Crynodeb

  • Y Gynhadledd Covid heddiw dan ofal y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething

  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi targedau brechu Covid-19 - yn bwriadu brechu 700,000 o bobl erbyn canol Chwefror

  • Mae Cymru wedi dosbarthu 86,000 allan o 275,000 dos o frechiadau hyd yma

  • Cynllun i frechu pobl dros 50 oed yng Nghymru erbyn y gwanwyn, a bwriad i gynnig brechlyn i bawb sy'n gymwys erbyn yr hydref

  1. Y llif byw wedi dod i benwedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r gynhadledd coronafeirws wedi dirwyn i ben ac felly dyma ddiwedd ein llif byw am y dydd hefyd.

    Bellach rydym yn gwybod mwy am gynllun brechu'r llywodraeth, a'r gobaith o frechu 2.5 o oedolion Cymru erbyn yr hydref.

    Fe gewch yr holl newyddion diweddaraf drwy gydol y dydd ar ein hafan, ond am y tro, gan griw'r llif byw - hwyl fawr i chi.

  2. Galw am sefydlu tasglu i 'sicrhau cysondeb'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae angen mwy o adnoddau a gwell cynllunio ar frys i sicrhau bod brechiadau'n cael eu cyflwyno'n gyflymach ac yn decach medd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

    Galwodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu i sicrhau gwell cysondeb a chyflwyno’r brechlyn yn fwy effeithiol:

    “Mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu tasglu ar frys i yrru'r broses o gyflwyno'r brechiad yn raddol, yn hytrach na'i adael i fyrddau iechyd unigol yn unig.

    “Mae angen dod â gallu ychwanegol i mewn i sicrhau ei fod yn cael blaenoriaeth briodol a bod cysondeb ledled Cymru i sicrhau mynediad teg.

    “Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi ei hamserlen ar gyfer brechu mwyafrif y boblogaeth a rhyddhau targedau a data clir ar faint o frechlynnau y mae pob bwrdd iechyd yn eu rhoi i bob grŵp blaenoriaeth - fel y gallwn fesur hyn yn erbyn y targedau," meddai.

  3. Strategaeth yn 'hwyr, ond i'w groesawu'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Plaid Cymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu strategaeth frechu Llywodraeth Cymru ond dywed ei bod yn "hwyr yn y dydd".

    Dywedodd Mr Price: "Mae’n gam positif - rydyn ni wedi bod yn galw am gynllun brechu ers amser hir iawn. Mae'n hwyr yn y dydd ond mae'n gynnydd."

    Ychwanegodd Mr Price fod llawer o bobl, gan gynnwys ei rieni ei hun, eisiau eglurder: "Dywedwyd wrth fy rhieni, sydd yn eu 80au, na fydd gan eu meddygfa'r gallu i'w brechu am dair wythnos arall ond eto mae'r feddygfa drws nesaf yn dechrau wythnos yma."

  4. Ceidwadwyr yn galw am Weinidog Brechiadauwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies y dylai Llywodraeth Cymru gael Gweinidog Brechiadau sy’n "codi yn y bore yn meddwl am frechiadau ac yn mynd i'r gwely yn meddwl am frechiadau".

    Dywedodd y byddai cam o'r fath yn helpu'r llywodraeth i wella ar ôl "dechreuad herciog" i'r rhaglen brechlynnau.

    Mae angen "ffocws a chyfeiriad ar y llywodraeth i yrru hyn ymlaen", meddai Mr Davies.

    RTD
  5. Pryderon am ddiffyg brechlyn yn 'ddealladwy'wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gweinidog iechyd wedi cydnabod "ei fod yn hollol ddealladwy bod pobl yn poeni" am pryd y byddant yn derbyn eu brechlyn coronafeirws.

    Ond fe wnaeth Vaughan Gething bwysleisio y bydd cyflymder cyflenwi'r brechlyn yn cynyddu dros yr wythnosau nesaf:

    "Rwy'n credu bod nifer o bobl yn bryderus oherwydd mae hwn yn gyfnod pryderus. Ac mae'n gwbl ddealladwy ar lefel ddynol pam mae pobl yn pryderu", meddai.

    Cyfaddefodd Mr Gething fod cenhedloedd eraill y DU wedi dechrau'n well wrth gyflwyno'r brechlyn.

    Ond dywedodd hefyd ei fod yn credu bod Cymru wedi cael "dechrau da" ac "mae tystiolaeth yn adlewyrchu'r ffigurau hynny".

    Pan ofynnwyd iddo am y pryderon am ddiffyg brechiadau ymysg rhai meddygfeydd, dywedodd Mr Gething ei fod yn deall pam fod rhai ohonynt "yn rhwystredig".

    Ychwanegodd: "Rydyn ni'n derbyn brechlyn AstraZeneca mewn cyflenwadau y mae'n rhaid i ni ei gadw i fynd.

    "Mae'r cyflenwad maen nhw'n ei roi i ni yn cael ei gyflenwi am yr wythnos... felly mae'n gyflenwad o wythnos i wythnos, ac wrth i ni gael mwy o gyflenwadau byddwn yn darparu mwy o gyflenwadau i feddygfeydd teulu ac i eraill".

  6. Gething ddim am ymweld ag ysbyty i 'dynnu sylw'wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ddweud fod y pwysau ar y GIG yng Nghymru yn "ddifrifol", dywedodd Vaughan Gething na fyddai ymweliad ganddo i ysbyty yn fuddiol ar hyn o bryd.

    Pan ofynnwyd iddo yn y gynhadledd pryd oedd y tro diwethaf iddo, fel gweinidog iechyd, ymweld ag ysbyty, dywedodd Mr Gething ei fod hi'n fisoedd ond nad oedd am "dynnu sylw" a chymryd y cyfle i "dynnu ei lun".

    Dywedodd fod mwy o gleifion mewn gwelyau gofal critigol yn yr ysbyty heddiw nag oedd yn ystod wythnos gyntaf y pandemig y gwanwyn diwethaf.

    Dywedodd ei bod yn bwysig bod pobl "yn gwneud eu rhan" i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws ac yn aros gartref.

    Dywedodd y gweinidog ei fod yn gweithio o'i gartref lle bo modd ac o'r herwydd nid oedd wedi bod i ymweld ag ysbyty yn rhinwedd ei swydd.

    "Nid wyf yn bwriadu mynd i ysbyty'r GIG mewn cyfnod clo Lefel 4," meddai.

  7. Cynnig brechlyn mewn fferyllfa gymunedolwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething y bydd brechlyn Oxford-AstraZeneca yn cael ei gynnig gan fferyllfa gymunedol yng ngogledd orllewin Cymru mewn arbrawf am dridiau yn dechrau ddiwedd yr wythnos hon.

    Dywedodd Mr Gething fod modd cadw brechlyn Oxford-AstraZeneca mewn oergell a'i fod yn haws ei gludo na brechlyn Pfizer.

    Dywedodd ei fod yn cael ei ddefnyddio i frechu'r rhai dros 80 oed a'i fod yn cael ei gludo i gartrefi gofal, i frechu preswylwyr a staff.

    "Bydd mwy na 100 o feddygfeydd teulu yn cynnal clinigau erbyn diwedd yr wythnos ac mae gennym 14 o unedau symudol sy'n cludo'r brechlyn i gartrefi gofal.

    "Bydd hyn yn cynyddu i 250 o feddygfeydd teulu erbyn diwedd y mis... mae'r fyddin yn cefnogi cyflwyno'r rhaglen frechu yng Nghymru, gyda 14 o imiwneiddwyr yn gweithio mewn canolfannau a 70 o bersonél eraill yn gweithio hefyd".

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. 'Cyflenwadau da' o Pfizerwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod gan y llywodraeth "gyflenwadau da" o'r brechlyn Pfizer.

    Dywedodd fod hyn oherwydd bod y llywodraeth wedi bod yn "dal stoc ar gyfer yr ail ddosau, yn unol â rheolau gwreiddiol yr MHRA [rheoleiddiwr annibynnol]".

    Mae'r rheolau hyn wedi newid yn y flwyddyn newydd, meddai, gyda'r ail ddos ​​bellach yn cael ei roi hyd at 12 wythnos ar ôl y cyntaf.

    Dywed Mr Gething fod y newid hwn yn "caniatáu inni gyflymu'r broses gyflwyno".

    Dywedodd fod gan y llywodraeth fwy na 250,000 dos o'r brechlyn Pfizer, yr oedd yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio erbyn canol mis Chwefror, gyda mwy yn dod ddiwedd y mis.

    brechlynnau gwahanol
  9. Manylu ar y strategaethwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething fod y llywodraeth yn “gosod rhai nodau cynnar i lawr” ar y strategaeth frechu.

    “Erbyn 18 Ionawr, bydd holl staff rheng flaen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael cynnig brechiad," meddai.

    "Bydd pawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal wedi cael cynnig brechiad erbyn diwedd y mis hwn.

    "A bydd nifer y meddygfeydd sy’n darparu brechlynnau yn agosach at gartrefi pobl wedi codi i 250 erbyn diwedd mis Ionawr wrth i gyflenwadau’r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca gynyddu”.

    Ychwanegodd fod y “cerrig milltir” yn dibynnu ar Gymru'n derbyn cyflenwadau rheolaidd o'r brechlyn.

    PigiadFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Nod i frechu 700,000 erbyn canol Chwefrorwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Vaughan Gething mai’r nod yw brechu tua 700,000 o bobl yng Nghymru erbyn canol y mis nesaf wrth iddo amlinellu "tair carreg filltir allweddol" yn ei strategaeth.

    "Erbyn canol mis Chwefror, rydym yn anelu at fod wedi cynnig brechiad i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, pawb dros 70 oed a phawb sy’n hynod fregus yn glinigol," meddai.

    "Mae hyn tua 700,000 o bobl. Os gallwn frechu'r grŵp yma, byddai'n amddiffyn y bobl sydd fwyaf mewn perygl o salwch a niwed difrifol pe baen nhw'n dal coronafeirws.

    "Erbyn y gwanwyn, yn amodol ar gyflenwad, byddwn wedi cynnig brechiad i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf - hynny yw, pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd blaenorol."

    Ychwanegodd Mr Gething: "Erbyn yr hydref, byddwn yn canolbwyntio ar gynnig brechlynnau Covid i bawb arall, yn unol â'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio."

    VG
  11. Dros 86,000 wedi eu brechu hyd ymawedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod mwy nag 86,000 o bobl wedi cael eu brechu yng Nghymru a’i fod yn gobeithio y bydd pob “oedolyn cymwys” yn cael ei frechu erbyn yr Hydref.

    Wrth siarad ar ddechrau cynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Gething: “Mae hon yn dasg enfawr - gallem fod yn cynnig brechlynnau i hyd at 2.5m o oedolion yng Nghymru, yn dibynnu ar y cyngor a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio”.

    Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth frechu heddiw ac y byddai’n nodi sut y bydd pobl yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn dros y misoedd nesaf.

    “Ein huchelgais yw brechu pob oedolyn cymwys erbyn dechrau'r hydref”.

    Ychwanegodd: “Mae’r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos ein bod wedi gwneud dechrau da - erbyn 10pm neithiwr, roedd mwy nag 86,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf”.

    Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn cyhoeddi ffigurau brechu bob dydd o'r wythnos o hyn ymlaen.

  12. Y gynhadledd ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae modd dilyn yr hyn sydd gan Vaughan Gething i'w ddweud am gynllun brechu'r llywodraeth yn y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Holl oedolion i gael cynnig brechlyn erbyn y hydrefwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd holl oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn erbyn y hydref.

    Dywed y llywodraet fod tair carreg filltir i'w cynllun brechu, sydd yn cynnwys brechu:

    • Erbyn canol mis Chwefror – holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; bydd pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig brechlyn

    • Erbyn y gwanwyn – bydd brechlyn wedi'i gynnig i'r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Mae hyn yn bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.

    • Erbyn y hydref – bydd brechlyn wedi'i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

    Yn dibynnu ar cyngor pellach gan JCVI gall tua 2.5m o bobl ledled Cymru cael cynnig brechlynnau Covid erbyn mis Medi.

    Mae'r cynllun yn dibynnu ar gyflenwadau digonol a rheolaidd o'r brechlynnau yn cael eu dosbarthu medd y llywodraeth.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Brechlynnau Covid sy’n cynnig y gobaith gorau i ni i ddychwelyd i'r normalrwydd rydym yn edrych ymlaen ato ar ôl blwyddyn mor anodd, sydd wedi troi ein bywydau ni i gyd wyneb i waered.

    “Mae darparu'r rhaglen frechu hon i 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru yn dasg enfawr ond mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wneud hyn yn llwyddiant.

    “Rydym yn gwneud cynnydd da gyda miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu brechu bob dydd.“Yn ystod yr wythnos sydd i ddod byddwn yn gweld y rhaglen yn cyflymu ymhellach gyda mwy o glinigau'n agor a'r brechlynnau cyntaf yn cael eu rhoi gan fferyllwyr.”

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Effaith 'dychrynllyd' Covid-19 ar ysbytywedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    BBC Radio Wales

    Mae effaith cynnydd sydyn yn y cleifion sy’n cael eu derbyn i ofal critigol gyda coronafeirws yn ‘ddychrynllyd’, yn ôl cyfarwyddwr meddygol yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

    Mae Wrecsam wedi gweld niferoedd positif uchel o Covid-19 yn ddiweddar, gyda chyfradd yr haint yn 838 fesul 100,000 o'r boblogaeth am y saith diwrnod hyd at at Ddydd Calan.

    Wrth siarad ar raglen Claire Summers ar BBC Radio Wales heddiw, dywedodd Dr Steve Stanaway fod y sefyllfa yn Ysbyty Wrecsam Maelor bellach yn "eithaf hectig".

    "Mae'r ysbyty'n canolbwyntio i raddau helaeth ar y funud ar waith cleifion mewnol, gyda'r mwyafrif helaeth o hynny'n waith meddygol, ac mae darn mawr o hynny yn amlwg yn canolbwyntio ar Covid, felly bu llawer o aildrefnu ac adleoli staff, sydd yn creu llawer o faterion ychwanegol...

    "Os gallwch chi ddychmygu'r ysbyty'n gweithio dan gryn dipyn o bwysau ar y funud - mae pobl wedi blino, mae pobl yn gorfod dod i arfer ag amgylcheddau gwaith newydd, ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud yr ysbyty yn lle anghyffredin i weithio ynddo, o'i gymharu â'r hyn ydyn ni wedi arfer."

    Dywedodd Dr Stanaway fod y cynnydd yn y galw ar staff i ddelio ag achosion Covid wedi arwain at effeithiau ar feysydd gofal eraill.

    "Yn anffodus, roedd yn rhaid i ni roi'r gorau i lawdriniaeth ddewisol, sydd wedi bod yn siom fawr i bawb yn y bwrdd iechyd, nid yn yr ysbyty yn unig, ac mae hynny wedi creu llawer o straen a phryder, yn anad dim i'r bobl sydd yn gobeithio cael eu triniaethau yr wythnos hon.

    "Bu’n rhaid i ni ad-drefnu’r ysbyty, a throi llawer ohono drosodd i ofal Covid - yn y bôn mae rhan fawr o’r coridor uchaf wedi’i ddynodi ar gyfer hynny... ac mae gennym hefyd straen a phwysau penodol ar ein huned gofal critigol, a’n huned gofal uchel, sydd ill dau wedi gorfod delio â niferoedd sy’n cynyddu’n gyflym yn dod drwy’r drysau."

    Siaradodd Dr Stanaway hefyd am niferoedd yr achosion yn y rhanbarth:

    "Mae'r niferoedd a'r cyfraddau achos yn Wrecsam a Sir y Fflint yn frawychus, ac i roi hynny yn ei gyd-destun, mae cyfradd achosion cyfartalog Cymru ar hyn o bryd fesul 100,000 o bobl yn oddeutu 450 - ac yma yn Wrecsam, rydyn ni tua dwbl hynny, ac mae'n ein rhoi ni mewn gwirionedd ychydig y tu ôl i lefydd fel Llundain ar sail y DU - ac mae hynny'n golygu llawer iawn o afiechyd yn y gymuned."

    Wrecsam
  15. Y gynhadledd i'r wasg yn dechrau'n fuanwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Bwrdd iechyd i agor canolfannau brechu ledled Gwentwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi y bydd yn bwriadu agor nifer o ganolfannau brechu torfol ledled Gwent, wrth i'r cyflenwad brechlyn ddod ar gael.

    Dywed y bwrdd iechyd y bydd unedau symudol yn cael eu defnyddio hefyd, i helpu i ddanfon y brechlyn i gartrefi gofal a thrwy rai meddygfeydd ledled Gwent.

    Ar hyn o bryd nid oes gan y bwrdd iechyd gynlluniau i gomisiynu fferyllfeydd i gyflwyno'r brechiad Covid ar draws Gwent, ond mewn datganiad, dywedodd swyddogion mai'r bwriad oedd "edrych ar gynyddu ein sianeli dosbarthu wrth i'n cyflenwad o'r brechlyn gynyddu dros y misoedd nesaf."

  17. Aros am fanylion cynllun brechuwedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gyhoeddi manylion Cynllun Brechu Covid Llywodraeth Cymru yn y gynhadledd i'r wasg am 12:15.

    O heddiw ymlaen hefyd bydd ffigyrau dyddiol yn cael eu cyhoeddi yn dangos faint o bobl yng Nghymru sydd wedi derbyn brechiad.

    Hyd yma, mae Cymru wedi derbyn 275,000 dos o'r ddau frechlyn coronafeirws er mwyn mynd i'r afael â'r pandemig.

    Ond ychydig dros 70,000 oedd wedi cael eu brechu hyd at ddydd Iau diwethaf.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn mwy na 250,000 dos o'r brechlyn Pfizer-BioNTech a 25,000 dos o'r un gan Oxford-AstraZeneca.

    Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r amser y mae'n ei gymryd i frechu pobl yng Nghymru.

    Ond mae Mr Gething wedi addo y bydd llawer mwy o bobl yn cael eu brechu yn yr wythnosau nesaf.

    Brechu
    Disgrifiad o’r llun,

    Menyw yn derbyn ei brechiad Covid ym Merthyr Tudful

  18. 17 yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iecyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 17 marwolaeth a 1,793 achos newydd o Covid-19.

    Mae hyn yn golygu fod cyfanswm y marwolaethau yma yng Nghymru ers dechrau'r pandemig wedi cyrraedd 3,981, a chyfanswm yr achosion positif hyd yma ydy 171,547.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dechrau cyhoeddi ystadegau am nifer y brechiadau sydd wedi ei rhoi i unigolion yng Nghymru - ac mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 86,039 o frechiadau dos cyntaf wedi eu darparu erbyn neithiwr.

    Mae'r achosion newydd yn cynnwys 207 yng Nghaerdydd, 153 yn Wrecsam, 146 yn Rhondda Cynon Taf, 115 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 107 yn Sir y Fflint.

    graff
  19. Bore dawedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw, fydd heddiw'n dod â'r diweddaraf i chi o gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg am 12:15.

    Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething sydd yn arwain y gynhadledd ar ran y llywodraeth mewn cwta hanner awr, ac mae disgwyl iddo amlinellu manylion cynllun brechu Covid-19 ar gyfer Cymru.

    Arhoswch gyda ni am yr holl fanylion a'r ymateb diweddaraf i'r hyn fydd yn cael ei drafod yn ystod y gynhadledd.

    PigiadFfynhonnell y llun, Getty