Crynodeb

  • Cymru i symud i gyfyngiadau Lefel 4

  • Dwy aelwyd - nid tair - ddylai ddod at ei gilydd y Nadolig hwn medd Mark Drakeford

  • Siopau nad ydynt yn gwerthu nwyddau angenrheidiol i gau am 18:00 ar Noswyl y Nadolig

  • Y brechlyn Pfizer/BioNtech yn cael ei roi i breswylwyr cartref gofal

  • Gwirfoddolwyr yn camu i'r adwy yng nghyfnod Covid

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r gynhadledd i'r wasg wedi dod i ben ac felly dyma ddiwedd ein llif byw am heddiw hefyd.

    Fe gewch chi'r datblygiadau diweddaraf a holl straeon y dydd ar ein hafan.

    Diolch am ddilyn y llif byw heddiw a phob hwyl am y tro gan griw'r llif byw.

  2. Ymateb Plaid Cymru i'r cyhoeddiad diweddarafwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Plaid Cymru

    Dywed arweinydd Cymru, Adam Price, fod “potensial ar gyfer dryswch a negeseuon cymysg” o ganlyniad i’r penderfyniad i ganiatáu llacio rheolau dros y Nadolig wrth gryfhau’r cyngor i'r cyhoedd.

    “Newid y canllawiau yw'r peth iawn i'w wneud - dyna'r peth lleiaf yr ydym yn galw amdano yn bendant oherwydd y sefyllfa sy'n gwaethygu yng Nghymru, meddai Mr Price.

    “Tybed a fyddai’n well hefyd newid y rheolau yn unol â’r cyngor fel eich bod yn cael neges glir iawn, iawn ac nad oes dryswch?

    “Mae'n ymwneud â chael neges glir i bobl bod angen i ni ymdrechu ychydig yn galetach er mwyn cadw pawb yn ddiogel.”

  3. Cyhoeddiad yn achosi 'mwy o ddryswch'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Mark Drakeford yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd Andrew R.T. Davies AS fod y Prif Weinidog yn achosi “mwy o ddryswch”.

    Dywedodd Mr Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, nad oedd Mr Drakeford yn gallu rhoi manylion llawn ei gynlluniau gan ei fod yn dal i aros am gyd-ddatganiad gan bob un o bedair llywodraeth y DU.

    Dywedodd fod angen yr holl wybodaeth ar bobl er mwyn iddyn nhw allu gwneud “dyfarniad gwybodus”.

    “Nid dyna unrhyw ffordd i gyflwyno’r newyddion pwysig iawn yma - newyddion a fydd â goblygiadau o ran sut y bydd pobl yn treulio cyfnod y Nadolig pwysig hwn”.

    Ceidwadwyr
  4. Oedi yng nghanlyniadau achosion dyddiol Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod rhywfaint o oedi yn y broses o gyhoeddi ffigyrau dyddiol Covid-19 heddiw.

    Mewn datganiad dywedodd y corff fod gwaith cynnal a chadw i System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymru wedi digwydd.

    “Mae hyn yn effeithio ar ein hadroddiad dyddiol o ffigurau coronafeirws.

    “Mae yna oedi... sydd yn golygu ein bod yn disgwyl i ôl-groniad o ganlyniadau ddod drwodd dros y dyddiau nesaf, a bydd cyfnod o gysoni a dilysu data a fydd yn effeithio ar ein ffigurau adrodd dyddiol am sawl diwrnod."

  5. 'Sefyllfa ddim yn caniatáu mwy o risg'wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Mr Drakeford y dylid defnyddio'r rhyddid ychwanegol sy'n cael ei ganiatáu dros y Nadolig "mewn modd cyfrifol a gofalus."

    Wrth son am ei benderfyniad i gau busnesau nad ydynt yn gwerthu nwyddau angenrheidiol o Noswyl y Nadolig dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r modelu yn dangos pe bai ni mewn sefyllfa lle byddai nifer mawr o bobl yn dod at ei gilydd ar gyfer cyfnod y sêls ar Ŵyl San Steffan, yna byddai hynny'n math arall o gymysgu."

    "A phryd bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd mae risg coronafeirws yn cynyddu.

    "Nid ydym mewn sefyllfa yng Nghymru heddiw, lle gallwn ni ganiatáu i'r risgiau yna ddigwydd.

    "Gymaint yw difrifoldeb ein sefyllfa fel y bydd yn rhaid i ni leihau'r risgiau lle bynnag y gallwn."

    DoligFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Dwy aelwyd ag unigolyn i gael cwrddwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford mai dwy aelwyd yn hytrach na thair dylai fod yn cyfarfod dros y Nadolig.

    Ychwanegodd y byddai modd i unigolyn sydd o aelwyd gyda dim ond un aelod ynddi i ymuno gyda'r swigen dwy aelwyd hefyd.

    "Mae'r sefyllfa yng Nghymru mor ddifrifol fel mai dim ond dwy aelwyd ddylai ddod at ei gilydd dros gyfnod y Nadolig a byddwn yn caniatáu i gartref un person ymuno yn y trefniant hwnnw dros y cyfnod o bum niwrnod".

    Dywedodd y Prif Weinidog y byddai arweiniad pellach ar gael yn ddiwedarach: "Yn ddiweddarach heddiw, byddwn yn cyhoeddi cyngor ar y cyd ledled y DU, gan esbonio bod Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel".

  7. Galw ar bobl i weithio o'u cartefiwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford y dylai pawb sy'n gallu gweithio o'u cartref, wneud hynny nawr.

    Cynghorau sir, meddai, fyddai'n penderfynu pa wasanaethau fel llyfrgelloedd, canolfannau ailgylchu, fydd yn parhau ar agor cyn y Nadolig.

    Dywedodd y byddai'n gweithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol a'r heddlu, i sicrhau fod rheolau coronafeirws yn cael eu gweithredu "er mwyn gwneud yn siŵr fod mesurau mewn grym i gadw chi yn ddiogel."

  8. Dwy aelwyd yn hytrach na thair i gyfarfodwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford mai dim ond dwy aelwyd - nid tair - ddylai ddod at ei gilydd y Nadolig hwn.

    Dywedodd fod “Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel”.

    “Yma yng Nghymru, y sefyllfa yw mai dim ond dwy aelwyd ddylai ddod ynghyd i ffurfio swigen Nadolig unigryw yn ystod y cyfnod o bum niwrnod”.

    “Y lleiaf o bobl rydyn ni'n cymysgu â nhw yn ein cartrefi, y lleiaf o siawns sydd gennym ni o ddal neu ledaenu'r feirws”.

    Cyngor blaenorol y llywodraeth oedd y gallai tair aelwyd gyfarfod dros y Nadolig.

    DathluFfynhonnell y llun, Getty
  9. Beth fydd y cyfyngiadau newydd?wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd siopau nad ydynt yn gwerthu nwyddau angenrheidiol yn gorfod cau ddiwedd y dydd ar Noswyl y Nadolig.

    Bydd hefyd yn rhaid i ganolfannau ffitrwydd a hamdden gau.

    Dywedodd y bydd yn rhaid i lefydd lletygarwch gau o 18:00 ddydd Nadolig.

    Ac ar 28 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau ar gartrefi yn cymysgu, llety gwyliau a theithio yn dod i rym.

    Dywedodd fod yn rhaid cymryd y camau hyn i reoli'r feirws.

    "Nid ydym ar ben ein hunain yn gweithredu. O amgylch y byd, mae lefelau coronafeirws yn codi a chynyddu unwaith eto."

    Llun
  10. Symud i Lefel 4wedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywedodd y prif weinidog fod y sefyllfa yng Nghymru yn parhau yn un ddifrifol ac felly bod yn rhaid symud i dynhau'r rheolau.

    Parhau i gynyddu mae'r nifer o gleifion Covid sy'n mynd i'r ysbytai, meddai Mark Drakeford, gan ddweud fod y niferoedd ar ei uchaf hyd yma.

    Dywedodd fod hyn yn golygu 2,100 o bobl yn cael triniaeth, digon ar gyfer pum ysbyty cyffredinol. Mae 98 o bobl - y lefel uchaf yn ystod yr ail don - yn cael triniaeth mewn unedau dwys.

    Dywedodd wrth y gynhadledd fod y sefyllfa yn un "hynod ddifrifol". Oherwydd hyn meddai, byddai Cymru gyfan yn mynd i reolau Lefel 4 o 28 Rhagfyr, ond gyda rhai cyfyngiadau yn dod i rym cyn hynny.

    Dywedodd Mr Drakeford: “Mae hyn yn golygu y bydd yr holl fanwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos a phob canolfan hamdden a ffitrwydd yn cau ar ddiwedd masnachu ar Noswyl Nadolig.

    “Bydd pob adeilad lletygarwch yn cau o 18:00 ar Ddydd Nadolig”.

    Dywedodd y byddai “cyfyngiadau tynnach ar gyfer cymysgu mewn cartrefi, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn dod i rym ar Ragfyr 28.

    MD
  11. Yn fyw nawr....wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Y gynhadledd yn dechrau'n fuanwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Camau cynnar ar siwrne arbennig'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae brechlynnau coronafeirws ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal yn "gamau cynnar ar siwrne arbennig", yn ôl perchennog cartrefi gofal yn y gogledd.

    Bore Mercher dechreuodd cynllun peilot gyflwyno'r brechlyn Pfizer/BioNtech i breswylwyr mewn cartref gofal yn Yr Wyddgrug.

    Fe fydd pobl sy'n byw mewn un cartref yn derbyn y brechlyn yn ystod y dydd, tra bydd cartrefi gofal mewn ardaloedd byrddau iechyd eraill yn derbyn y brechlyn yn hwyrach yn yr wythnos.

    brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Cau drysau'r Llyfrgell Genedlaetholwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Twitter

    Fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol ar gau i'r cyhoedd am y tro, a hynny o achos y cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yn lleol meddai Pedr ap Llwyd, prif weithredwr y sefydliad.

    Fe fydd y Llyfrgell yn parhau i fod ar gau tan ddechrau Chwefror.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Dirwyo tafarn yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mae tafarn yn Aberaeron wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o £1,000 am dorri rheolau coronafeirws.

    Gwelodd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd fod tafarn y Black Lion yn Aberaeron yn cyflenwi alcohol ac yn aros ar agor y tu hwnt i'r amser sy'n cael ei ganiatáu.

    Fe wnaeth y swyddogion ymweld â'r dafarn ar 9 Rhagfyr.

    Black Lion AberaeronFfynhonnell y llun, Google Maps
  16. Cytundeb ar lacio rhwyfaint o'r rheolau dros yr ŵylwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    BBC Cymru Wales

    Mae'r BBC yn deall fod pedair gwlad y Deyrnas Unedig wedi cytuno i ganiatáu llacio rhywfaint ar reolau Covid o gwmpas y Nadolig, er gwaethaf y galwadau iddynt gael eu tynhau.

    Mae'n debyg bod cytundeb cyffredinol i beidio â newid rheoliadau cyfreithiol y cyfyngiadau, er bod geiriad terfynol y cytundeb yn cael ei drafod gan arweinwyr y gwledydd.

    Mae disgwyl datganiad yn fuan, fydd yn cadarnhau'r manylion yn llawn.

    Un posibilrwydd yw y bydd cyngor llawer cryfach yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o gwmpas y Nadolig yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

    Fe allai rhai rhannau o'r DU gryfhau'r cyngor ar gymysgu ymysg aelwydydd dros yr ŵyl hefyd.

  17. Dyfalu am gyfyngiadau newyddwedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae cryn ddyfalu os bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud cyhoeddiad am gyflwyno cyfyngiadau coronafeirws newydd cyn neu ar ôl y Nadolig yn y gynhadledd i'r wasg heddiw.

    I'ch hatgoffa chi eto - dyma'r gwahanol lefelau sydd yng Nghynllun Rheoli Coronafeirws y llywodraeth, a'r hyn sy'n cael ei ganiatáu ymhob lefel:

    • Lefel 1 (risg isel): Cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy'n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
    • Lefel 2 (risg ganolig): Mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y feirws, gan gynnwys camau gweithredu lleol a roddir ar waith mewn ardaloedd neu safleoedd ble mae clwstwr o achosion.
    • Lefel 3 (risg uchel): Y cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo, fel yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
    • Lefel 4 (risg uchel iawn): Cyfateb i reoliadau'r cyfnod atal byr neu gyfnod clo. Gellid eu defnyddio'r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo hirach.
  18. Bore dawedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich 16 Rhagfyr 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i lif byw Cymru Fyw ar ddydd Mercher 16 Rhagfyr.

    Fe fyddwn yn dod a'r wybodaeth ddiweddaraf i chi o gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg am 12:15, sydd heddiw yn cael ei harwain gan Mark Drakeford.