gething yn gynharach yn ystod y gynhadledd bod y nifer o achosion yn cynyddu mewn 19 o 22 awdurdod lleol Cymru a bod y sefyllfa'n "ddifrifol iawn".

    Yn siarad â gohebwyr, dywedodd Mr Gething bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfyngiadau mewn lle ar dafarndai a bwytai'n gorfod cau am 18:00 a gwaharddiad ar werthu alcohol yn yr adeg yn arwain at y Nadolig oherwydd ei fod yn gallu gweld bod "Cymru'n mynd yn y cyfeiriad anghywir".

    Ond ychwanegodd, os oes rhaid i Lywodraeth Cymru "gymryd camau gwahanol ar adeg wahanol, fe wnawn ni."

    "Os nad oes gennym ni gyfyngiadau mewn lle sy’n gweithio ac sy'n helpu lleihau cynnydd achosion coronafeirws bydd mwy o bobl yn cael eu heffeithio.

    "Felly wrth gwrs rydyn ni'n darllen y data i gyd ac os oes rhaid i ni weithredu'n wahanol ar adeg wahanol fe wnawn.

    "Mae hyn yn neges mewn gwirionedd i bob un ohonom ac i bawb yng Nghymru am beth rydyn ni'n barod i wneud a'r dewisiadau rydyn ni'n gwneud," meddai.

  9. Cau ysgolion yn gynnar yn achosi 'niwed sylweddol'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe ddylai ysgolion aros ar agor fel y cynlluniwyd hyd at wyliau'r Nadolig, yn ôl Vaughan Gething.

    Dywedodd nad oedd tystiolaeth gadarn ar hyn o bryd i ddangos bod "niwed sylweddol" wrth gadw ysgolion ar agor.

    Byddai cau ysgolion yn achosi "niwed gwirioneddol a sylweddol" i iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.

    Dywedodd fod yr ysgol yn "lle diogel" i blant bregus ac y byddai cau i lawr yn effeithio’n anghymesur ar y rhai lleiaf cefnog.

    Mae cyngor Blaenau Gwent wedi penderfynu cau ysgolion wythnos yn gynnar.

  10. 'Dim cludo brechlynnau i gartrefi gofal yfory'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd brechlynnau’n cael eu danfon i gartrefi gofal yfory.

    Bu pryderon ynghylch cludo'r brechlynnau i gartrefi gofal oherwydd y tymereddau isel iawn sydd eu hangen i storio'r ffiolau.

    Dywedodd Mr Gething fod sgyrsiau wedi digwydd gyda Pfizer a'r rheolydd "i ddeall sut y gallwn ni ddarparu'r brechlyn hwn yn ddiogel ac yn gyfreithlon i gartrefi gofal".

    Ond cadarnhaodd "ni fydd hynny yfory".

    Tra bod rhannau eraill o'r DU wedi dweud eu bod yn gobeithio cyflwyno'r brechlyn i gartrefi gofal cyn y Nadolig, dywedodd Mr Gething ei fod am "roi dyddiad ychydig yn fwy pendant na hynny".

    "Ar hyn o bryd nid yw'r sgyrsiau hynny gyda'r rheolydd yn gyflawn," meddai.

    cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Ymestyn grantiau hunan-ynysu £500wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn grantiau hunan-ynysu er mwyn cynnwys rhieni a gofalwyr sydd ar gyflogau isel ac sydd â phlant sy'n gorfod hunan-ynysu.

    Cyn hyn, dim ond pobl oedd wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar ôl profi'n bositif am Covid-19 neu oedd wedi derbyn neges i hunan-ynysu gan y system olrhain oedd yn gallu rhoi cais mewn am y swm o £500.

    "Mae'r taliad hunan-ynysu o £500 ar gael i helpu pobl ar gyflogau isel ac mae'r ychwanegiad i dal salwch statudol ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n gorfod hunan-ynysu," meddai Mr Gething.

    "Byddwn ni'n ymestyn pwy sy'n gymwys am y cynllun grant o £500 o ddydd Llun nesaf i gynnwys rhieni a gofalwyr ar gyflogau isel ac sydd â phlant sydd wedi gorfod hunan-ynysu o ganlyniad i achosion o Covid-19 yn eu hysgol neu wasanaeth gofal plant."

    Ychwanegodd: "Bydd hyn yn sicrhau'r gefnogaeth ariannol i rieni a gofalwyr ar gyflogau isel tra eu bod nhw'n edrych ar ôl eu plant".

  12. Ystyried cyfyngiadau newydd wedi'r Nadoligwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd dewisiadau'r cyhoedd o ddydd i ddydd yn dylanwadu ar faint o bobl sy’n marw o Covid dros gyfnod y Nadolig, awgrymodd Vaughan Gething.

    Gyda nifer yr achosion a marwolaethau o’r feirws yn cynyddu yng Nghymru, dywedodd Mr Gething y byddai penderfyniadau am gysylltiadau cymdeithasol a wneir gan bob unigolyn yn "penderfynu faint ohonom sydd yma yn y Flwyddyn Newydd a thu hwnt".

    Cadarnhaodd fod gweinidogion yn ystyried a fyddai angen unrhyw gyfyngiadau newydd ar ôl llacio'r rheolau dros y Nadolig.

    Gyda thafarndai a chaffis wedi'u gwahardd rhag gweini alcohol a'u gorfodi i gau am 18:00, mae galwadau am lacio rheolau i helpu i arbed swyddi, a chwestiynau ynghylch a oes angen mesurau llymach i atal lledaeniad y feirws.

    "Rydyn ni'n mynd ati i ystyried bob dydd ai’r mesurau sydd gyda ni yw’r rhai iawn ar waith ai peidio," meddai Mr Gething.

    "Rydym wedi ymrwymo i adolygu'r rheoliadau yn ystod yr wythnos a hanner nesaf, ac yna bydd yn rhaid i ni ystyried yr hyn a wnawn... rydym wrthi'n ystyried yr hyn y bydd angen i ni ei wneud, yr hyn y gallai fod angen i ni ei wneud ar ôl cyfnod y Nadolig."

  13. 'Nifer uchaf erioed' o gleifion Covid yn yr ysbytywedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mr Gething fod mwy na 1,800 o gleifion yn gysylltiedig â coronafeirws bellach mewn ysbytai ledled Cymru - y nifer uchaf a gofnodwyd erioed.

    Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle nad oedd yn ymddangos bod cyfraddau heintiau yn gostwng yn ystod wythnos olaf mis Tachwedd, yn ôl arolwg heintiau'r ONS.

    Dywedodd fod "hyn yn adlewyrchu" y mesurau tynnach mewn rhannau eraill o’r DU: "Roedd Lloegr dan glo. Roedd Gogledd Iwerddon rhwng cloeon ac roedd yr Alban yn tynhau eu cyfyngiadau."

    Dywedodd y gweinidog fod y llywodraeth wedi cryfhau cyfyngiadau coronafeirws mewn ymateb i’r "sefyllfa ddifrifol iawn" hon ddydd Gwener mewn ymgais i arafu lledaeniad y feirws ac i amddiffyn iechyd pobl.

    "Ond, yn union fel y cyfnod clo byr [yn yr hydref], ni fyddwn yn gweld yr effaith ar unwaith - bydd yn cymryd cwpl o wythnosau," meddai.

    vg

    Ychwanegodd Mr Gething: "Os na welwn ostyngiad mewn derbyniadau coronafeirws [i ysbytai], bydd angen i ni ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd ac efallai y bydd angen i ni eu cymryd i gefnogi'r GIG wrth inni symud i'r Flwyddyn Newydd."

  14. Y sefyllfa'n 'ddifrifol iawn'wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed gweinidog iechyd Cymru fod y sefyllfa yma yn "ddifrifol iawn".

    Yn ei sylwadau agoriadol yn y gynhadledd, dywedodd Vaughan Gething bod "ein gwasanaeth iechyd dan bwysau sylweddol a pharhaus oherwydd nifer y bobl y mae angen eu derbyn i'r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer coronafeirws".

    Mae achosion yn codi mewn 19 o'r 22 ardal awdurdod lleol, meddai.

    Bellach mae wyth awdurdod lleol gyda chyfraddau uwch na 400 o achosion fesul 100,000 o bobl - pedair gwaith cymaint o ardaloedd ag a oedd ddydd Gwener.

    "Yn anffodus, rydym yn gweld dychweliad i'r cyfraddau uchel iawn o fwy na 500 ym Mlaenau Gwent a 600 yng Nghastell-nedd Port Talbot," meddai Mr Gething.

  15. Gwyliwch yn fyw nawrwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Gweithio o adref: Senedd i edrych ar y sefyllfawedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    golwg360

    wfhFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi lansio ymchwiliad er mwyn dysgu am effeithiau gweithio o adref, medd golwg360., dolen allanol

    Dywed yr erthygl bod dros hanner y gweithwyr yng Nghymru wedi gweithio o adref am rywfaint o’r amser rhwng Ebrill a Mehefin eleni oherwydd y pandemig ac mae llawer yn dal i wneud hynny.

    Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd yn clywed gan gyflogwyr, gweithwyr ac arbenigwyr o Gymru a’r Deyrnas Unedig a hefyd yn edrych ar enghreifftiau rhyngwladol lle mae uchelgeisiau tebyg wedi’u gosod.

    “Mae gweithio o bell wedi cael effaith ddramatig ar y ffordd y mae llawer yn gweithio yng Nghymru,” meddai Russell George AS, cadeirydd y pwyllgor.

  17. 'Pryder mawr' am gynnydd achosion Ceredigionwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yng Ngheredigion yn "bryder mawr" yn ôl cynghorydd sir.

    Dros y penwythnos fe rybuddiodd Cyngor Ceredigion bod yna gynnydd o achosion o Covid-19 yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Aeron, gyda dros 35 o achosion positif yn yr ardal dros gyfnod o wythnos.

    Daeth rhybudd hefyd i bobl ardal Aberystwyth i ddilyn canllawiau Covid wedi mwy o achosion, ac mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos bod y gyfradd yn cynyddu bob dydd.

    Fore Llun daeth cadarnhad gan Gyngor Ceredigion bod grwpiau o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd Aberaeron wedi cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu am 14 diwrnod yn dilyn dau achos positif o'r haint.

    Mae ysgolion ardal Aberteifi wedi ailagor ddydd Llun wedi i nifer yr achosion o coronafeirws yn y cyffiniau ostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf.

    cynghorydd tref Aberaeron, Elizabeth Evans.
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed cynghorydd tref Aberaeron, Elizabeth Evans, ei bod hi'n "anodd dweud" pam bod niferoedd yn codi yn y sir

  18. 'Mwyafrif wedi'u brechu erbyn yr haf'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Mae 'na obaith realistig y bydd "canran uchel o'r bobl mwyaf bregus" wedi derbyn brechlyn Covid-19 "rhwng diwedd y gwanwyn a'r haf" y flwyddyn nesaf, yn ôl Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd fore Sul dywedodd Dr Davies fod hi'n "amau a fydd pawb" yn derbyn y brechlyn erbyn y cyfnod hwn ond yn gobeithio y bydd y "mwyafrif wedi'u brechu".

    Ychwanegodd Dr Davies y byddai'n rhaid i rhai sy'n derbyn y brechlyn barhau i ddilyn rheolau a chyfyngiadau coronafeirws fel gwisgo masgiau a chadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

    Pan ofynnwyd i Dr Davies am ba mor hir mae'r brechlyn yn gweithio dywedodd "nad ydan ni'n hollol siŵr eto".

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i'r bobl gyntaf yng Nghymru gael eu brechu ddydd Mawrth

  19. Helo a chroesowedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr 2020

    Diolch am ymuno efo ni heddiw ar gyfer cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, sydd i ddechrau am 12:15.

    Ar ddechrau wythnos lle mae disgwyl i bobl yng Nghymru gael eu brechu am y tro cyntaf, mae 'na hefyd rybuddion ledled y wlad am i bobl ddilyn y rheolau wrth i'r achosion o Covid-19 barhau i gynyddu.

    Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwadu y bydd unrhyw 'gyrffyw' yn digwydd yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter