Crynodeb

  • Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, oedd yn arwain y gynhadledd

  • Nifer yr achosion positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig wedi mynd heibio i 200,000

  • 807,351 o bobl bellach wedi cael un dos o'r brechlyn Covid - bron i un ymhob tri oedolyn

  • 12,988 wedi cael dau ddos - cynnydd o bron i 80% yn y 24 awr ddiwethaf, medd Llywodraeth Cymru

  • Cyfradd yr achosion positif dros saith diwrnod wedi gostwng eto i 86 fesul 100,000 o'r boblogaeth

  • Gwyddonwyr wedi dod o hyd i amrywiolyn newydd arall o'r coronafeirws yn y DU, sy'n newid mewn ffyrdd all fod yn destun pryder

  • Ffigyrau swyddogol yr ONS ddoe yn dangos fod dros 7,000 o bobl bellach wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    A dyna ni. Cynhadledd gymharol fer heddiw. Fe fyddwn ni'n ôl efo chi ar gyfer yr un nesaf ddydd Gwener.

    Tan hynny, byddwch yn saff, a diolch am ddilyn.

  2. Tensiynau mewn cartrefi yn 'aruthrol'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywed Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr Cymreig fod tensiynau "yn aruthrol" mewn llawer o gartrefi gyda rhieni a'u plant yn profi problemau iechyd meddwl o ganlyniad i'r pandemig.

    "Mae plant yn profi anawsterau iechyd meddwl oherwydd eu bod yn colli eu ffrindiau yn yr ysgol, maen nhw'n colli eu teulu, ond hefyd mae'r rhieni eu hunain yn cael trafferth eu hunain, yn ceisio gweithio wrth ddysgu adref," meddai.

    "Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod y tensiynau sydd wedi bod yn rhedeg ledled cartrefi wedi bod yn aruthrol."

    Dywedodd ei bod yn falch y byddai plant iau yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf ond dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru gael "cynllun absoliwt, amlinelliad clir iawn" ar gyfer rhieni a phlant hŷn ar gyfer y ffordd ymlaen ar gyfer dychwelyd i'r ysgol.

  3. Pob diwrnod o ysgolion ar gau yn 'ddiwrnod o wastraff'wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Eluned Morgan bod Llywodraeth Cymru'n awyddus iawn i weld plant yn dychwelyd i'r ysgol mor fuan â phosib.

    Ychwanegodd bod pob diwrnod maen nhw'n parhau i fod i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth yn "ddiwrnod o wastraff".

    Mynnodd bod rhieni wedi gwneud "gwaith gwych" yn y cyfamser, ond bod elfen gymdeithasol yr ysgol a'r cymorth i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn rhywbeth nad oedd modd ei efelychu.

    Mae disgwyl rhagor o fanylion yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener am y cynllun i ailagor ysgolion yn llawn.

    ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Y DU gyfan i adael y clo efo'i gilydd yn 'ddelfrydol'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n gwneud "yr hyn sy'n iawn i Gymru" o ran llacio cyfyngiadau.

    Daeth sylwadau Eluned Morgan ar ôl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, ddweud bod sgyrsiau’n parhau rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU ynglŷn â dod allan o'r clo gyda'i gilydd.

    "Ar adegau, mae [Llywodraeth y DU] yn hapus i gysylltu â ni yn eithaf dwys ac ar adegau eraill dydyn nhw ddim yn siarad â ni am fisoedd," meddai Ms Morgan.

    "Mewn byd delfrydol, hoffem fod yn dod allan o'r cyfnod clo gyda'n gilydd, ond ar ddiwedd y dydd byddwn yn gwneud yr hyn sy'n iawn i ni yng Nghymru, a bydd hynny'n dibynnu ar gyfraddau'r haint a pha mor gyflym gallwn gyflwyno'r brechlyn, ac rydym yn gwneud yn anhygoel o dda yng Nghymru."

    Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud y byddai'r penderfyniadau nesaf yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener ar ddiwedd yr adolygiad 21 diwrnod cyfredol.

    Aeth Boris Johnson i ymweld â phencadlys Heddlu De Cymru ddydd Mercher hefyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Aeth Boris Johnson i ymweld â phencadlys Heddlu De Cymru ddydd Mercher

  5. Dim 'rhuthro' i ailagor twristiaethwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb rhai o gwestiynau'r wasg, mae Eluned Morgan yn dweud y byddai Cymru yn llacio'r cyfnod clo ar yr un pryd â gweddill y DU "mewn sefyllfa ddelfrydol".

    Ond pwysleisiodd na fyddan nhw'n "rhuthro" i ailagor y diwydiant twristiaeth erbyn dyddiad penodol fel penwythnos y Pasg.

    "Rydyn ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o sicrhau ein bod ni'n dilyn y dystiolaeth, dilyn y wyddoniaeth a dilyn y data," meddai.

    "Dydy hynny ddim wastad wedi bod yn wir yn rhannau eraill y DU."

    Ychwanegodd y byddai'n dda petai'r diwydiant twristiaeth yn medru ailagor mewn pryd i groesawu ymwelwyr o Lloegr, ond y byddai Cymru'n gwneud y "peth iawn i ni" er mwyn osgoi cynnydd arall mewn achosion.

    Eluned Morgan
  6. Gostyngiad pellach i brofion positif cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Cafwyd 292 o brofion positif mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiweddaraf - yr isaf a gofnodwyd ers dechrau mis Hydref.

    Mae profi preswylwyr oedrannus mewn cartrefi gofal yn parhau, er gwaethaf y rhaglen frechu, oherwydd bod cynghorwyr gwyddonol yn credu y byddai'n rhy gynnar i roi'r gorau iddi.

    Ledled Cymru, profwyd 31,872 o drigolion a staff yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Chwefror, fel rhan o’r drefn brofi wythnosol, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    O'r rheiny, profwyd 3,895 o breswylwyr cartrefi gofal ac roedd 110 (2.8%) yn bositif mewn canlyniadau o labordai'r GIG.

    Hefyd, profodd 70 o weithwyr cartrefi gofal yn bositif, gyda mwy na 98% o'r profion yn negyddol.

  7. £1.3m ychwanegol i'r Urddwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth droi at y celfyddydau, mae Ms Morgan yn cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod "ymhlith yr anoddaf erioed" i'r sector.

    Mae'r llywodraeth wedi rhoi £63m tuag at gefnogi'r diwydiant, meddai, gan grybwyll mentrau fel Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn sydd wedi manteisio.

    Mae hi hefyd wedi dweud y bydd yr Urdd yn derbyn £1.3m ychwanegol "i helpu’r mudiad unigryw yma i ail adeiladu".

    Bydd hynny'n helpu'r mudiad i ddiogelu a chreu hyd at 60 o swyddi newydd, a 300 o brentisiaethau newydd dros y dair blynedd nesaf.

    Urdd

    Mae'r mudiad wedi dweud eu bod nhw wedi colli £14m o incwm yn ystod 2020, ac yn wynebu dyled o £3.5m.

    Dywed yr Urdd mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 aelod staff wedi gadael allan o gyfanswm o 328.

  8. £15m yn rhagor i dechnoleg addysgwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Gyda'r plant ifancaf yn dechrau dychwelyd i'r ysgol o wythnos nesaf ymlaen, mae Eluned Morgan yn dweud y bydd mwy yn medru gwneud hynny hefyd dros yr wythnosau nesaf "wrth i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus wella".

    Ond mae'n cydnabod fod dysgu o adref wedi bod yn her i lawer, gan gynnwys i rieni.

    Oherwydd hynny, meddai, bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £15m yn rhagor mewn technoleg addysg dros y flwyddyn nesaf i wella cysylltedd ysgolion a'u disgyblion.

  9. Plant yn 'rhwystredig a blin' â'r pandemigwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Ms Morgan yn mynd ymlaen i drafod effaith y pandemig ar blant a’r sector greadigol, dau grŵp sydd "wedi dioddef mewn ffordd hynod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf".

    Mewn arolwg diweddar o dros 20,000 o blant, cafodd sawl peth eu hamlygu sydd wedi effeithio ar bobl ifanc Cymru a'u gwneud nhw'n "rhwystredig a blin" am effaith y pandemig.

    Yn eu plith roedd:

    • methu ffrindiau a theulu a methu allan ar brofiadau;
    • pryder plant yn eu harddegau am arholiadau a'u dyfodol;
    • bron i draean o bobl ifanc 17 ac 18 oed yn dweud eu bod yn bryderus y rhan fwyaf o'r amser;
    • cyfraddau unigrwydd yn uchel.
  10. 807,000 bellach wedi cael pigiad Covidwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Eluned Morgan yn dechrau'r gynhadledd heddiw drwy grybwyll y ffigyrau brechu diweddaraf yng Nghymru.

    Bellach mae dros 807,000 o bobl - bron i un o bob tri oedolyn yng Nghymru - wedi cael eu dos cyntaf.

    Dywedodd Ms Morgan fod cynnydd o 80% wedi bod hefyd yn y nifer gafodd eu hail ddos ddoe.

  11. Y gynhadledd ar fin dechrau...wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Mae modd gwylio hefyd ar S4C drwy'r iPlayer.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Cyfanswm achosion Covid dros 200,000wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Cafodd 374 o achosion newydd a 30 yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf.

    Mae'n golygu fod nifer yr achosion positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig wedi mynd heibio i 200,000 - ar 200,166.

    Yn y cyfamser, mae 807,351 o bobl bellach wedi cael un dos o'r brechlyn Covid - bron i un ymhob tri oedolyn.

    Mae 12,988 wedi cael dau ddos - cynnydd o bron i 80% yn y 24 awr ddiwethaf, medd Llywodraeth Cymru.

    Mae cyfradd yr achosion positif dros saith diwrnod wedi gostwng eto i 86 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Hunan-ynysu wedi costio £700 i fy nheulu'wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Mae hunan-ynysu wedi costio cannoedd o bunnoedd mewn cyflogau i bobl sydd ddim yn gallu hawlio cymorth ariannol, yn ôl ymchwil gan y BBC.

    Daw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd y cynllun grant hunan-ynysu o £500 yn cael ei ehangu fel bod mwy o bobl yn gymwys i'w hawlio.

    Roedd incwm teuluol Tracy Moore o Dreffynnon wedi gostwng £700 yn y mis diwethaf, a dywedodd wrth raglen Wales Live bod rhywbeth o'i le ar y system gymorth.

    Mae'r llywodraeth yn credu y bydd y newidiadau yn caniatáu i 170,000 yn rhagor o bobl fod yn gymwys i gael y grant.

    Collodd Tracy Moore a'i gŵr Jason gannoedd oherwydd hunan ynysuFfynhonnell y llun, Tracy Moore
    Disgrifiad o’r llun,

    Collodd Tracy Moore a'i gŵr Jason gannoedd oherwydd hunan-ynysu

  14. Effaith amrywiolyn newydd: 'Rhy fuan i ddweud'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Ymateb Dr Dylan Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor i'r amrywiolyn Covid-19 diweddaraf.

    Read More
  15. Canfod amrywiolyn newydd 'all fod yn bryderus'wedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i amrywiolyn newydd arall o'r coronafeirws yn y DU sy'n newid mewn ffyrdd all fod yn destun pryder.

    Mae'r amrywiolyn B.1.525 yn ymddangos yn debyg i amrywiolyn De Affrica, a arweiniodd at brofion ar garreg y drws mewn rhai ardaloedd.

    Hyd yma mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin wedi canfod 38 o achosion - dau yng Nghymru a 36 yn Lloegr - mewn samplau sy'n dyddio'n ôl i fis Rhagfyr.

    Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod gan y ddau achos o Gymru gysylltiad â theithio i Nigeria.

  16. Croesowedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich 17 Chwefror 2021

    Diolch am ymuno efo ni heddiw ar gyfer cynhadledd Llywodraeth Cymru.

    Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, fydd yn arwain heddiw.

    Arhoswch efo ni.