Crynodeb

  • Mark Drakeford yn arwain cynhadledd y wasg olaf cyn y Nadolig

  • Llywodraeth Cymru'n gofyn am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i drafod effaith cyfyngiadau teithio sydd wedi eu cyflwyno gan nifer o wledydd Ewropeaidd

  • Cymru ar ei thrydydd cyfnod clo cenedlaethol yn dilyn pryderon ynghylch amrywiad "mwy ymosodol" newydd o Covid-19

  • Mae pobl wedi cael gorchymyn i aros gartref a mynd allan am resymau hanfodol yn unig

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Dyna ni am heddiw. Fel glywodd y gynhadledd heddiw ei bod hi'n bosib bod y straen newydd o'r coronafeirws yn gyfrifol am hyd at 60% o'r achosion yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.

    Yng nghynhadledd coronafeirws olaf Llywodraeth Cymru yn 2020, dywedodd Dr Chris Jones bod yr amrywiad o'r feirws wedi dod i'r fei ymhob rhan o Gymru, hyd yn oed ble mae cyfraddau'n gymharol isel.

    Datgelodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod 2,300 o gleifion coronafeirws yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd a bod y nifer hwnnw'n cynyddu.

    I gael mwy am y stori yma, a gweddill straeon y dydd, ewch i hafan Cymru Fyw.

    Diolch am ddilyn a phob hwyl.

  2. 'Nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae nifer y rhai yng Nghymru sydd wedi eu heintio gyda'r straen newydd yn debygol o fod yn uwch na'r hyn sydd wedi ei gofnodi, meddai Mr Drakeford.

    Dywedodd fod y ffigyrau wrth law yn debygol o fod yn is na'r gwir ffigwr.

    "O ran y ffigyrau ar hyn o bryd rydym yn gwybod fod dros 600 achos o'r straen newydd yma yng Nghymru," meddai.

    "Ond fel mae ein cyfeillion yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein hysbysu, mae hynny yn debygol fod yn is na'r ffigwr go iawn."

    Ychwanegodd mai dim ond rhan o'r profion o Gymru sy'n mynd i'r labordai 'goleudy' sy'n gallu canfod y straen newydd.

    Dywedodd ei fod wedi galw am fodelu mwy diweddar, fel bod modd i ddyfalu patrwm y feirws a'i effeithiau posib.

    prawf
  3. Ysgolion: 'Dal i drafod, cynllun dychwelyd yn hyblyg'wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mark Drakeford y byddai trafodaethau'n parhau gydag ysgolion ac undebau dros yr wythnosau nesaf ond bod gan benaethiaid eisoes "ddychweliad hyblyg" i gynllun ysgol ar ôl y Nadolig.

    "Fe wnaethon ni gytuno’r wythnos diwethaf gyda’r awdurdodau addysg lleol i ddychweliad hyblyg ar ôl gwyliau’r Nadolig," meddai.

    "Bydd ysgolion yn gallu addasu i’r amgylchiadau datblygol hyn lle bydd penaethiaid unigol yn gallu ystyried yr amgylchiadau penodol yn eu hysgolion.

    "Byddwn yn parhau i drafod y darlun sy'n datblygu dros yr ychydig wythnosau nesaf gyda'n cydweithwyr addysg ac undebau llafur, ond rwy'n credu bod gennym ni hyblygrwydd cytunedig ar gyfer y pythefnos hynny, rwy'n credu bod gennym ni rywfaint o sail eisoes ar gyfer sut gellir ailgyflwyno ysgolion a gall ein pobl ifanc ailafael yn eu haddysg yn y cyfnod ar ôl y Nadolig."

  4. Cyfyngiadau pellach ar ôl tair wythnos 'yn bosib'wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod "efallai na fydd yn bosib" i fusnesau lletygarwch ailagor pan fydd y rheolau clo yn cael eu hadolygu ymhen tair wythnos.

    Ond ychwanegodd Mark Drakeford y byddai'n hysbysu'r diwydiant.

    Wrth siarad â gohebwyr, dywedodd Mr Drakeford: "Yr hyn na allaf ei ddweud wrthyn nhw, ac na fyddai’n iawn i ddweud wrthyn nhw, yw nad oes unrhyw bosibilrwydd y gallai pethau gael eu diwygio ar ddiwedd tair wythnos.

    "Rwy'n credu y bydd unrhyw un sy'n edrych ar y ffigyrau, unrhyw un sy'n clywed yr hyn sydd wedi digwydd dros y penwythnos yn gwybod bod wythnosau anodd o'n blaenau ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn y gymuned fusnes yn ystyried hynny yn eu cynllunio eu hunain."

    Pan ofynnwyd iddo os y bydd cyfyngiadau pellach yn bosib tu hwnt i dair wythnos, dywedodd fod hynny, "wrth gwrs", yn bosib.

    siopFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Trafod 'iawndal' i weithwyr allweddolwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

    Clywodd y gynhadledd fod trafodaethau yn cael eu cynnal i gynnig "trefniadau iawndal" i'r rhai sy'n gorfod gweithio ar ddydd Nadolig.

    Dywedodd Mark Drakeford fod y trefniadau ond yn caniatáu i ddau deulu gymysgu ar 25 Rhagfyr, ac mae pryder y byddai rhai gweithwyr allweddol yn penderfynu peidio gweithio er mwyn bod gyda'u teuluoedd.

    Mae Leanne Wood, AS Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at Mr Drakeford yn ei annog i ganiatáu i weithwyr allweddol gwrdd â'u teuluoedd ar ddydd San Steffan, yn lle dydd Nadolig.

    Dywedodd Mr Drakeford: "Wrth gwrs bydd yna bobl sy'n gweithio ar ddydd Nadolig er mwyn caniatáu i'r gweddill ohonom fwynhau diwrnod gyda nifer cyfyngedig o'n teuluoedd.

    "Rydym yn trafod gyda'r TUC ac eraill i weld a fyddai'n bosib i gynnig 'trefniadau iawndal' i'r rhai sy'n gweithio ar ddydd Nadolig."

  6. Straen newydd 'wedi achosi 60% o heintiau'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae data o arolwg haint coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod y straen newydd o Covid-19 yn bresennol mewn 28% o samplau o Gymru yn ail wythnos mis Rhagfyr, meddai dirprwy brif swyddog meddygol y wlad.

    Dywedodd yr Athro Chris Jones wrth gynhadledd i'r wasg gan Lywodraeth Cymru fod y ffigwr hwn "fwy na dwbl y nifer yn ystod yr wythnos flaenorol".

    "Mae cydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein cynghori eu bod yn teimlo y gallai'r straen newydd hwn fod yn achosi hyd at 60% o heintiau coronafeirws yng Nghymru," meddai'r Athro Jones.

    "Mae'r amrywiad newydd hwn yn edrych yn debygol iawn o fod yn sbardun sylweddol i'r twf enfawr mewn achosion rydyn ni wedi'u gweld yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf."

  7. Llywodraeth 'wedi gweithredu ar frys'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth Mark Drakeford amlinellu sut y daeth ei lywodraeth i wybod dros y dyddiau diwethaf am y straen newydd.

    "Fe wnes i gymryd rhan mewn cyfarfod brys gyda phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Michael Gove o Lywodraeth y DU, a hefyd prif swyddogion clinigol a gwyddonol.

    "Fe gawsom wybodaeth newydd oedd yn codi pryder am y straen newydd a pha mor gyflym oedd yn ymledu.

    "Yn ystod pnawn dydd Sadwrn, fe wnaeth Cabinet Llywodraeth Cymru gael rhagor o wybodaeth am y straen newydd yng Nghymru, a'r pwysau sylweddol oedd ar y gwasanaeth iechyd.

    "O ganlyniad fe wnaethom weithredu yn syth, gan osod Cymru ar lefel pedwar o ran cyfyngiadau, a newid y trefniadau Nadolig, oherwydd natur fwy difrifol y pandemig yng Nghymru," meddai Mr Drakeford.

    "Mae'n ddrwg gennyf nad oedd modd rhoi mwy o rybudd o'r newidiadau.

    "Fe wnaethom weithredu yn gyflym i arbed niwed ac i achub bywydau yng Nghymru."

    presser
  8. Mwy o gefnogaeth i fusnesauwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog fod pob siop nad yw'n hanfodol ar gau ond gall pob manwerthwr gynnig gwasanaethau "clicio a chasglu".

    Amlinellodd Mark Drakeford gefnogaeth i fusnesau hefyd.

    "Rydym wedi ymestyn y Gronfa Busnes Cyfyngiadau o £110m ychwanegol i £270m ar gyfer cwmnïau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau rhybuddio lefel tri a phedwar.

    "Mae yna hefyd gronfa o £180m ar gyfer busnesau lletygarwch a chadwyn gyflenwi," meddai.

    "Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n anhygoel o galed i gael cefnogaeth ariannol i fusnesau cyn gynted â phosib.

    "Os yw Llywodraeth y DU yn darparu cefnogaeth i fusnesau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, a oedd hefyd yn gorfod cau, byddwn yn trosglwyddo'r holl arian ychwanegol i fusnesau yma yng Nghymru.

    "Yn wahanol i cyfnodau clo blaenorol, bydd pob manwerthwr hefyd yn gallu cynnig gwasanaethau clicio a chasglu ond mae'r holl fanwerthu sydd ddim yn hanfodol bellach ar gau," ychwanegodd.

  9. Straen newydd yn bresennol drwy Gymruwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd dirprwy brif swyddog meddygol Cymru nad yw'n credu fod y straen newydd o Covid yn achosi salwch mwy difrifol nac yn effeithio'r modd bydd y brechlyn newydd yn gweithio.

    Fe fydd y straen newydd, meddai Dr Chris Jones wrth gynhadledd y wasg, yn cael ei fonitro'n fanwl.

    "Dydd Llun diwethaf, roeddwn yn ymwybodol o 10 achos yng Nghymru," meddai.

    "Erbyn dydd Gwener, roedd hwn wedi codi i 20, yn bennaf ym Mhen-y-bont a Bro Morgannwg.

    "Ond roedd ymchwil newydd dros y penwythnos, yn awgrymu fod y straen newydd yn fwy cyffredin, ac yn bresennol drwy Gymru - mae hynny'n cynnwys gogledd Cymru, lle mae graddfeydd o'r feirws yn is nac yn y de."

  10. 'Staff GIG wedi'u hymestyn i'r eithaf'wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y GIG yng Nghymru dan bwysau difrifol.

    "Fis yn ôl, roedd ychydig llai na 1,700 o bobl â symptomau coronafeirws yn ein hysbytai; heddiw mae mwy na 2,300, ac mae'n codi," meddai.

    "Mae ein hunedau gofal brys yn gweithredu ymhell y tu hwnt i’w gallu arferol ac mae staff ein GIG wedi’u hymestyn i’r eithaf.

    "Ac yn anffodus iawn, dros y penwythnos hwn yn unig, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru fwy na 100 o farwolaethau.

    "Dyna 100 teulu yn galaru am golli rhywun annwyl y Nadolig hwn. Mae fy meddyliau gyda nhw i gyd."

    Ychwanegodd: "Oni bai ein bod yn gallu adennill rhywfaint o reolaeth ar ymlediad coronafeirws, mae’n ddrwg gen i ddweud y byddwn yn gweld mwy o farwolaethau.

    "Os byddwn yn parhau i weld achosion yn codi heb eu gwirio, wedi'u hysgogi gan y straen newydd, heintus hwn o'r feirws, bydd yr effaith ar ein GIG yn ddwys."

  11. Ceidwadwr am weld cyfyngiadau rhanbartholwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae AS Ceidwadol o'r Tŷ Cyffredin wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau rhanbarthol.

    Dywed James Davies, AS Dyffryn Clwyd sydd hefyd yn feddyg teulu, fod cyfyngiadau cenedlaethol yn ormodaeth.

    Dywedodd ei fod yn deall y "siom a rhwystredigaeth" fod pobl yn ei deimlo wrth newid y rheolau dros gyfnod y Nadolig.

    Ond ychwanegodd er ei fod yn teimlo bod rhai o'r mesurau llym yn "gwbl angenrheidiol" nid oedd yn credu fod tystiolaeth wedi ei gyflwyno i gyfiawnhau cyfnod clo yn y gogledd.

  12. Gwyliwch yn fyw...wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Nifer bach' o deithwyr yng Nghaergybiwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Dywed llefarydd ar ran cwmni Stena Line fod y cwmni wedi llwyddo i gysylltu â'r rhan fwyaf o deithwyr oedd yn bwriadu teithio i Iwerddon.

    Ychwanegodd mai dim ond nifer bach iawn oedd wedi cyrraedd Caergybi.

    "Mae'r fferis yn dal i hwylio a dyw cludiant nwyddau ddim wedi ei effeithio gan y cyfyngiadau," meddai.

    "Rydym mewn cyswllt agos gyda theithwyr sy'n cael eu heffeithio."

  14. 10 marwolaeth a 2,563 achos newyddwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 10 marwolaeth arall yn gysylltiedig gyda'r haint Covid-19 a 2,563 o achosion newydd.

    Mae hynny'n golygu bod 3,125 o bobl wedi marw gyda'r haint ers dechrau'r pandemig, gyda 125,329 o achosion.

  15. Ffederaswin yn poeni am bwysau ar yr heddluwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi rhybuddio y gallai'r gwaith o geisio sicrhau gorfodaeth o reolau'r cyfnod clo roi swyddogion mewn sefyllfa anodd a pheryglus.

    Daeth y rheolau clo newydd i rym ddydd Sul.

    Dywed y gweinidog iechyd Vaughan Gething, ei fod am weld elfen mwy o orfodaeth er mwyn taclo'r rhai sy'n anwybyddu'r rheolau.

    Ond dywed y Ffederasiwn, sy'n cynrychioli staff yr heddlu, fod swyddogion eisoes "dan bwysau enfawr".

    plismyn
  16. Galw am drafodaethau bryswedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i drafod effaith cyfyngiadau teithio sydd wedi eu cyflwyno gan nifer o wledydd Ewropeaidd.

    Mae Llywodraeth Iwerddon ond yn caniatáu i gerbydau nwyddau deithio rhwng eu porthladdoedd nhw a phorthladdoedd Caergybi ac Abergwaun am ddau ddiwrnod.

    Hefyd mae Ffrainc yn atal traffig sy'n anelu am y cyfandir, sy'n golygu y bydd oedi o ran allforio cynnyrch o Gymru.

    Bydd Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor argyfwng ddydd Llun i drafod y gwaharddiadau teithio a ddaeth wedi i straen newydd mwy heintus o'r coronafeirws ddod i'r amlwg yn y DU.

    Mae Iwerddon, yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Yr Eidal, Ffrainc a Canada wedi atal hediadau i'r DU am y tro.

    DoverFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Ciwiau ger porthladd Dover

  17. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 21 Rhagfyr 2020

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd yn arwain cynhadledd y wasg olaf Llywodraeth Cymru cyn y Nadolig am 12:15.

    Daw hyn ar y diwrnod iddo ofyn am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i drafod effaith cyfyngiadau teithio sydd wedi eu cyflwyno gan nifer o wledydd Ewropeaidd.

    Mae'r cyfyngiadau yn ymateb i straen newydd mwy heintus o'r coronafeirws sydd wedi dod i'r amlwg yn y DU.

    Fe wnaeth trydydd cyfnod clo cenedlaethol ddod i rym yng Nghymru am hanner nos nos Sadwrn.

    Bydd y newyddion diweddaraf am yr haint i'w weld yma.

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images