Crynodeb

  • Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething oedd yn arwain y gynhadledd ddydd Mercher

  • Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig brechlyn Covid i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf

  • Mr Gething yn dweud fod y llywodraeth am "ehangu profion yn y gweithle a'r gymuned" a chyflymu'r rhaglen frechu

  • Nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi gostwng am y bedwaredd wythnos yn olynol yng Nghymru - ONS

  • 13 o farwolaethau a 236 achos newydd o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau dyddiol diweddaraf

  • Cyfradd yr achosion wedi gostwng eto i 76 fesul 100,000 o'r boblogaeth

  • 878,506 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael un dos o'r brechlyn, gyda 59,279 wedi derbyn yr ail ddos

  • Ghana yw'r wlad gyntaf i dderbyn brechlynnau coronafeirws trwy fenter rhannu brechlyn Covax Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)

  1. Cynhadledd arall ar ben...wedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    ...wel, mae'r gynhadledd ei hun wedi gorffen ers bron i awr, ond dyna ddiwedd yr ymateb am rŵan hefyd.

    Am hyd yn oed mwy o ymateb, ac am y newyddion diweddaraf, ewch i hafan Cymru Fyw. Dyma'r prif benawdau a ddaeth o'r gynhadledd heddiw:

    • Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig brechlyn Covid i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf;
    • Nifer yr achosion yng Nghymru bellach ar eu hisaf ers diwedd Medi'r llynedd;
    • Grwpiau blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn bellach yn cynnwys gofalwyr di-dâl a phobl gydag anawsterau dysgu neu salwch meddwl difrifol;
    • Mae mwy na 878,500 o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid hyd yma.

    Ac ar hynny, hwyl fawr iawn i chi, a diolch am ddilyn.

  2. Cartrefi gofal: 'Siomedig iawn' gyda sylwadau 'amwys'wedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd Janet Finch-Saunders - yr Aelod o'r Senedd dros y Ceidwadwyr yn Aberconwy - fod y newyddion y byddai pob oedolyn yng Nghymru yn cael cynnig y brechlyn coronafeirws erbyn diwedd mis Gorffennaf yn newid "enfawr".

    Ond dywedodd wrth i fwy o bobl gael eu brechu "felly hefyd y bydd y disgwyliadau hynny'n tyfu".

    Roedd hefyd yn "siomedig iawn" bod Vaughan Gething wedi bod yn "amwys" yn y gynhadledd newyddion am ymweliadau â chartrefi gofal.

    "Mae pobl wedi dioddef yn fawr o ganlyniad i beidio â gweld eu hanwyliaid sy’n agored iawn i niwed yn y cartrefi gofal hynny," meddai wrth BBC Cymru.

    "Mae Lloegr eisoes wedi gwneud y cyhoeddiadau ynghylch caniatáu ymweliadau ym mis Mawrth."

  3. Croesawu'r cyhoeddiad ynglŷn â blaenoriaethu'r brechlynwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd Delyth Jewell, AS Plaid Cymru Dwyrain De Cymru, ei bod yn croesawu cyhoeddiad y gweinidog iechyd y byddai canllawiau yn cael eu cyhoeddi ynglŷn â blaenoriaethu'r brechlyn ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu neu salwch meddwl difrifol, a gofalwyr di-dâl.

    "Gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr," meddai, "mae hwn yn ddiwrnod cyffrous i'r holl ymgyrchwyr sydd wedi bod yn brwydro mor galed am newid yn y polisi.

    "Pe bai ni'n edrych ar nifer trigolion cartrefi gofal gydag anawsterau dysgu rydym yn sôn am o bosib 3,500 o bobl - byddai hynny tua 10% o frechiadau sy'n cael eu rhoi mewn diwrnod yng Nghymru," meddai.

    Dywedodd ei bod wedi bod yn ymgyrchu dros y newid am nifer o wythnosau ac yn cwestiynu "pan nad oedd modd rhoi’r sicrwydd i deuluoedd bythefnos yn ôl".

    Delyth Jewell
  4. 'Dylid brechu pobl â chlefydau'r ysgyfaint yn gynt'wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Dylai pobl gydag asthma a chlefydau eraill yr ysgyfaint fod yn flaenoriaeth yng nghymal nesaf y rhaglen frechu rhag Covid-19, yn ôl partneriaeth sy'n cynrychioli dioddefwyr.

    Mae cleifion sydd â'r symptomau mwyaf difrifol wedi'u cynnwys o fewn y grwpiau blaenoriaeth ond mae'r Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig ac Asthma UK yn poeni bod y gweddill yn syrthio trwy fylchau'r rhaglen frechu.

    Maen nhw'n pwyso ar bedair llywodraeth y DU i sicrhau fod pob dioddefwr asthma yn cael ei cynnwys yng ngrwpiau blaenoriaeth 4 neu 6 y rhaglen.

    Dywed Llywodraeth Cymru fod pobl â symptomau difrifol o'r fogfa yn cael blaenoriaeth gan fod mwy o berygl iddyn nhw petaen nhw'n dal y feirws.

    asthmaFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Ymweliadau cartrefi gofal: Dim newid ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â chartrefi gofal, dywedodd Mr Gething yn y gynhadledd nad oedd yn gallu dweud pryd fydd pobl yn gallu dechrau ymweld ag anwyliaid unwaith eto.

    Fe wnaeth Mr Gething gyfeirio at y "niwed aruthrol" sy'n cael ei achosi pan mae'r feirws yn ymledu i gartrefi gofal.

    "Ni allaf ragdybio'r nifer o ddyddiau nac wythnosau pan fydd y cyngor yma yn newid, ond dyw hyn ddim yn fater o'r brechlyn yn unig, mae angen ystyried y llwyddiant wrth rwystro'r feirws ledled y wlad.

    "Y lleiaf yw lefel y feirws, y mwyaf tebygol y byddwn yn gweld newidiadau i'r rheolau ynglŷn ag ymweld."

    Dywedodd hyd yn oed pe bai yna benderfyniad i ailddechrau ymweliadau, byddai hynny yn y pendraw yn benderfyniad i'r cartref unigol.

    Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn cynllun profion cyflym ar gyfer cartrefi gofal er mwyn gwneud y broses o ymweld yn fwy diogel.

    cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Gething yn cwestiynu cynllun ysgolion Lloegrwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Beth oedd ymateb Vaughan Gething i gwestiwn am y 'map ffordd'?

    Wel, dywedodd nad ydy penderfyniad Llywodraeth y DU i ailagor ysgolion i bob plentyn yn Lloegr ar yr un pryd yn unol â chyngor meddygol a gwyddonol.

    "Nid yw’r cyngor gan y prif swyddogion meddygol a chyngor tystiolaeth wyddonol yn ddim gwahanol yn y DU mewn gwirionedd," meddai.

    "Yr hyn y mae Lloegr wedi dewis ei wneud serch hynny yw symud i ffwrdd o'r cyngor o gael dull mwy graddol o ailagor ysgolion, a chael rhyw 'big bang' o ailagor i bawb ar yr 8fed o Fawrth."

    Dywedodd Mr Gething hefyd mai ei ddewis o hyd oedd cymryd agwedd ar y cyd gyda gweddill y DU tuag at leddfu cyfyngiadau cymaint â phosib.

    Ond honnodd na gafodd Llywodraeth Cymru wybod am fanylion map ffordd y Prif Weinidog, Boris Johnson ar gyfer Lloegr tan y diwrnod y cawson nhw eu cyhoeddi.

    Awgrymodd Vaughan Gething fod Boris Johnson (uchod) wedi mynd yn groes i gyngor meddygolFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Awgrymodd Vaughan Gething fod Boris Johnson (uchod) wedi mynd yn groes i gyngor meddygol unwaith eto

  7. Disgwyl cyngor am frechu pobl dan 50wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Gweinidog Iechyd Cymru ei fod yn disgwyl i fwy o ganllawiau gael eu cyhoeddi gan y JCVI yn ystod y dyddiau nesaf ynglŷn â blaenoriaethu brechiadau ar gyfer pobl dan 50 oed.

    Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd Vaughan Gething: "Rydyn ni wedi gofyn cwestiynau fel y mae llywodraethau eraill yn y DU ynghylch a ddylid blaenoriaethu o fewn [y grŵp yna].

    "Pan ddaw'r cyngor, fe gewch chi ymateb uniongyrchol gan y llywodraeth o fewn cyfnod byr," meddai.

  8. Addewid am arian i wasanaethau iechyd meddwlwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir, yn ystyried y pwysau ychwanegol sydd wedi ei roi ar gyflwr iechyd meddwl pobl o ganlyniad i'r pandemig, meddai'r gweinidog iechyd.

    Dywedodd Mr Gething fod cynnydd sylweddol wedi bod yn yr arian sydd eisoes yn cael ei roi i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gan addo y byddai hyn yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

    "Wrth i ni roi mwy o arian i'r gwasanaethau yma...fe fydd yn rhaid i'r arian rydym yn cynllunio ei roi i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesa gymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn gofynion o ran iechyd meddwl," meddai.

    Ychwanegodd fod cyfnod y pandemig wedi gweld cynnydd mawr yn y modd mae gwasanaethau ar gyfer cyflwr iechyd ac iechyd meddwl pobl yn cael ei ddarparu.

    Golygai hyn, meddai, y byddwn "â dulliau llawer gwell o ran darparu ystod o wasanaethau yn y dyfodol".

    vg
  9. Beth ydy'r ffigyrau brechu diweddaraf?wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Mae mwy na 878,500 o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid, tra bod bron i 60,000 bellach wedi cael y cwrs llawn.

    Yn y ffigyrau diweddaraf ar gyfer dydd Mawrth cafodd 8,853 ddos ​​gyntaf; a derbyniodd 9,550 eu hail ddos - y mwyaf mewn diwrnod hyd yma.

    Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 27.9% o'r boblogaeth wedi cael dos cyntaf ac 1.88% wedi cael brechiad llawn.

    Mae 60,801 o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf (1 i 4) heb gael neu heb gymryd dos cyntaf o hyd.

    Bellach mae cyfanswm o 878,506 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae 59,279 arall wedi cael y brechlyn llawn.

  10. Canllawiau i helpu grwpiau penodol o boblwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Gething y byddai Llywodraeth Cymru heddiw yn cyhoeddi canllawiau fydd yn ceisio cynyddu niferoedd grwpiau penodol fydd yn derbyn y brechlyn.

    Mae'r grwpiau yn cynnwys gofalwyr di-dâl a phobl gydag anawsterau dysgu neu salwch meddwl difrifol.

    Dywedodd Mr Gething fod grŵp yma o bobl yn un mawr "ac fe allai gymryd peth amser i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gynnig apwyntiadau i bawb".

    "Ond plîs byddwch yn ymwybodol fod y gwasanaeth iechyd yn gweithio yn galed ac na fydd yna unrhyw un yn cael ei anghofio."

    Jo WhileyFfynhonnell y llun, Shuttershock
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd chwaer Jo Whiley, Frances (chwith), sydd ag anabledd dysgu a diabetes, ei chymryd i'r ysbyty gyda Covid

    Ychwanegodd Mr Gething fod y llywodraeth eisoes wedi adolygu eu cynlluniau ar gyfer "ailagor yr economi a chymdeithas" yng ngoleuni'r rhaglen frechu ond hefyd yn wyneb ymddangosiad amrywiolion newydd.

    Dywedodd wrth y gynhadledd eu bod yn astudio cynlluniau Lloegr a'r Alban yn ofalus ac yn adeiladu ar y dystiolaeth diweddara sydd ar gael am y ffordd mae'r feirws yn ymledu.

    "Yma yng Nghymru, fe fyddwn o hyd yn cymryd penderfyniad sydd er budd pobl Cymru," meddai.

    Mae'r pwyllgor sy'n cynghori llywodraethau'r DU - JCVI - wedi rhoi'r cyngor diweddaraf yn sgil ple gan y DJ Jo Whiley i bobl fel ei chwaer, Frances, gael eu brechu cyn gynted â phosib.

    Cynigiwyd y brechlyn i Whiley o flaen ei chwaer, sydd â syndrom genetig prin ac sy'n byw mewn gofal preswyl.

    Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi mynnu y byddan nhw'n dilyn cyngor JCVI.

  11. Bwriad cynnig brechlyn i bawb erbyn 31 Gorffennafwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig brechlyn Covid i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf.

    Dywedodd fod hynny yn amodol ar gael cyflenwad mewn da bryd.

    Bydd mwy o fanylion ar newidiadau i'r rhaglen frechu yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon, meddai.

    Ond dywedodd - eto, yn amodol ar gyflenwad - y byddai pawb yn y grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 yn cael cynnig brechiad erbyn canol mis Ebrill.

    Mae'r rhain yn cynnwys:

    • Pawb rhwng 50 a 69 oed;
    • Pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o salwch difrifol gyda coronafeirws;
    • "Llawer" o ofalwyr di-dâl sy'n darparu gofal i rywun sy'n agored i niwed clinigol i'r feirws.
  12. 'Profi mwy yn y gweithle a'r gymuned'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Mr Gething fod y llywodraeth am "ehangu profion yn y gweithle a'r gymuned" a chyflymu'r rhaglen frechu.

    "Rydyn ni'n gwybod bod tua un o bob tri o bobl sydd â coronafeirws yn dangos dim symptomau ac yn lledaenu'r feirws yn ddiarwybod," meddai.

    "Trwy brofi pobl yn y gweithle yn aml gallwn adnabod pobl asymptomatig a'u cysylltiadau yn gyflymach ac, yn hanfodol, helpu i leihau lledaeniad y feirws ofnadwy hwn.

    "Mae profion rheolaidd ar gyfer ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol eisoes wedi cychwyn, ac rydym bellach yn ymestyn hyn i brofi staff sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant, ysgolion a cholegau addysg bellach.

    "Bydd y cynlluniau hyn yn golygu bod dros 250,000 o weithwyr ledled Cymru yn cael mynediad at brofion wythnosol gan ddefnyddio profion sy'n rhoi canlyniadau mewn llai na hanner awr."

    Canolfan brofi gyrru trwodd yn ardal Glyn EbwyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Canolfan brofi gyrru trwodd yn ardal Glyn Ebwy

    Mae'r fframwaith newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn ymestyn y profion cyflym a rheolaidd yma i sefydliadau cyhoeddus a phreifat gyda mwy na 50 o weithwyr, meddai Mr Gething.

    O'r wythnos nesaf ymlaen, ychwanegodd, bydd profion cymunedol yn cychwyn mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

    Rhybuddiodd y byddai'n bosib i'r ffigyrau achosion godi yn sgil ehangu'r cynllun profi.

    Nid yw hynny "o reidrwydd" yn beth drwg, meddai.

  13. Y sefyllfa yma yn 'parhau i wella'wedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dechrau'r gynhadledd drwy ddweud ei bod yn "bleser" gweld plant yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon.

    Dywedodd fod y sefyllfa yn parhau i wella yng Nghymru, ac mae nifer yr achosion bellach ar eu hisaf ers diwedd Medi'r llynedd.

    Mae yna 76 achos fesul 100,000 o bobl ar gyfartaledd drwy Gymru gyfan ar hyn o bryd, meddai.

    "Mae'r achosion yn gostwng yn y rhan fwyaf o lefydd yng Nghymru ac mae'r rhif R rhwng 0.6 a 0.9," meddai.

    Ychwanegodd fod mwy na 878,000 o bobl bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn Covid-19.

  14. Gwyliwch yn fyw...wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Mae hefyd modd gwylio'n fyw yma ar iPlayer.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Hart yn amddiffyn penderfyniad Lloegr ar addysgwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Llywodraeth y DU

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi amddiffyn penderfyniad Boris Johnson y dylai pob disgybl yn Lloegr ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth ar 8 Mawrth.

    Dywedodd Mr Hart fod y penderfyniad yn "bendant yn cydymffurfio" gyda chyngor gwyddonol.

    Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething wedi dweud na fyddai cam o'r fath yn ddiogel.

    Mae'n bosib na fydd rhai o ddisgyblion uwchradd Cymru yn dychwelyd i'r ysgol tan ar ôl gwyliau'r Pasg.

    Simon HartFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Simon Hart wedi dweud mai "penderfyniad gwleidyddol" ydy un Llywodraeth Cymru i beidio dilyn Boris Johnson

  16. 13 marwolaeth a 236 achos newyddwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Roedd 13 o farwolaethau a 236 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau dyddiol diweddaraf.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi cyfanswm o 202,560 o achosion hyd yma, a 5,263 o farwolaethau ers dechrau'r pandemig.

    Ond mae'n debygol fod y ffigyrau yma'n uwch mewn gwirionedd.

    Mae cyfradd yr achosion wedi gostwng eto i 76 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

    Mae 878,506 o bobl bellach wedi cael un dos o'r brechlyn, gyda 59,279 wedi derbyn yr ail ddos.

  17. Polisi 'dim brechlyn, dim swydd' yn her i gwmnïauwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Disgwyl sawl tribiwnlys cyflogaeth wrth i gwmnïau ystyried polisi 'dim brechlyn, dim swydd'.

    Read More
  18. Gweddw yn galw am newid rheol 'creulon'wedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Mae menyw a gollodd ei gŵr 10 mis ar ôl y tro diwethaf iddyn nhw fedru dal dwylo'i gilydd wedi sôn am y "creulondeb" o beidio caniatáu ymweliadau i gartrefi gofal.

    Bu farw gŵr Lynn Parker, Alistair, ychydig cyn y Nadolig mewn cartref gofal yng Nghaerffili.

    Dywedodd hi ei fod wedi "rhoi'r gorau iddi" wedi 10 mis o fethu dal llaw ei wraig gan mai hi oedd ei "linell bywyd".

    Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried caniatáu mwy o ymweliadau dan do nawr bod y brechlyn yn cael ei ddosbarthu.

    Darllenwch ein prif stori yn llawn yma.

    Doedd Lynn Parker ddim wedi gallu gafael yn llaw ei gŵr am 10 mis cyn ei farwolaethFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Doedd Lynn Parker ddim wedi gallu gafael yn llaw ei gŵr am 10 mis cyn ei farwolaeth

  19. Croesowedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 24 Chwefror 2021

    Diolch am ymuno efo ni heddiw ar gyfer cynhadledd Llywodraeth Cymru.

    Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fydd yn dod â'r diweddaraf i ni heddiw o 12:15.

    Arhoswch efo ni.