Crynodeb

  • Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, i arwain y gynhadledd, sy'n dechrau am 12:15

  • Y broses o ddarparu ail frechlyn coronafeirws - un Oxford-AstraZeneca - yn dechrau yng Nghymru

  • Rhai ysgolion yn paratoi i ailagor wrth i Lywodraeth Cymru wynebu beirniadaeth gan undebau athrawon

  • Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddf a fyddai'n caniatáu oedi etholiad y Senedd hyd at chwe mis pe bai angen

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cofnodi 1,898 o achosion newydd o coronafeirws

  • Cafodd 25 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint hefyd eu cofnodi mewn 24 awr hyd at 09:00 fore Sul, 3 Ionawr

  1. Diolch am ymunowedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Dyna ni o'r gynhadledd newyddion gyntaf eleni.

    Mae'n garreg filltir bwysig heddiw, wrth i'r broses o ddarparu ail frechlyn coronafeirws - un Oxford-AstraZeneca - ddechrau yng Nghymru.

    Yn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod hyn yn "newid mawr" yn y frwydr yn erbyn yr haint.

    Ond dywedodd hefyd fod fod Cymru'n parhau i wynebu "sefyllfa ddifrifol iawn" a bod achosion yn "codi’n gyflym" yn y gogledd oherwydd yr amrywiad newydd sy’n "symud yn gyflym".

    Yn y cyfamser, fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd bod 1,898 o achosion newydd o Covid-19.

    Cafodd 25 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint hefyd eu cofnodi mewn 24 awr hyd at 09:00 fore Sul, 3 Ionawr.

    Am fwy o straeon o Gymru, ewch i hafan Cymru Fyw. Diolch am ymuno a hwyl fawr.

  2. 'Angen brechu staff ysgolion nesaf'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Addysg, Sgiliau a'r Iaith Gymraeg, Suzy Davies AS, wedi dweud mai staff ysgolion Cymru ddylai gael eu brechu nesaf.

    Mae hi'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r broses o gyflwyno brechlyn i athrawon.

    Mae Ms Davies wedi ysgrifennu at Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru gan "ei gwneud yn glir iawn" y dylai’r rhai mwyaf agored i niwed ynghyd â staff iechyd a gofal “ddod yn gyntaf” i leihau marwolaethau.

    "Fodd bynnag, er mwyn dysgu plant a gallu athrawon i addysgu, staff yr ysgol ddylai fod nesaf," meddai.

    "Os yw brechu staff yn atal oedolion rhag dod â'r feirws i ysgolion, a bod plant yn parhau i fod â risg isel fel trosglwyddyddion, yna bydd yn llawer haws gwneud y ddadl i gadw ysgolion ar agor yn hyderus, o bosib hyd yn oed gyda llai o gyfyngiadau ar bellhau/masgiau. Gall addysg ddechrau gwella mewn ffordd gynlluniedig."

  3. Plaid: 'Angen digon o rybudd ar ysgolion'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod yn rhaid cael cymaint o "rybudd ymlaen llaw â phosib" ar gyfer unrhyw gynlluniau i newid y cyfnod dychweliad i'r ysgol.

    "Dwi'n teimlo dros fyfyrwyr a dwi'n teimlo dros athrawon a dyma ni ar ddiwrnod cyntaf y tymor gyda diffyg sicrwydd o'r hyn sy'n dod maes o law," meddai.

    Dywedodd AS Ynys Môn y dylai Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar "beth ydy effaith" yr amrywiad newydd ar ysgolion fel y gall ysgolion gynllunio.

    "Ni all fod yn ddiwedd ar addysg - rhaid iddo fod yn symudiad at addysg ar-lein lawn," ychwanegodd.

  4. Dweud y bydd 'normalrwydd' erbyn y Pasg 'ddim yn ddefnyddiol'wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd nad yw gosod "pen llanw artiffisial" i'r pandemig yn "ddefnyddiol" o ran y broses dychwelyd i fywyd 'normal'.

    Dywedodd Vaughan Gething fod ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth y DU “y byddai coronafeirws yn dod i ben o fewn 12 mis” a bod "dychwelyd i normalrwydd erbyn y Nadolig" yn cynhyrchu "llawer o obaith a disgwyliad ffug".

    Fore Llun, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock, ei fod yn disgwyl gweld peth 'normalrwydd' i fywyd erbyn y Pasg eleni.

    Ond dywedodd Mr Gething: "Yr hyn rwy'n credu bod angen i ni i gyd ganolbwyntio arno yw bod y pandemig yn dal gyda ni, mae'n dal i fod yma i raddau helaeth."

    Ychwanegodd ei fod yn credu, er hynny, bod y ddau frechlyn yn rhoi llygedyn o obaith, a bod gobaith am welliant o'r Pasg "wrth i'r tywydd ddechrau newid gan ei fod yn fwy tebygol o fod yn gynnes, mae'n fwy tebygol o fod yn sych".

  5. 'Rhwystredig iawn' gweld lluniau o bobl yn torri rheolauwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Does ddim angen cyfyngiadau teithio" oherwydd bod Cymru o dan ofyniad i "aros gartref", yn ôl Mr Gething.

    Pan ofynnwyd iddo a oedd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyfyngiadau mwy lleol neu gyfyngiadau teithio i reoli'r nifer cynyddol o achosion yng ngogledd Cymru, dywedodd: "Ni ddylai fod angen cyfyngiadau teithio oherwydd bod y sefyllfa bresennol gyda Chymru ar lefel pedwar yn gyffredinol yn dweud wrth bobl aros gartref."

    Dywed ei fod yn "rhwystredig iawn" gyda phobl sy'n torri'r rheolau.

    Dywedodd na ddylai pobl fod yn mynd ar "daith hanner awr i le harddwch" am dro.

    "Ni allaf orbwysleisio fy rhwystredigaeth wrth weld lluniau o bobl sy'n gwybod eu bod yn gwneud y peth anghywir ond maen nhw'n ei wneud beth bynnag," meddai.

    Dywedodd Mr Gething fod cosbau am dorri'r rheolau.

    torri rheolau
    Disgrifiad o’r llun,

    Ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod nifer o bobl wedi teithio gyda'r bwriad o gerdded Yr Wyddfa - gan gynnwys rhai o dde Lloegr

  6. Gwadu bod Cymru ar ei hôl hi o ran brechuwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gweinidog iechyd wedi gwadu bod Cymru "ar ei hôl hi" wrth gyflwyno brechlynnau Covid-19, ac addawodd y byddai'r broses yn "cyflymu'n sylweddol" yn y broses yn yr wythnosau nesaf.

    Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn credu y bydd GIG Cymru wedi brechu pobl o fewn y grwpiau blaenoriaeth "cyntaf", gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal, "tua’r un pryd â phob gwlad arall yn y DU".

    Bydd llythyrau a fydd yn mynd i bob cartref ynglŷn â chyflwyno brechlyn "yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i bobl" ac yn egluro sut y byddan nhw'n cael gwybod, meddai wrth y gynhadledd i’r wasg.

    Yn dilyn pryderon ynglŷn â phryd y bydd yn cael ei gyflwyno, dywedodd Mr Gething ei fod yn gobeithio cyhoeddi mwy o fanylion am niferoedd a "gwell arwydd o sut rydyn ni'n mynd trwy'r holl grwpiau galwedigaethol hynny".

    “Felly rwy’n gwerthfawrogi bod gan bawb gwestiynau," meddai, "ond credaf y bydd pobl ar ddiwedd hyn yn gweld nad ydym wedi bod ar ei hôl hi."

  7. Ysgolion: 'Fe all tystiolaeth newydd newid ein penderfyniad'wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd ysgolion Cymru yn parhau gyda'r dychweliad graddol i ddysgu wyneb yn wyneb dros bythefnos gyntaf y tymor newydd oni bai bod y "dystiolaeth yn newid", yn ôl y gweinidog iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething bod cau ysgolion yn parhau i fod yn "ddewis olaf" ond ychwanegodd "os bydd y dystiolaeth yn newid yna bydd yn rhaid i ni ystyried y dystiolaeth honno ac fe allai hynny arwain at ddewis gwahanol."

    "Rydyn ni'n disgwyl cyngor wedi'i ddiweddaru gan ein harbenigwyr gwyddonol ac iechyd cyhoeddus ein hunain dros yr ychydig ddyddiau nesaf," meddai.

    "Os cawn ni hynny yn hwyrach heddiw fe allai arwain at benderfyniad, os cawn ni hynny yfory fe allai arwain at benderfyniad.

    "Ond rydw i eisiau bod yn wirioneddol glir, mae tystiolaeth yn sail i'r dewisiadau rydyn ni'n eu gwneud bob amser," ychwanegodd.

    Dywedodd fod cau ysgolion cynradd "yn cael effaith wirioneddol ar bobl yn gallu mynd i'r gwaith" ac mae dysgu ar-lein yn "anoddach yn ymarferol" i ddisgyblion iau.

  8. Cynyddu canolfannau brechu torfolwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Bydd nifer y canolfannau brechu torfol yn cynyddu i 22 a bydd mwy na 60 meddygfa yn cynnig brechlyn Oxford-AstraZeneca, meddai Mr Gething.

    Dywedodd y bydd unedau symudol yn cael eu sefydlu ledled Cymru.

    Bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn ysgrifennu at bawb yng Nghymru gyda mwy o wybodaeth am y brechlyn yn y dyddiau nesaf, meddai.

    "Rydym yn hyfforddi ystod o weithwyr gofal iechyd i roi'r brechlyn ac mae gennym gynlluniau i weithio gyda fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion lleol i ddarparu clinigau brechu," meddai.

    "Byddwn yn parhau i ddarparu’r brechlyn Pfizer yn y canolfannau brechu torfol ledled Cymru. Y flaenoriaeth uniongyrchol yw brechu staff iechyd a gofal rheng flaen; preswylwyr cartrefi gofal a staff a phobl dros 80 oed.

    "Bydd pawb yn cael dau ddos."

    brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Trevor Cowlett, 88 oed, yn derbyn brechlyn Oxford-AstraZeneca fore Llun gan nyrs Sam Foster

  9. Croesawu'r brechlyn newyddwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth groesawu'r brechlyn Oxford-AstraZeneca newydd dywedodd y gweinidog iechyd bod hwn yn "newid mawr" yn y frwydr yn erbyn yr haint am fod modd ei storio mewn oergell a'i bod yn llawer haws i'w gludo.

    Dywedodd Vaughan Gething fod Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yn yr ymchwil ar gyfer y brechlyn hwn ac wedi prynu 100 miliwn o ddosau ar gyfer y DU.

    "Bydd ei gymeradwyo yn ein helpu i gyflymu ein rhaglen frechu a rhedeg mwy o glinigau yn agosach at gartrefi pobl," meddai.

    Dywedodd Mr Gething y byddai'r brechlyn yn cael ei gymryd i mewn i "bob cartref gofal i gwblhau'r broses o amddiffyn preswylwyr a staff cartrefi gofal".

    Mae Cymru wedi derbyn y cyflenwad cyntaf o 22,000 dos o frechlyn Rhydychen, gyda mwy yn dod, ac fe ddechreuodd y gwaith o roi'r brechlynnau cyntaf o'r math yma heddiw.

  10. 2,700 gyda symptomau Covid yn yr ysbytywedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mr Gething erbyn hyn bod bron i 2,700 o bobl â symptomau coronafeirws yn derbyn gofal yn ysbytai Cymru.

    Dywedodd fod 208 o gleifion yn derbyn gofal dwys - mae gan fwy na hanner y rheiny coronafeirws, meddai.

    "Mae hyn yn agos iawn at yr uchafbwynt a gawsom yn ystod y don gyntaf yn y gwanwyn y llynedd."

    Dywedodd "yn drist iawn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n marw ar ôl cael coronafeirws dros gyfnod y Nadolig".

    "I'r holl deuluoedd hynny sy'n galaru am golli rhywun annwyl, gwyddoch fod ein meddyliau gyda chi," meddai.

    VG
  11. Cyfraddau'n gostwng, ond llai o brofiwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Vaughan Gething ei bod yn rhy gynnar i wybod beth sydd y tu ôl i’r cwymp mewn achosion.

    "Mae'n rhy gynnar i wybod a yw'r cwymp hyn oherwydd cyfnod y Nadolig a bod llai o bobl yn dod ymlaen i'w profi, neu os ydyn nhw'n arwyddion cadarnhaol, cynnar, bod y feirws ofnadwy hwn yn arafu'n barhaus," meddai.

    Ond ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn "ofalus" am fod y gyfradd positifrwydd profi yn parhau i fod yn uchel iawn ar 25% ledled Cymru, er bod nifer y bobl sy’n cael eu profi wedi gostwng.

  12. Achosion yn 'codi'n gyflym' yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod Cymru'n parhau i wynebu "sefyllfa ddifrifol iawn".

    "Mae'r amrywiad newydd, heintus iawn o coronafeirws, a nodwyd ychydig cyn y Nadolig, yn lledaenu’n gyflym ledled Cymru," meddai yn y gynhadledd.

    "Mae achosion o'r feirws yn parhau i fod yn uchel iawn er bod cyfraddau wedi gostwng o'r lefelau anhygoel o uchel o ychydig cyn y Nadolig."

    Dywedodd Mr Gething y bu cwympiadau yn y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r gogledd, lle "rydym yn gweld achosion yn codi’n gyflym".

    "Mae hyn oherwydd yr amrywiad newydd sy’n symud yn gyflym."

    Dywedodd y gweinidog fod cyfradd achosion Cymru wedi gostwng o 636 achos fesul 100,000 o bobl ar 17 Rhagfyr i 446 o achosion heddiw.

    "Mae hyn yn dal i fod yn llawer rhy uchel," ychwanegodd Mr Gething.

  13. Gwyliwch yn fyw...wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gynhadledd hefyd yn fyw ar S4C ac ar BBC One Wales.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Oedi etholiad y Senedd eleni?wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddf a fyddai'n caniatáu oedi i etholiad y Senedd hyd at chwe mis.

    Mae'n "gyfrifol i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd", yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, a ddywedodd ei fod yn parhau i fod "wedi ei ymrwymo" i'r etholiad ar 6 Mai 2021.

    Daw hyn ar ôl i Mr Drakeford ddweud ym mis Tachwedd y byddai gweinidogion yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd "os yw'r sefyllfa ar ôl y Nadolig yn awgrymu y bydd angen i ni wneud hyn".

    Dywedodd y Ceidwadwyr fod ganddyn nhw "bob hyder... y gallai etholiad diogel" gael ei chynnal ym mis Mai.

    Ond dywedodd Plaid Cymru y byddai'n cefnogi'r gyfraith arfaethedig oherwydd "mae'n rhesymol y dylem fod â'r gallu i ymateb i bob sefyllfa all godi".

  15. 1,898 o achosion Covid newyddwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 1,898 o achosion newydd o coronafeirws.

    Cafodd 25 o farwolaethau hefyd eu cofnodi mewn 24 awr hyd at 09:00 fore Sul, 3 Ionawr.

    Mae'n golygu fod nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â'r haint yng Nghymru wedi codi i 3,645.

    Mae yna hefyd 157,209 o achosion positif wedi'u cofnodi ers dechrau'r pandemig.

  16. Drakeford: 'Arhoswch eich tro'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i'n prif stori ni y bore 'ma, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wrth bobl am fod yn amyneddgar wrth ddisgwyl am eu brechlyn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Mae dros 35,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn cyntaf a gymeradwywyd i'w ddefnyddio ledled y DU - sef brechlyn Pfizer-BioNTech.

    Mae'r rhain yn cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, preswylwyr a staff cartrefi gofal, a phobl dros 80 oed.

  17. Paratoi ailagor ysgolion er bod undebau'n anfodlonwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru eisoes wedi galw am ohirio dysgu wyneb yn wyneb tan o leiaf 18 Ionawr

    Mae rhai ysgolion yng Nghymru yn paratoi i groesawu disgyblion yn ôl i ystafelloedd dosbarth yr wythnos hon wrth i Lywodraeth Cymru wynebu beirniadaeth gan undebau athrawon.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi amddiffyn dull hyblyg sy'n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu pryd i ganiatáu plant yn ôl i'r ysgol.

    Fe ddaeth hyn ar ôl i undebau fygwth achos cyfreithiol dros bryderon ynghylch y straen newydd mwy heintus o coronafeirws.

    Mae disgwyl i rai ysgolion uwchradd agor ddydd Mercher, meddai awdurdodau lleol.

  18. Blwyddyn Newydd Dda a chroesowedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich 4 Ionawr 2021

    Diolch am ymuno efo ni heddiw ar gyfer cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru - y gyntaf o'r flwyddyn, ond yn sicr nid yr olaf.

    Er hynny, mae yna reswm i fod yn fwy gobeithiol heddiw wrth i'r broses o ddarparu'r ail frechlyn coronafeirws ddechrau yng Nghymru.

    Cafodd y cam o gynnig brechlyn newydd Oxford-AstraZeneca ei ddisgrifio gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fel "carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig Covid-19".

    Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai o leiaf 40,000 dos ar gael o fewn y pythefnos cyntaf.

    Bydd angen dau ddos, gyda bwlch o rhwng pedair a 12 wythnos rhwng y ddau.

    I ddarllen ein prif stori'n llawn, cliciwch yma.

    Brian PinkerFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Brian Pinker, 82, oedd y person cyntaf i dderbyn brechlyn Covid-19 Oxford-AstraZeneca yn Rhydychen fore Llun